Skip to main content

Gwaith yn mynd rhagddo ar gynllun atgyweirio wal Parc Aberdâr

Aberdare Park wall 1

Mae'r Cyngor wedi rhannu'r newyddion diweddaraf am y cynllun i ailadeiladu ac atgyweirio rhannau o wal ffin Parc Aberdâr sydd wedi'u difrodi.

Cafodd rhan o'r wal ger y B4275, Trecynon, gyferbyn â'r gyffordd â Theras Broniestyn, ei difrodi yn ystod Storm Bert.

Mae rhan fechan o'r strwythur wedi dymchwel, tra bod archwiliad hefyd wedi nodi bod angen tynnu pedair rhan gyfagos o'r wal i lawr a'u hailadeiladu.

Mae'r Cyngor wedi penodi Hammonds Ltd yn gontractwr i wneud y gwaith atgyweirio, ac mae wedi dechrau ar y broses yr wythnos yma.

Mae disgwyl i'r gwaith fynd rhagddo am dair wythnos a chael ei gwblhau cyn y Nadolig.

Does dim modd defnyddio'r llwybr troed ger y rhan o'r wal a ddifrodwyd er diogelwch - dylai cerddwyr ddefnyddio'r llwybr troed ar y safle gyferbyn â'r ffordd.

Mae modd cynnal llif traffig i'r ddau gyfeiriad ar y B4275, gyda'r lôn tua'r gogledd wedi'i chulhau ger lleoliad y gwaith.

Diolch i'r gymuned am eich cydweithrediad.

Wedi ei bostio ar 05/12/2024