Skip to main content

Mynnwch gael dweud eich dweud ar lwybr cerdded a beicio arfaethedig yn ardal Glynrhedynog

Rhondda Fach active travel phase four (1) - Copy

Mae bellach modd i drigolion fwrw golwg ar gynigion drafft ar gyfer Cam Pedwar Llwybr Teithio Llesol Cwm Rhondda Fach, yn rhan o ymgynghoriad cyhoeddus. Gallai'r llwybr ar gyfer cerddwyr a beicwyr redeg ar hyd yr hen reilffordd yng Nglynrhedynog.

Bydd Llwybr Teithio Llesol cyffredinol Cwm Rhondda Fach yn creu llwybr 10 cilomedr i gerddwyr a beicwyr rhwng Maerdy a Thylorstown, i’w gyflawni’n bum prif gam o waith. Mae cyllid Llywodraeth Cymru wedi’i sicrhau gan y Cyngor i fwrw ati â'r ddau gam cyntaf, ac i ddylunio a datblygu’r tri cham arall i’w hadeiladu yn y dyfodol.

Cwblhawyd Cam Un ym mis Rhagfyr 2023, gan greu llwybr ffurfiol â wyneb caled 3 metr o led o leoliad i’r gogledd o’r ystad ddiwydiannol ger safle’r hen lofa yn ardal Maerdy, i bwynt ger Cofeb Porth Maerdy. Dechreuodd Cam Dau ym mis Rhagfyr 2023, i ailddechrau’r llwybr i gyfeiriad y de o Gofeb Porth Maerdy drwy ardal Maerdy. Bydd y darn 1.5 cilomedr yma'n teithio ar hyd aliniad yr hen reilffordd, ac mae disgwyl i'r gwaith gael ei gwblhau yn ystod y gwanwyn 2024.

Cynhaliodd y Cyngor ymgynghoriad â’r gymuned yn ddiweddar ar gynlluniau ar gyfer Cam Tri yn ardal Maerdy, a ddaeth i ben ar 19 Chwefror. Cynigir y bydd y rhan yma o'r llwybr yn 1.26 cilomedr o hyd, gan gysylltu Cam Dau (mewn lleoliad ger Stryd yr Orsaf) â Stryd Blake a chefn Stryd Richard.

Mae ymgynghoriad Cam Pedwar ar y gweill

Cynigir y bydd Cam Pedwar yn rhedeg ar hyd yr hen reilffordd, ger Afon Rhondda Fach, drwy ardal Glynrhedynog. Byddai ei bwynt mwyaf gogleddol yn cwrdd â Cham Dau (wrth ffin Maerdy), a byddai'n parhau tua'r de am 2.65 cilomedr nes cyrraedd y bont droed sy'n arwain at Ganolfan Hamdden Cwm Rhondda Fach. Byddai cyswllt newydd i Stryd yr Afon hefyd yn cael ei greu mewn lleoliad canolog ar hyd y llwybr.

Mae tudalen we ar gyfer yr ymgynghoriad wedi'i sefydlu ar wefan y Cyngor fel bod modd i drigolion gael mynediad at wybodaeth fanwl yn ymwneud â Cham Pedwar - gan gynnwys cynlluniau lleoliad, dyluniadau drafft, strategaeth ddraenio, pont droed newydd arfaethedig ac adroddiadau technegol atodol. Bydd y broses ymgynghori yn parhau i fod ar agor tan ddydd Iau, 7 Mawrth.

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth a chymryd rhan yma

Mae modd i aelodau'r cyhoedd ddweud eu dweud ar unrhyw agwedd ar y cynigion drwy e-bostio YmgynghoriadTeithioLlesol@rctcbc.gov.uk neu drwy ysgrifennu at y Cyngor gan ddefnyddio’r cyfeiriad Rhadbost sydd wedi'i gynnwys ar hafan yr ymgynghoriad.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Mae bellach modd i'r cyhoedd gael mynediad at gynigion manwl ar gyfer Cam Pedwar Llwybr Teithio Llesol Cwm Rhondda Fach, ac rydyn ni'n eu hannog i gymryd rhan er mwyn helpu swyddogion i lunio’r cynlluniau. Cynigir y bydd Cam Pedwar yn cynnwys creu llwybr a rennir trwy ardal Glynrhedynog gan ddefnyddio'r hen reilffordd, a chysylltu â Cham Dau yn ardal Maerdy.

“Mae’r llwybr cyfan tua 10 cilomedr o hyd, i greu llwybr beicio a cherdded ffurfiol rhwng Maerdy a Thylorstown. Ar y safle, cwblhawyd Cam Un ym mhen gogleddol Maerdy cyn y Nadolig, ac mae gwaith Cam Dau bellach yn mynd rhagddo ar hyd ardal Maerdy, yn y gobaith o'i orffen yn y gwanwyn. Bydd y cyllid rydyn ni wedi’i sicrhau o Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru hefyd yn ein galluogi ni i ddatblygu’r tri cham olaf – ac yn rhan o’r gwaith yma, rydyn ni wedi cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar Gam Tri.

“Mae nodi a chreu llwybrau teithio llesol newydd mewn cymunedau yn bwysig er mwyn annog rhagor o bobl i gerdded neu feicio eu teithiau dyddiol yn fwy aml, yn hytrach na gyrru bob dydd. Mae gan hyn lawer o fanteision pwysig, o wella iechyd a lles pobl i leihau nifer y cerbydau ar ein ffyrdd, lleihau tagfeydd traffig, a diogelu'r amgylchedd.

“Bydd y £3.43 miliwn a sicrhawyd o'r Gronfa Teithio Llesol eleni hefyd yn helpu'r Cyngor i ddatblygu cynlluniau allweddol eraill. Mae'r rhain yn cynnwys ailalinio Llwybr Taith Taf yn ardal Trallwn, sefydlu llwybr Teithio Llesol ffurfiol yng Nghwm-bach, bwrw ymlaen â chynlluniau yng nghanol trefi Aberdâr a Phontypridd a gwella cysylltiadau amrywiol ym Mhentre’r Eglwys.

“Bydd yr ymgynghoriad ar gyfer cynigion Cam Pedwar Teithio Llesol Cwm Rhondda Fach yn parhau i fod ar agor tan 7 Mawrth. Rwy'n annog pawb sydd â diddordeb i gymryd rhan. Bydd swyddogion yn darllen yr holl adborth ac yn ei ystyried wrth ddatblygu dyluniad terfynol y cynllun. Mae’r dudalen we bwrpasol ar wefan y Cyngor yn cynnwys gwybodaeth fanwl, mapiau a lluniau, yn ogystal â gwybodaeth am sut mae modd i drigolion gysylltu drwy e-bost neu’r post.”

Wedi ei bostio ar 21/02/2024