Oherwydd bydd angen cau Heol Blaenllechau yn ystod oriau'r dydd, o 12 Chwefror, fydd dim mynediad trwodd i Fynydd Llanwynno o du Rhondda.
Bydd y ffordd ar gau yn ystod y dydd (dydd Llun i ddydd Gwener yn unig, rhwng 9.30am a 3.30pm), sy'n dechrau o ddydd Llun, Chwefror 12, a hynny y tu allan i oriau teithio brig i leihau aflonyddwch cymaint â phosibl.
Bydd Heol Blaenllechau yn cau rhwng ei chyffyrdd â Stryd y Fasnach a Stryd y Gwynt (9.30am-3.30pm yn unig) am tua phedair wythnos.
Mae angen hyn er mwyn gwneud gwella ac adfer i'r droedffordd yn Heol Blaenllechau, ac mae angen ei chau'n llwyr oherwydd natur gul y ffordd.
Bydd Llwybr Mynydd Llanwonno yn parhau ar agor, ond fydd mynediad trwodd ym Mlaenllechau. Bydd arwyddion priodol yn eu lle i sicrhau bod gyrwyr yn gwybod bod y ffordd ar gau.
Mae'r rhan sydd i'w chau a’r llwybr amgen ar gyfer gyrwyr i'w gweld ar y map a ganlyn.
Bydd mynediad ar gael i gerddwyr a cherbydau'r gwasanaethau brys, a bydd mynediad ar gael i eiddo. Dylai beicwyr ddod oddi ar eu beiciau a defnyddio'r mynediad i gerddwyr.
Mae'r cynllun yn cael ei gyflawni drwy Raglen Gyfalaf Priffyrdd a Chludiant 2023/24 y Cyngor.
Mae'r Cyngor wedi penodi Calibre Contracting Ltd i gwblhau'r gwaith.
Diolch ymlaen llaw i'r gymuned a defnyddwyr y ffordd am eich cydweithrediad.
Wedi ei bostio ar 06/02/24