Mae Cabinet y Cyngor wedi cytuno i'w strategaeth ar gyfer y gyllideb, a fydd yn cael ei chyflwyno i'r Cyngor llawn, gan gynnig cyllideb gytbwys ar gyfer 2024/25. Mae'r strategaeth sydd wedi'i chymeradwyo wedi'i llunio yn dilyn cyfnod o ymgynghori â'r cyhoedd.
Cafodd Aelodau'r Cabinet gyfle i drafod yr adborth a ddaeth i law yn ddiweddar yn ystod eu cyfarfod ddydd Mercher, 21 Chwefror. Cytunwyd ar y strategaeth ddrafft yr ymgynghorwyd arni, gyda diwygiad i gynnwys cyllid ychwanegol o £500,000 ar gyfer cyllideb yr ysgolion y flwyddyn nesaf. Daw hyn ar ôl cyhoeddi cyllid ychwanegol gwerth £25miliwn i Gymru. Bydd aelodau etholedig yn trafod y strategaeth yng nghyfarfod y Cyngor llawn ar 6 Mawrth.
Mae pob Cyngor yng Nghymru yn wynebu heriau sylweddol i osod cyllideb gytbwys gyfreithiol erbyn mis Mawrth 2024. Mae'r gwaith yma'n cael ei lywio gan ffactorau sy’n cynnwys lefel uchel chwyddiant, yr argyfwng Costau Byw parhaus, a phwysau ar draws gwasanaethau allweddol y mae rhaid eu diogelu - megis ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol.
Elfennau allweddol o'r strategaeth sydd wedi'i chymeradwyo gan y Cabinet:
Mae'r Setliad Llywodraeth Leol dros dro yn cynnwys cynnydd o 2.8% yn y cyllid ar gyfer Rhondda Cynon Taf, gan arwain at fwlch cychwynnol yn y Gyllideb o £36.65 miliwn. Mae mesurau cynnar ar gyfer cwtogi'r gyllideb a chynigion y cytunwyd arnyn nhw'n flaenorol wedi lleihau’r bwlch i £25.91 miliwn – ac mae'r strategaeth yn seiliedig ar y sefyllfa hon.
Mae'r Cyngor bob amser yn defnyddio agwedd gyfrifol tuag at osod lefelau treth y Cyngor, gan gydbwyso'r angen i ddiogelu gwasanaethau allweddol a modd trigolion i dalu. Bydd angen i bob Cyngor yng Nghymru gynyddu lefelau treth y Cyngor y flwyddyn nesaf yn sgil pwysau ariannol, ac mae'r Cabinet wedi cytuno i argymell cynnydd o 4.99% ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf i'r Cyngor. Bydd y cynnydd arfaethedig 4.9% sy'n destun proses ymgynghori yn gymorth tuag at ddarpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus ar draws y Fwrdeistref Sirol.
Byddai'r gyllideb arfaethedig yr ymgynghorwyd arni yn dyrannu cyllid i ysgolion i dalu am yr holl bwysau sy'n ymwneud â chyflogau, a chyllideb arall gwerth £1 miliwn tuag at bwysau nad ydyn nhw'n ymwneud â chyflogau. Mae hyn yn cynrychioli cynnydd o £11.9 miliwn yn y cyllid sydd wedi'i neilltuo ar gyfer ysgolion, sef cynnydd o 6.4%. Yn ogystal â'r cynigion yma, mae'r Cabinet wedi cymeradwyo cyllid ychwanegol gwerth £500,000.
Mae Uwch Swyddogion hefyd wedi nodi arbedion effeithlonrwydd pellach gwerth £5.24 miliwn, mae modd cyflwyno'r newidiadau yma heb gael effaith sylweddol ar y gwasanaethau rheng flaen. Bydd hyn yn arwain at arbedion effeithlonrwydd gwerth cyfanswm o dros £13 miliwn ar gyfer 2024/25.
Dywedodd Y Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Manteisiodd y Cabinet ar y cyfle ddydd Mercher i drafod ac ystyried adborth o gam dau'r broses ymgynghori ar y gyllideb, roedd y broses eleni yn canolbwyntio ar strategaeth ddrafft a oedd yn ymateb i un o’r bylchau mwyaf yn y gyllideb rydyn ni erioed wedi’i wynebu fel Awdurdod Lleol. Mae'r sefyllfa'n ystyried y cynnydd mewn cyllid a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru ac er gwaethaf hyn, fel pob Cyngor yng Nghymru, bu'n rhaid i ni wneud nifer o benderfyniadau anodd iawn i ddiogelu gwasanaethau allweddol.
“Serch hynny, o ganlyniad i fesurau rheoli ariannol parhaus ein swyddogion ynghyd â'n prosesau cadarn i nodi arbedion yn gynnar ac yn barhaus, rydyn ni wedi llwyddo i ddiogelu nifer o wasanaethau rheng flaen mewn modd effeithiol heb gyflwyno newidiadau mawr i lefelau gwasanaethau. Mae'r arbedion effeithlonrwydd gwerth dros £13 miliwn ar ben yr £16 miliwn sydd wedi’u cynnwys yng nghyllideb y flwyddyn ariannol gyfredol. Mae’r cynnydd arfaethedig o 4.99% yn nhreth y Cyngor unwaith eto yn debygol iawn o fod ymhlith y lleiaf ledled Cymru.
“Mae ein strategaeth hefyd yn diogelu ein gwasanaethau hanfodol megis ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol – er enghraifft, rydyn ni wedi cynnig cynnydd o £12.4 miliwn neu 6.64% ar gyfer cyllideb yr ysgolion, mae hyn yn cynnwys y cyllid ychwanegol y cytunwyd arno heddiw gwerth £500,000. Roedd ymatebwyr yr ymgynghoriad yn cytuno’n gyffredinol â nifer o elfennau allweddol y strategaeth ddrafft – gan gydnabod yr heriau heb eu tebyg sy’n wynebu Llywodraeth Leol, a’r angen i wneud penderfyniadau anodd mewn rhai meysydd i ddiogelu eraill.
“Mae’r Cabinet wedi dod i’r casgliad bod swyddogion wedi cymryd agwedd gyfrifol tuag at gynllunio ariannol a’r broses o baratoi cyllideb y Cyngor – a bod ein strategaeth yn pennu ymateb cadarn a chymesur ar gyfer 2024/25 gan ystyried yr amgylchiadau. Felly bydd y Cabinet yn argymell y strategaeth i aelodau etholedig yn eu cyfarfod ar 6 Mawrth.”
Mae'r strategaeth hefyd yn cynnwys cynigion mewn perthynas ag effeithlonrwydd ynni a chynnydd safonol o 5% mewn Ffioedd a Thaliadau ar gyfer gwasanaethau'r Cyngor, bydd y cynnydd yma'n cynhyrchu £425,000 o incwm ychwanegol. Ar ôl ystyried yr uchod, y bwlch a fyddai'n weddill yn y Gyllideb ar gyfer 2024/25 fyddai £7.0 miliwn. Mae'r strategaeth ddrafft yn cynnig bod y swm yma'n cael ei dalu'n llawn drwy ryddhau arian wrth gefn sydd wedi'i neilltuo i'r diben yma.
Cymerodd cyfanswm o 686 o bobl ran yng ngham dau'r ymgynghoriad ar y gyllideb. Yn gyffredinol, roedd ymatebwyr i’r arolwg yn cytuno â'r cynnydd yn y gyllideb i Ysgolion (62.8%), gwneud y mwyaf o arbedion effeithlonrwydd (72.9%), y dull ar gyfer pennu lefel ffioedd a thaliadau (67.5%), a’r dull arfaethedig o ddefnyddio cronfeydd wrth gefn y Cyngor (75.6%). Mae crynodeb llawn o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar gael ar ffurf Atodiad i'r adroddiad a gyflwynwyd i'r Cabinet ddydd Mercher.
Wedi ei bostio ar 23/02/24