Skip to main content

Ymgynghoriad Cyn-adneuo ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig

LDP-Logo-2022-2037

Mae’r Cyngor bellach wedi cyhoeddi manylion ei Strategaeth a Ffefrir ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig (2022-2037) – ac mae trigolion yn cael eu gwahodd i ddweud eu dweud ar yr hyn sy'n cael ei gynnig yn ystod yr ymgynghoriad dros yr wyth wythnos nesaf.

Mae'r Cynllun Datblygu Lleol yn ddogfen statudol sy'n ymdrin â'r defnydd o dir, yn nodi gweledigaeth ar gyfer y dyfodol ar gyfer y Fwrdeistref Sirol ac yn dyrannu tir ar gyfer defnydd datblygiadau megis tai, cyflogaeth, manwerthu a thwristiaeth. Bydd y CDLl Diwygiedig yn ymdrin â'r cyfnod hyd at 2037, a bydd yn chwarae rhan arweiniol wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio sy'n cael eu cyflwyno i'r Cyngor.

Mae'r CDLl yn cynnwys polisïau pwysig sy'n ceisio diogelu'r amgylchedd, cynyddu'r nifer o fannau gwyrdd cyhoeddus, lleihau allyriadau carbon ac hybu cynhyrchu ynni adnewyddadwy ble y bo'n addas. Mae'r polisïau hyn yn cydymffurfio â nodau ac ymrwymiadau ehangach y Cyngor mewn perthynas â newid yn yr hinsawdd. 

Cafodd y cyhoedd eu gwahodd i gyflwyno adeiladau neu dir i'w cynnwys yn y CDLl Diwygiedig yn rhan o'r broses Galw am Safleoedd Ymgeisiol/Posib, a ddaeth i ben ym mis Medi 2022.  Roedd hyn yn galluogi trigolion, perchnogion tir preifat a datblygwyr i ddweud eu dweud.  Mae'r holl safleoedd a gafodd eu cyflwyno wedi cael eu hystyried i'w cynnwys.

Y prif gam nesaf yw'r ymgynghoriad cyn-adneuo, lle mae modd i drigolion fwrw golwg ar y Strategaeth a Ffefrir ar gyfer y CDLl a chael dweud eu dweud arni. Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg dros wyth wythnos rhwng 21 Chwefror ac 17 Ebrill 2024.

Mae'r Strategaeth a Ffefrir yn ymdrin â'r gyfradd arfaethedig ar gyfer twf yn y dyfodol o ran tai a chyflogaeth, a strategaeth ofodol ar gyfer datblygiad yn Rhondda Cynon Taf - gan gynnwys nodi safleoedd allweddol ar gyfer tai a chyflogaeth. 

Mae’r ymgynghoriad yn amlinellu gweledigaeth ac amcanion arfaethedig ar gyfer Rhondda Cynon Taf, a materion allweddol i fynd i'r afael â nhw - ynghyd â pholisïau strategol eang sy'n ymateb i'r rhain.  Mae Arfarniad o Gynaliadwyedd Integredig cychwynnol, Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd a dogfennau ategol eraill wedi cael eu cyhoeddi, ynghyd â'r Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol sy'n dangos ceisiadau a gafodd eu cyflwyno yn y broses Galw am Safleoedd Ymgeisiol/Posibl.

Mae’r ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar borth ar-lein, sydd ar gael ar wefan 'Ymgynghoriad ar Strategaeth a Ffefrir' y Cyngor.

Cliciwch yma i gymryd rhan

O ddydd Mercher, 21 Chwefror, bydd y porth yn cynnwys prif ddogfennau'r ymgynghoriad sy'n ymwneud â'r Strategaeth a Ffefrir ar gyfer y CDLl Diwygiedig, ynghyd â nifer o ddogfennau sy’n nodi tystiolaeth gefndir. Mae modd i'r cyhoedd ddweud eu dweud a chyflwyno sylwadau gan ddefnyddio'r broses ar-lein yma. 

Mae modd anfon cwestiynau pellach am y broses, gan gynnwys dulliau amgen o wneud sylwadau, drwy e-bost CDLl@rctcbc.gov.uk neu drwy ysgrifennu at y Garfan Polisi Cynllunio, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Llys Cadwyn, 2 Stryd y Taf, Pontypridd, CF37 4TH. Mae copïau papur o brif ddogfennau'r ymgynghoriad ar gael ar gais yng nghanolfannau cyngor IBobUn y Cyngor ac yn y llyfrgelloedd sy'n cael eu cynnal gan y Cyngor.

Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Ffyniant a Datblygu: "Mae'r Cynllun Datblygu Lleol ar gyfer Rhondda Cynon Taf yn ddogfen bwysig sy'n dyrannu tir yn ffurfiol ar gyfer defnydd datblygu. Mae'n chwarae rhan allweddol wrth gynllunio ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno i'r Cyngor, gan helpu i bennu materion gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud â thai, cyflogaeth a manwerthu. Mae diwygio'r CDLl ar gyfer y cyfnod hyd at 2037 felly'n broses bwysig iawn sy'n cynnwys nifer o gyfleoedd i'r cyhoedd gael dweud eu dweud.

"Yn dilyn y broses Galw am Safleoedd Ymgeisiol/Posibl blaenorol, mae swyddogion wedi ystyried yr holl adborth sydd wedi dod i law ac wedi llunio Strategaeth a Ffefrir a fydd yn ganolbwynt ar gyfer cam nesaf y broses. Yn ei ffurf bresennol, dydy'r strategaeth ddim yn cynnwys yr holl bolisïau manwl a fydd yn rhan o'r ddogfen derfynol, ond mae'n gosod y cyfeiriad strategol ac eang a gynigir ar gyfer y CDLl Diwygiedig. Mae hefyd yn nodi safleoedd allweddol ar gyfer tai a chyflogaeth, ac yn gosod gweledigaeth ac amcanion.

"Dyma gyfle i’r trigolion i fwrw golwg ar y manylion am y Strategaeth a Ffefrir mewn ymgynghoriad â'r cyhoedd Cyn-adneuo, a hynny hyd at 17 Ebrill.  Rydw i'n annog yr holl drigolion sydd â diddordeb i fwrw golwg ar y dogfennau a chyflwyno'u sylwadau dros yr wyth wythnos nesaf, er mwyn i swyddogion eu hystyried yn ffurfiol.  Rydyn ni am ymgysylltu â chynifer o drigolion, busnesau a datblygwyr ag sy'n bosibl yn ystod y broses yma, er mwyn cael ystod eang o safbwyntiau a fydd yn llywio'r CDLl Diwygiedig." 

Wedi ei bostio ar 22/02/24