Mae Plac Glas wedi'i osod er cof am James Egan, un o oroeswyr brwydr enwog Rorke's Drift.
Roedd Brwydr Rorke's Drift yn foment hollbwysig yn Rhyfel Eingl-Zwlw 1879 ac mae wedi dod yn hanes chwedlonol. Llwyddodd ychydig dros 150 o filwyr Prydeinig a threfedigaethol i amddiffyn gorsaf Rorke's Drift yn erbyn ymosodiadau gan 4,000 o ryfelwyr Zwlw. Cafodd y frwydr ei choffáu yn y ffilm Zulu (1964), gydag actor o Gymru, Syr Stanley Baker.
Cafodd 17 o filwyr Prydeinig eu lladd yn ystod y frwydr, ond goroesodd y Preifat James Egan ac fe ddychwelodd i Gymru, lle y bu'n byw tan 1916. Cafodd ei gladdu ym Mynwent Glyn-taf ac mae wedi'i oroesi gan ei or-wyres, Maria Kerr, a fu'n allweddol wrth ddarganfod arwriaeth ei hen dad-cu. Roedd hi’n falch o ddadorchuddio’r Plac Glas yng nghartref y teulu yn Stryd y Ddôl, Trefforest.
Roedd mab Syr Stanley Baker, Glyn, aelodau o Gymdeithas y Zwlw a Dirprwy Faer Rhondda Cynon Taf, y Cynghorydd Dan Owen-Jones hefyd yn bresennol. Meddai'r Dirprwy Faer:
Roedd hi wir yn anrhydedd bod yn bresennol yn achlysur dadorchuddio Plac Glas James Egan. Roedd wir yn arwr Cymreig ac yn byw bywyd anghyffredin. Mae ei ymdrechion ym Mrwydr Rorke's Drift yn enghraifft o chwedl go iawn – mae'n llwyr deilwng o dderbyn y Plac Glas.
Os hoffech chi ddysgu rhagor am y cynllun Placiau Glas neu os ydych chi eisiau gwybod sut i enwebu person ar gyfer y cynllun, e-bostiwch GwasanaethTreftadaeth@rctcbc.gov.uk
Wedi ei bostio ar 02/02/24