Mae angen goleuadau traffig dwy ffordd i wneud gwaith atgyfnerthu cwlfert ger Ysgol Gynradd Ynys-hir. Bydd y gwaith yn mynd rhagddo yn ystod hanner tymor er mwyn tarfu llai ar drigolion.
Bydd y gwaith, o dan y cynllun Ffyrdd Cydnerth, yn dechrau ar ôl y diwrnod ysgol ddydd Gwener, 9 Chwefror – a disgwylir iddo gael ei gwblhau cyn i'r plant ddychwelyd i’r ysgol ar ôl hanner tymor.
Bydd y gwaith yn Heol Llanwynno, yn ymwneud â gosod leinin cwlfert newydd i atgyfnerthu'r seilwaith a lleihau'r tebygolrwydd o lifogydd yn y lleoliad yma yn y dyfodol.
Mae'r Cyngor wedi penodi Arch Services i gyflawni'r gwaith, ac mae'r contractwr angen gosod goleuadau traffig dros dro er diogelwch.
Bydd y contractwr yn gweithio ar benwythnosau er mwyn manteisio ar yr holl amser sydd ar gael, gan fod gwaith o fewn y cwrs dŵr yn dibynnu ar dywydd ffafriol.
Mae trigolion Heol Llanwynno eisoes wedi cael neges yn gofyn iddyn nhw beidio â pharcio y tu allan i'w heiddo yn ystod y gwaith.
Mae'r cynllun yn elwa ar gyfraniad ariannol gan Grant Ffyrdd Cydnerth Llywodraeth Cymru.
Diolch ymlaen llaw i'r gymuned am eich cydweithrediad.
Wedi ei bostio ar 07/02/24