Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn dymuno Nadolig diwastraff a Blwyddyn Newydd wyrddach i'w holl drigolion yn rhan o'i ymgyrch ailgylchu dros y Nadolig ddiweddaraf. Mae'r ymgyrch yn ceisio annog pawb i ailgylchu cymaint â phosibl, yn enwedig unrhyw fwyd sy'n weddill.
Enw'r ymgyrch yw 'Mae Rhondda Cynon Taf yn cynnig Nadolig GWYRDDACH i chi' a bydd yn ceisio annog yr holl drigolion iailgylchu eu gwastraff bwyd a lledaenu'r hwyl!
Mae tymor y Nadolig yn amser i fwynhau, bod gyda'ch anwyliaid, a bwyta bwydydd blasus. Serch hynny, mae'n aml yn arwain at gynnydd mewn gwastraff bwyd, a all gael effaith negyddol ar yr amgylchedd. Nod yr ymgyrch yma yw codi ymwybyddiaeth am leihau gwastraff bwyd dros gyfnod y Nadolig a rhoi awgrymiadau ymarferol i helpu i ddathlu Nadolig gwyrddach.
Mae gwastraff bwyd yn cyfrannu'n sylweddol at allyriadau nwyon tŷ gwydr. Pan fydd bwyd yn cael ei wastraffu, mae'r adnoddau a gaiff eu defnyddio i'w gynhyrchu, fel dŵr, ynni a llafur, hefyd yn cael eu gwastraffu. Drwy leihau gwastraff bwyd, gallwn ni leihau ein hôl troed carbon a chyfrannu at blaned iachach. Ar gyfer gwastraff bwyd arferol, gallwn ni ei ailgylchu am ddim bob wythnos o ymyl y ffordd.
Gwastraff bwyd yw 20% o'r gwastraff sy'n cael ei gasglu bob mis yn Rhondda Cynon Taf. Y newyddion da yw bod modd defnyddio’r gwastraff bwyd sy’n cael ei ailgylchu i gynhyrchu ynni ar gyfer tua 1,180 o gartrefi!
Amcangyfrifir bod gwastraff cyffredinol o'r cartref hefyd yn cynyddu dros 30% yn ystod y cyfnod sy'n golygu llawer o ailgylchu ychwanegol!
Mae'r Cyngor yn gofyn i'w drigolion roi'r holl ymdrechion anhygoel y maen nhw wedi'u dangos hyd yma eleni i gael Nadolig gwyrddach, trwy helpu i gynnig Blwyddyn Newydd ddiwastraff!
Gall trigolion fwynhau Nadolig gwyrddach drwy ailgylchu'r gwastraff bwyd anochel (esgyrn twrci, plisg wyau, gweddillion o'r plât ac ati), poteli plastig ychwanegol, papur lapio, cardiau Nadolig, coed Nadolig go iawn, tybiau a hambyrddau, caniau metel, ffoil, poteli gwydr, jariau, bocsys cardfwrdd a llawer yn rhagor dros y Nadolig.
Wrth gwrs, y peth hawsaf i'w ailgylchu yw'r holl blastig, papur a chardfwrdd y dewch chi ar eu traws dros gyfnod y Nadolig.
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden:
"Hoffwn ddymuno Nadolig gwyrddach i'n holl drigolion a diolch i bob un ohonyn nhw am gefnogi dyfodol gwyrddach ar gyfer RhCT drwy gydol y flwyddyn.
"Mae cyfnod y Nadolig yn golygu gwastraff ychwanegol ac mae'n amser gwych i chi ddechrau meddwl yn wyrdd ac ailgylchu'r holl ddeunydd pacio ychwanegol, papur lapio a chardiau.
"Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn annog trigolion i ddal ati gyda'r gwaith da drwy gydol y flwyddyn. Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaeth ailgylchu hygyrch ac arloesol, ac mae hyn yn mynd law yn llaw â'r gwaith parhaus o addysgu'r cyhoedd a chodi ymwybyddiaeth yn eu plith.
“Mae ein trigolion wedi gwneud ymdrech wych i ailgylchu'u gwastraff bwyd yn wythnosol hyd yma.
“Mewn cam rhyfeddol tuag at ddyfodol cynaliadwy a gwyrddach, mae’n bleser gen i gyhoeddi, o ganlyniad i'r drefn newydd o gasglu bagiau du yn lle biniau ar olwynion, mae cynnydd sylweddol yn y ffigurau ailgylchu gwastraff bwyd. Mae hyn felly'n golygu ein bod yn rhagweld bydd yn Flwyddyn Newydd ddiwastraff, ac y byddwn ni'n osgoi dirwyon o tua £500,000 gan Lywodraeth Cymru.
“Mae’r ffigurau ailgylchu diweddaraf yn dangos yn gyson ein bod wedi bwrw'r targed o ailgylchu dros 70% ers dau fis, am y tro cyntaf erioed!”
“Rwy’n siŵr, gyda’n gilydd, y gallwn ni barhau â’r ymdrechion mawr a sicrhau ein bod yn dal i fwrw unrhyw darged mae Llywodraeth Cymru yn ei osod, a gwneud 2025 yn Flwyddyn Newydd wyrddach fyth.”
Ar ôl agor yr anrhegion a phendroni ynghylch sut i glirio'r mynydd o focsys, bagiau papur a phapur lapio – ewch i ôl bag ailgylchu clir a'i lenwi.
Rhowch yr HOLL bapur lapio mewn bag CLIR ar wahân, gan gynnwys papur lapio ffoil neu sgleiniog. Gwnewch focsys cardfwrdd a bagiau papur yn wastad er mwyn gwneud lle yn eich bag ailgylchu.
Er mwyn gwneud rhagor o le yn eich cartref, mae modd i chi fynd ag eitemau does dim modd eu casglu o ymyl y ffordd, fel hen deganau, dillad neu nwyddau trydanol, i ganolfan ailgylchu yn y gymuned. Sicrhewch eich bod chi'n rhoi trefn ar eich gwastraff cyn ymweld â ni.
Mae'r Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned ar agor rhwng 8.30am a 4.30pm bob dydd ac eithrio 24 a 31 Rhagfyr pan fyddan nhw'n cau am 3.30pm. Bydd pob canolfan ar gau ar Ddydd Nadolig, Dydd San Steffan a Dydd Calan, gan ail-agor ddydd Iau 2 Ionawr 2024.
Ewch i www.rctcbc.gov.uk/AilgylchuAdegNadolig am fanylion llawn.
Syniadau ar gyfer Lleihau Gwastraff Bwyd y Nadolig yma
Cynlluniwch Eich Prydau Bwyd
- Creu Bwydlen: Cynlluniwch eich prydau Nadolig ymlaen llaw i osgoi gor-brynu cynhwysion.
- Maint eich Dognau Bwyd: Coginiwch faint o fwyd sydd ei angen arnoch yn unig i leihau'r bwyd sy'n weddill. Ystyriwch nifer y gwesteion a'u dewisiadau dietegol.
Dewisiadau Doeth wrth Siopa
- Gwnewch Restr Siopa: Cadwch at y rhestr er mwyn eich atal rhag prynu pethau a allai fynd yn wastraff.
- Prynu'n Lleol ac yn Dymhorol: Cefnogi ffermwyr lleol a lleihau allyriadau o ran cludiant trwy brynu cynnyrch tymhorol.
Sbwriel ac Ailgylchu
- Bod yn Greadigol â'ch Bwyd: Defnyddiwch fwyd sy'n weddill i greu prydau newydd, fel cawl neu frechdanau, er mwyn lleihau gwastraff.
- Bryn Bin, Cadi Gwastraff Bwyd: Defnyddiwch eich cadi gwastraff bwyd ar gyfer sbarion bwyd neu fwyd does dim modd ei fwyta, e.e. plisg wyau, esgyrn twrci.
Am ragor o wybodaeth ac awgrymiadau ynghylch ailgylchu eich gwastraff Nadolig, dilynwch ni ar Facebook a Twitter neu ewch i www.rctcbc.gov.uk/AilgylchuAdegNadolig.
Newidiadau i'r trefniadau casglu dros gyfnod y Nadolig:
Bydd eich casgliadau wythnosol ar gyfer deunyddiau i'w hailgylchu, bwyd, cewynnau a gwastraff bagiau du yn newid yn ystod wythnos y Nadolig.
Bydd casgliadau wedi'u trefnu ar gyfer dydd Mercher, 25 Rhagfyr yn cael eu casglu ddydd Gwener, 27 Rhagfyr a byddan nhw'n digwydd 2 ddiwrnod yn ddiweddarach drwy'r wythnos – dydd Gwener yn lle dydd Mercher, dydd Sadwrn yn lle dydd Iau, dydd Sul yn lle dydd Gwener.
Dylech chi roi'r holl wastraff a deunydd ailgylchu'r cartref (ynghyd â gwastraff bwyd a chewynnau) yn y man casglu arferol erbyn 7am ar y diwrnod casglu dros dro.
Diwrnodau Gwaith Arferol
|
Diwrnodau Casglu Dros Dro
|
Dydd Llun 23 Rhagfyr
|
Dim Newid
|
Dydd Mawrth 24 Rhagfyr
|
Dim Newid
|
Dydd Mercher 25 Rhagfyr
|
Dydd Gwener 27 Rhagfyr
|
Dydd Iau 26 Rhagfyr
|
Dydd Sadwrn 28 Rhagfyr
|
Dydd Gwener 27 Rhagfyr
|
Dydd Sul 29 Rhagfyr
|
Bydd casgliadau yn digwydd yn ôl yr arfer ddydd Llun, 30 Rhagfyr a dydd Mawrth, 31 Rhagfyr. Bydd casgliadau yn digwydd diwrnod yn ddiweddarach o Ddydd Calan (dydd Mercher) – felly bydd casgliadau ar ddydd Mercher yn digwydd ar ddydd Iau ac ati. Mae hyn yn berthnasol i’ch HOLL gasgliadau sydd wedi’u hamserlennu – ailgylchu, bwyd, cewynnau a gwastraff bagiau du – o ddydd Mercher, 1 Ionawr (wythnos y Flwyddyn Newydd) – Fydd DIM CASGLIADAU ar Ddydd Calan.
Dylech chi roi’r holl wastraff a deunydd ailgylchu'r cartref (ynghyd â gwastraff bwyd a chewynnau) yn y man casglu arferol erbyn 7am ar y diwrnod casglu dros dro.
Diwrnodau Gwaith Arferol
|
Diwrnodau Casglu Dros Dro
|
Dydd Llun 30 Rhagfyr
|
Dim Newid
|
Dydd Mawrth 31 Rhagfyr
|
Dim Newid
|
Dydd Mercher 1 Ionawr
|
Dydd Iau 2 Ionawr
|
Dydd Iau 2 Ionawr
|
Dydd Gwener 3 Ionawr
|
Dydd Gwener 3 Ionawr
|
Dydd Sadwrn 4 Ionawr 2013
|
Bydd gwasanaethau eraill, fel y gwasanaeth casglu gwastraff mawr a danfon biniau ar olwynion / biniau gwastraff bwyd yn cael eu hatal dros dro o'r wythnosau yn dechrau 25 Rhagfyr a 1 Ionawr. Bydd hyn yn ein galluogi ni i ddefnyddio cynifer o adnoddau â phosibl i gasglu'r llwyth mawr o wastraff ailgylchu rydyn ni'n ei ddisgwyl eleni.
Bydd y gwasanaethau arferol yn ailddechrau ddydd Llun 6 Ionawr.
Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned
Mae'r Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned ar agor rhwng 8.30am a 4.30pm bob dydd ac eithrio 24 a 31 Rhagfyr pan fyddan nhw'n cau am 3.30pm. Bydd pob canolfan ar gau ar Ddydd Nadolig, Dydd San Steffan a Dydd Calan, gan ail-agor ddydd Iau, 2 Ionawr 2024.
Casgliadau Coed Nadolig Go Iawn a Gwastraff Gwyrdd:
O 2 Rhagfyr, mae modd i chi drefnu i'ch coeden Nadolig go iawn gael ei chasglu o ochr y ffordd rhwng 2 Ionawr a 31 Ionawr 2025.
RHAID gwneud hyn yma: www.rctcbc.gov.uk/CoedNadolig neu drwy ffonio 01443 425001. Fydd archebion ddim yn cael eu derbyn drwy system y gwasanaeth Casglu Gwastraff Gwyrdd y Gaeaf gan ei fod ddim ar gael yn ystod y cyfnod yma.
Bydd y gwasanaeth Casglu Gwastraff Gwyrdd y Gaeaf (gan gynnwys coed Nadolig sydd heb eu trefnu i gael eu casglu) yn cael ei ohirio yr wythnos yn dechrau dydd Llun 25 Rhagfyr. Bydd y gwasanaeth Casglu Gwastraff Gwyrdd y Gaeaf wedi'u trefnu yn ailddechrau ddydd Llun, 13 Ionawr 2024. Bydd modd i chi fynd â'ch gwastraff gwyrdd, gan gynnwys coed Nadolig go iawn (heb fag), i'ch canolfan ailgylchu yn y gymuned leol drwy gydol cyfnod yr ŵyl.
Rhaid i drigolion drefnu amser ar gyfer casglu eu coeden o leiaf 24 awr cyn eu diwrnod casglu dros dro gan na fydd y goeden yn cael ei chasglu'n awtomatig: www.rctcbc.gov.uk/CoedNadolig
Yn ystod y cyfnod trefnu amser, mae modd i goed Nadolig cael eu gosod wrth ochr y ffordd yn gyfan. Ond, rhaid i goed sydd yn fwy na 4 troedfedd cael eu torri'n ddarnau llai fel bod modd i'r criwiau eu codi'n ddiogel. Tynnwch BOB golau, seren ac addurn ymlaen llaw.
Nodwch: Mae modd mynd â choed Nadolig ffug i Ganolfan Ailgylchu yn y Gymuned neu mae modd i chi drefnu i'r goeden cael ei chasglu os ydych chi eisiau cael gwared arni.
Cofiwch roi'r HOLL sbwriel a'r deunyddiau i'w hailgylchu allan erbyn 7am ar eich diwrnod casglu neu ddiwrnod caglu dros dro. Peidiwch â'u rhoi allan cyn hynny rhag ofn y byddan nhw'n gorlifo ac yn peri trafferthion i gerddwyr sy'n defnyddio'r pafin.
Os nad ydyn ni wedi casglu'ch gwastraff / eitemau ailgylchu yn ôl y disgwyl, gadewch yr eitemau ar y pafin. Mae'n bosibl bod ein gweithwyr yn gweithio oriau ychwanegol er mwyn ateb y galw. Mae'n bosibl y bydd ein criwiau'n gweithio gyda'r nos yn ystod cyfnodau prysur, ac mae modd i staff ychwanegol cael eu galw i gael gwared ar yr eitemau'r diwrnod canlynol.
Mae modd i drigolion i ymweld ag un o'r nifer o fannau casglu ar draws Rhondda Cynon Taf cyn cyfnod yr ŵyl i gasglu digon o fagiau ailgylchu – dewch o hyd i'ch man casglu agosaf yma: www.rctcbc.gov.uk/bagiau.
Hefyd, hoffai carfan Gofal y Strydoedd atgoffa trigolion i barcio'n synhwyrol er mwyn sicrhau bod modd i'r lorri ailgylchu ddod i lawr eich stryd.
Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi'r awgrymiadau canlynol ar gyfer 'Nadolig Gwyrdd'
- Golchwch gynwysyddion bwyd a photeli diodydd yn y dŵr sy'n weddill ar ôl i chi olchi'ch llestri cyn eu rhoi nhw yn eich bagiau ailgylchu!
- Sicrhewch fod digon o fagiau ailgylchu gyda chi cyn cyfnod y Nadolig. Mae modd casglu bagiau o'r mannau casglu ledled Rhondda Cynon Taf.
- Parciwch yn synhwyrol, fel bod modd i gerbydau gael mynediad at eich stryd chi'n ddiogel.
- Cofiwch roi'r sbwriel a'r deunyddiau i'w hailgylchu allan erbyn 7am ar eich diwrnod casglu. Peidiwch â'u rhoi allan cyn hynny rhag ofn y byddan nhw'n gorlifo ac yn peri trafferthion i gerddwyr sy'n defnyddio'r palmant.
- Rhowch yr HOLL bapur lapio a bagiau anrhegion mewn bag CLIR ar wahân gan gynnwys papur ffoil a chynnyrch sgleiniog.
- Mae modd trefnu i ni gasglu'ch coeden Nadolig go iawn o 6 Rhagfyr ar-lein: www.rctcbc.gov.uk/CoedNadolig
Wedi ei bostio ar 09/12/2024