Caiff Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau ei chynnal rhwng 5 ac 11 Chwefror 2024. Mae’r wythnos yn dod â phawb sy’n angerddol am brentisiaethau at ei gilydd i ddathlu’r gwerth, y budd a’r cyfleoedd sydd ynghlwm â nhw.
Eleni, mae Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau yn ymwneud â'r thema “Sgiliau Bywyd”. Mae sefydliadau ledled y DU yn annog pawb i ystyried sut mae modd i brentisiaethau helpu unigolion i feithrin y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer gyrfa werth chweil, yn ogystal â helpu cyflogwyr i feithrin sgiliau eu gweithwyr er mwyn eu paratoi nhw ar gyfer y dyfodol.
Mae'r Cyngor wedi bod yn cynnig prentisiaethau ers 2012. Mae 78% o'r prentisiaid yma wedi mynd ymlaen i gael swyddi o fewn y Cyngor, ac 13% ohonyn nhw wedi cael swyddi gyda sefydliadau allanol.
Yn 2022, enillodd y Cyngor Wobr Hyfforddiant y Dywysoges Frenhinol o ganlyniad i lwyddiant y Cynllun Prentisiaeth. Cafodd y wobr yma ei chyflwyno gan y Dywysoges Anne. Mae'r wobr yn anrhydeddu cyflogwyr sydd wedi llunio rhaglenni rhagorol o ran hyfforddi a datblygu sgiliau.
Yn ddiweddar, cwblhaodd Henry Jones ddwy Brentisiaeth gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf, y naill mewn Gweinyddu Busnes a'r llall yr Adran Briffyrdd, Mae bellach wedi sicrhau rôl Arolygydd Priffyrdd yn Nepo'r Cyngor, Dinas, ac wedi derbyn Gwobr Prentisiaeth Talent Yfory yng Ngwobrau Partneriaeth Academi Sgiliau Cymru.
Bydd y Cyngor yn cyhoeddi’r rownd nesaf o gyfleoedd Prentisiaeth yn ystod y gwanwyn.
Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf:
“Mae Rhaglen Brentisiaethau'r Cyngor a'r Rhaglen i Raddedigion wedi bod yn hynod lwyddiannus bob blwyddyn.
A ninnau'n un o gyflogwyr mwyaf yr ardal leol, rydyn ni'n cydnabod pwysigrwydd creu swyddi o ansawdd uchel sy'n talu'n dda i'n trigolion, ac sy'n cynnig cyfleoedd i ddysgu. Mae hynny'n bwysicach heddiw nag erioed.
“Mae'r Cyngor yn darparu ystod eang o wasanaethau, ac mae ein cyfleoedd i brentisiaid a graddedigion yn adlewyrchu hyn gan gynnig swyddi mewn meysydd sy'n amrywio o'r amgylchedd, i fecaneg, cyfrifeg a materion digidol."
Wedi ei bostio ar 05/02/2024