Skip to main content

'Dw i'n meddwl ei bod hi'n perfformio'n well na Bonnie Tyler' – Oedolion gydag Anableddau Dysgu yn serennu yn sioe Time Machine Chronicles

Mae'r bobl sy'n mynychu Learning Curve Rhondda Cynon Taf, sef gwasanaeth cymorth anableddau dysgu arloesol Cyngor Rhondda Cynon Taf, wedi cynnal perfformiad theatrig syfrdanol yn dathlu diwylliant a hanes Cymru. Roedd hyn ond yn bosibl gyda chymorth ein partneriaid, Forget Me Not Productions, ac ein carfan ymroddedig yn Learning Curve.

Cafodd sioe 'The Time Machine Chronicles' ei hariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a Chyngor Celfyddydau Cymru, ac mae'n ddathliad o dreftadaeth a hanes Cymru a diwylliant y Cymoedd. Mae'r sioe yn cynnwys golygfeydd o gêm rygbi yng Nghymru, Streic y Glowyr a gorymdeithiau'r glowyr a'u teuluoedd, bingo a chanu mewn clwb traddodiadol yn y Cymoedd a chynrychiolaeth o fywyd teuluol yng Nghymru mewn tai teras ar Stryd y Capel.

Cafodd y perfformiadau eu cyfoethogi gan gerddoriaeth artistiaid eiconig o Gymru megis Tom Jones, Stereophonics, Catatonia, Manic Street Preachers, Bonnie Tyler, Shirley Bassey, a Charlotte Church.

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol:  "Rwy'n falch o weld Learning Curve Rhondda Cynon Taf yn cymryd rhan mewn prosiect mor unigryw sy'n meithrin cynhwysiant a chreadigedd ymhlith oedolion ag anableddau dysgu.

"Dyma gynhyrchiad unigryw sydd wedi darparu cyfle i unigolion ymgysylltu â phrosiect creadigol wedi'i deilwra i'w hanghenion a galluoedd unigol. Roedd cyfranogwyr yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn ffyrdd oedd yn addas ar eu cyfer, boed hyn drwy berfformio ar y llwyfan neu gynorthwyo â gwaith creu set a cherddoriaeth y tu ôl i'r llen. Roedd pob person wedi derbyn rôl oedd yn cyfateb i'w cryfderau.

"Roedd cerddoriaeth hefyd yn chwarae rôl allweddol yn y perfformiad gyda sawl unigolyn yn defnyddio'r trac sain i ddangos pa olygfa neu berfformiad oedd yn dod nesaf. Mae hyn yn amlygu pwysigrwydd ymgorffori elfennau megis cerddoriaeth er mwyn sicrhau cynhwysiant mewn prosiectau o'r math yma."

Cafodd y prosiect ei gyfarwyddo gan Clary Saddler a Sue Lewis o Forget Me Not Productions ac roedd hefyd yn defnyddio technoleg gynorthwyol gan yr arbenigwr Mel Saddler, a chymorth technegol gan Sound Sync Limited.

Meddai Cynrychiolwyr o Forget Me Not Productions: "Mae Forget Me Not Productions yn angerddol dros alluogi unigolion â'r anableddau corfforol a gwybyddol mwyaf cymhleth i gymryd rhan yn annibynnol mewn prosiectau megis 'Time Machine Chronicles'.

"Gan ddefnyddio technoleg gynorthwyol, cafodd y cyfranogwyr eu ffilmio o flaen sgrin werdd gan adrodd yn ystod y sioe neu chwarae offerynnau wedi'u haddasu. Roedd eraill yn perfformio yn fyw gan ddefnyddio cymhorthion am y tro cyntaf erioed. Mae cynhwysedd wrth galon popeth rydyn ni'n ei wneud, gan sicrhau bod gyda phawb y cyfle i rannu eu llais, eu dawn, a'u stori.

"Boed yn berfformiadau teimladwy neu'n gyfraniadau y tu ôl i'r llen, mae pob cyfranogwr wedi chwarae rôl bwysig wrth ddod â'r dathliad rhyfeddol yma o ddiwylliant a hanes Cymru yn fyw. Rydyn ni'n falch iawn ein bod ni wedi bod yn rhan o brosiect mor ystyrlon a thrawsnewidiol."

Mae'r prosiect wedi dod ag unigolion ag anableddau dysgu o sawl canolfan Learning Curve ledled Rhondda Cynon Taf at ei gilydd. Roedd cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn sawl agwedd o'r sioe, gan gynnwys perfformio, creu setiau, canu a dawnsio.

Roedd Andrew Owen, Pennaeth Cyllid Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru yn gyffrous iawn am y fenter ac meddai: "Rydyn ni'n falch iawn i gynorthwyo ac ariannu prosiect 'Time Machine Chronicles' yn Rhondda Cynon Taf gyda grant gwerth £10,000. Mae prosiectau o'r math yma yn hanfodol i'n cymunedau, am eu bod nhw yn meithrin creadigedd ac yn gyfle i ymgysylltu ond hefyd yn dod â phobl at ei gilydd gan gyfoethogi bywydau lleol a meithrin ymdeimlad o dderbyn."

Roedd cyfranogwyr oedd yn methu perfformio yn defnyddio cymhorthion technoleg gynorthwyol, gan gynnwys technoleg olrhain symudiadau llygaid er mwyn creu geiriau a datganiadau ar gyfer y perfformiad. Y tu ôl i'r llenni, roedd grwpiau yn cydweithio i ddylunio a chreu propiau, setiau llwyfan, gwisgoedd a cholur, gan sicrhau cynhyrchiad oedd yn wledd i'r llygaid ac yn gynhwysol.

Roedd technegwyr a chriwiau yn cydlynu'r goleuadau a'r system sain ar y cyd â staff cynorthwyol o Learning Curve, oedd yn cefnogi'r unigolion yn uniongyrchol ar y llwyfan. Yn yr wythnosau cyn y perfformiadau byw, roedd unigolion yn cymryd rhan mewn gweithdai gyda staff o Forget Me Not Productions i fagu eu hyder wrth ganu a pherfformio ar lwyfan.

Roedd y rheiny nad oedd yn gallu perfformio yn cael eu cynnwys mewn recordiadau fideo oedd yn cael eu harddangos ar y llwyfan, gan ddarparu cyd-destun i sawl golygfa a'r stori. Roedd eraill wedi cyfrannu at waith cyfansoddi'r gerddoriaeth gan ddefnyddio technoleg gynorthwyol.

Meddai Liz Clarke, Rheolwr Rhaglen Celfyddydau ac Iechyd Cyngor Celfyddydau Cymru: "Rydyn ni'n falch o gefnogi'r cynhyrchiad yma sy'n dathlu diwylliant Cymru ac yn defnyddio cerddoriaeth a drama i adrodd straeon personol ac yn defnyddio technoleg mewn ffordd arloesol sy'n canolbwyntio ar unigolion.

"Fe es i i wylio un o'r ymarferion cyntaf ac roeddwn i wrth fy modd â natur gynnes a chydweithredol y prosiect yn ogystal â sawl cân a dawns hyfryd! Cefais weld y dechnoleg olrhain symudiadau llygaid ar waith a chefais gyfle i roi cynnig arno fy hun.

Mae'r dulliau mae Forget Me Not Productions yn eu defnyddio er mwyn sicrhau fod pawb yn cael y cyfle i gymryd rhan wir yn ysbrydoli. Bydd cynulleidfaoedd ledled Rhondda Cynon Taf a thu hwnt wirioneddol wrth eu boddau â'r cynhyrchiad yma."

Bydd DVDs ar gael i'w prynu am £5 yr un, gyda chopïau digidol ar gael am £8 yn rhywbeth i'w gofio am y prosiect rhyfeddol yma.

I ddysgu rhagor am Forget Me Not Productions, ewch i: Forget-Me-Not-Productions | Facebook

Am gymorth i oedolion gydag anableddau dysgu, ewch i: https://www.rctcbc.gov.uk/CY/Resident/AdultsandOlderPeople/LearningDisabilities/LearningDisabilities.aspx

#DiwrnodRhyngwladolPoblAgAnableddau

Wedi ei bostio ar 03/12/24