Skip to main content

Mae croeso cynnes yn aros amdanoch chi yng Nghwm-bach!

Mae Canolfan Croeso yn y Gaeaf (WWC) leol yng Nghwm-bach unwaith yn rhagor yn darparu cymorth gwerthfawr dros y gaeaf eleni i rai o'r bobl sydd fwyaf agored i niwed yn y gymuned.

Derbyniodd Eglwys Cornerstone, Canolfan Eglwys Cwm Cynon, dros £4000 drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Cyngor Rhondda Cynon Taf, wedi'i gweinyddu gan garfan Rhondda Cynon Taf gyda’n Gilydd.

Mae cyfanswm o 56 o grwpiau a sefydliadau ledled y Fwrdeistref Sirol wedi derbyn cyllid yn llwyddiannus drwy gronfa galedi'r gaeaf eleni. Mae dros £107,000 yn cael ei ddyfarnu i ddarparu Canolfannau Croeso yn y Gaeaf yn Rhondda Cynon Taf.

Mae Libby Jones, sylfaenydd a rheolwr prosiectau Canolfan Croeso yn y Gaeaf boblogaidd Cornerstone yng Nghwm-bach, yn gweithio'n ddiflino i sicrhau bod cymuned Cwm Cynon yn derbyn popeth sydd ei angen arnyn nhw. Mae Libby yn rhan o Eglwys Cornerstone, Cwm-bach, sydd wedi'i lleoli ar Deras Siôn, Aberdâr - mae'r ganolfan ar agor i unrhyw un yn y gymuned bob dydd Llun a dydd Mercher rhwng 1pm a 3pm. Mae'r ganolfan yn cynnig croeso cynnes iawn, pryd poeth, diod gynnes a chyfle gwych i sgwrsio ag eraill.

Mae'r Ganolfan Croeso yn y Gaeaf yn Eglwys Cornerstone yn esiampl wych gan ei bod yn darparu cymorth gwerthfawr i gymuned Cwm-bach, ac yn cynnig llawer, llawer mwy na phaned yn unig - mae'r ganolfan hefyd yn cynnig banc bwyd a banc dillad, yn ogystal â phecyn cadw’n gynnes i'r rheiny sy'n wynebu caledi. Mae'r prosiect hefyd yn gweithio gydag ysgolion lleol i helpu teuluoedd yn yr ardal gydag unrhyw beth sydd ei angen arnyn nhw, gan gynnwys darparu pecynnau bwyd maethlon, ffres a ryseitiau sy'n cael eu creu gan y gwirfoddolwyr yn y ganolfan.

Mae'r ganolfan bob amser yn brysur, gyda gemau ar gael a rhywun yn barod i wynebu her gêm o ddrafftiau bob tro. Mae’n cynnig llawer mwy na hwyl a gemau am fod gwasanaethau cymorth lleol yn aml iawn yn mynd i'r ganolfan er mwyn cynnig cyngor a chyfeirio'r rheiny sydd angen help - gan gynnwys Paddy o Trivallis, Victoria a Steve o garfan RhCT Gyda'n Gilydd a Chanolfan Cyngor ar Bopeth Cwm Cynon. Os nad oes modd iddyn nhw eich helpu chi, byddan nhw'n adnabod rhywun fyddai'n gallu ac maen nhw'n fodlon bod yn gefn i chi er mwyn mynd i'r afael â'r heriau rydych chi’n eu hwynebu. 

Mae'r ganolfan yn chwilio am ragor o wirfoddolwyr drwy'r amser. Daeth Vicky Morgan a Maria Morton, sy'n helpu yn y ganolfan, yno am y tro cyntaf yn chwilio am help eu hunain y llynedd. Maen nhw bellach wedi dod yn rhan o deulu Cornerstone, gan helpu eraill i godi'n ôl ar eu traed a helpu i baratoi prydau poeth, diodydd cynnes a dillad.

Mae'r pecynnau cadw’n gynnes sydd ar gael ym mhob canolfan yn cynnwys eitemau sy'n helpu pobl i gadw'n gynnes a/neu ddefnyddio llai o ynni. Maen nhw hefyd yn cynnwys eitemau, allweddi rhyddhau ar gyfer rheiddiaduron, cotiau boeler, addaswyr pen tap aer, tâp inswleiddio, peli sychwr dillad, ataliwr drafft, bylbiau arbed ynni.

Os ydych chi'n teimlo'n oer ac angen lle diogel i aros yn gynnes, cael byrbryd, paned a sgwrs, neu wefru eich ffôn symudol, derbyn cyngor am ddim yn ymwneud ag ynni a hyd yn oed cymryd rhan mewn gweithgareddau am ddim - bydd y canolfannau yma'n cynnig cymorth hynod bwysig i chi.

Mae 86 Canolfan Croeso yn y Gaeaf ar agor ledled Rhondda Cynon Taf yn ystod y gaeaf eleni. Mae hyn yn cynnwys 73 o sefydliadau trydydd sector ac 13 o gyfleusterau'r Cyngor.

Bydd pob llyfrgell yn y Fwrdeistref Sirol yn cael ei gweithredu yn Ganolfan Croeso yn y Gaeaf unwaith yn rhagor. Bydd modd i drigolion fynd yno am groeso cynnes a lle i ymlacio a gwefru eu dyfeisiau symudol.

Mae Eglwys Cornerstone yn fodlon derbyn unrhyw roddion teganau, dillad neu eitemau trydanol bychain gan y gymuned - e-bostiwch contact@cynonvalleychurch.com neu ffoniwch 01443 479306 am ragor o wybodaeth.

Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau:

"Mae Eglwys Cornerstone yng Nghwm-bach yn enghraifft ragorol o'r hyn roedden ni eisiau i Ganolfannau Croeso yn y Gaeaf fod - lleoliad croesawgar a chynnes lle mae modd i bobl deimlo'n ddiogel, gofyn am help a derbyn help pan fo angen. 

"Mae POB Canolfan Croeso yn y Gaeaf yn Rhondda Cynon Taf yn ceisio darparu lleoliad diogel i gadw'n gynnes, cael byrbryd, paned gynnes a sgwrs. Helpodd y canolfannau dros 3199 o oedolion dros y gaeaf y llynedd. Cafodd dros 1500 o sesiynau eu darparu, dros 3200 o ddiodydd a byrbrydau cynnes eu paratoi a dros 2000 o becynnau cadw’n gynnes angenrheidiol eu dosbarthu.

"Mae'r Cyngor yn effro i'r pwysau sydd ar deuluoedd ar hyn o bryd ac mae’n gwneud popeth o fewn ei allu i'w helpu nhw. Mae hyn yn cynnwys darparu cymorth ariannol gwerthfawr, taliadau i deuluoedd a thaliadau tai yn ôl disgresiwn, yn ogystal â darparu cymorth ariannol i fanciau bwyd lleol er mwyn eu helpu nhw i barhau i gyflawni eu gwaith hanfodol."

"Diolch i bobl megis Libby a'r gwirfoddolwyr anhygoel mae Canolfan Croeso yn y Gaeaf Cwm-bach wedi bod mor llwyddiannus - mae'r adborth gan bobl sydd wedi ymweld â'r ganolfan wedi bod yn wych ac maen nhw wir yn cynnig cyfleuster pwysig iawn i rai o'r bobl sydd fwyaf agored i niwed yn y gymuned - maen nhw'n cyflawni gwaith anhygoel."

Mae modd i drigolion sy'n teimlo bod angen cymorth ychwanegol arnyn nhw gysylltu â'r Cyngor ar unrhyw adeg drwy'r Canolfannau Cydnerthedd y Gymuned drwy gwblhau 'ffurflen gais am gymorth' ar-lein ar www.rctcbc.gov.uk/CostauByw Bydd cymorth yn cael ei ddarparu gan Staff y Cyngor, Gwirfoddolwyr Cydnerthedd y Gymuned, Partneriaid y Trydydd Sector a Phartneriaid Cymunedol.

Am fanylion llawn a lleoliadau'r Canolfannau Croeso yn y Gaeaf, ewch i www.rctcbc.gov.uk/CanolfannauCroesoynyGaeaf ac am gyngor cyffredinol ar y cymorth costau byw sydd ar gael, ewch i www.rctcbc.gov.uk/CostauByw.

Wedi ei bostio ar 14/02/24