Bydd gwelliannau Ffyrdd Cydnerth yn cael eu cynnal yn Stryd Lewis #Aberaman dros yr wythnosau nesaf, a hynny er mwyn gwella'r seilwaith draenio.
Bydd gwaith o ddydd Llun 26 Chwefror yn cynnwys gosod dau dwll archwilio yn y ffordd gerbydau, yn ogystal â draen dŵr wyneb a gylïau newydd, ac atgyweirio rhan o gwlfer.
Mae'r cynllun pedair wythnos yn cael ei ariannu trwy Grant Ffyrdd Cydnerth Llywodraeth Cymru, er mwyn lleihau perygl llifogydd yn ystod cyfnodau o law trwm.
Bydd angen cau Stryd Lewis (o dafarn The Rock Inn hyd at siop One Stop), yn ogystal â rhan 17 metr o Heol y Parc.
Bydd arwyddion llwybr amgen i'w gweld yn yr ardal leol – ar hyd Heol Caerdydd, Stryd Davies a Heol y Parc.
Bydd llwybrau troed yn parhau i fod ar agor ac ni fydd unrhyw effaith ar fynediad i eiddo. Fydd dim mynediad ar gyfer cerbydau'r gwasanaethau brys.
Bydd y gwaith yn cael ei gynnal ar y safle gan Garfan Gofal y Strydoedd RhCT. Mae arwyddion i'w gweld yn yr ardal leol i roi gwybod i drigolion am y gwaith ymlaen llaw.
Diolch i'r gymuned am eich cydweithrediad.
Wedi ei bostio ar 23/02/24