Skip to main content

Penodi contractwr newydd ar gyfer cynllun gofal ychwanegol Porth

Porth Extra Care 1 - Copy

Mae'r Cyngor a Linc Cymru (Linc) yn falch o gyhoeddi bod contractwr newydd wedi cael ei benodi i adeiladu'r cynllun tai â gofal ychwanegol yn ardal Porth a bydd gwaith yn parhau ar y safle dros yr wythnosau nesaf.

Bydd y cynllun cyffrous yn golygu y bydd modd defnyddio safle hen Gartref Gofal Dan y Mynydd unwaith eto drwy adeiladu datblygiad o’r radd flaenaf fydd yn cynnwys 60 o fflatiau gofal ychwanegol. Bydd yr adeilad pedwar llawr yn cynnwys ardal fwyta, salon trin gwallt, ystafell weithgareddau, canolfan oriau dydd a swyddfeydd yn ogystal â maes parcio allanol.

Cafodd adeiladau'r hen gartref gofal eu dymchwel a rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad gofal ychwanegol yn 2021, gan alluogi’r gwaith ar y safle i ddechrau yn 2022. Fodd bynnag, daeth y gwaith i ben am gyfnod am fod y contracwr Jehu Group Ltd wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr. Mae gwaith sylweddol wedi'i wneud yn dilyn hyn er mwyn penodi contractwr newydd ac mae trefniadau bellach ar waith i barhau â'r gwaith.

Mae cwmni Intelle Construction wedi'i benodi yn gontractwr newydd ar gyfer y cynllun, ac mae disgwyl i'r gwaith ddechrau ar y safle ym mis Chwefror 2024.

Cafodd mân waith ymchwilio ei gynnal gan y contractwr yn ddiweddar er mwyn helpu â gwaith dylunio’r adeilad. Fodd bynnag, ni fydd newidiadau sylweddol i'r cynllun gwreiddiol. Y dyddiad cwblhau newydd ar gyfer y datblygiad yw tymor yr Hydref 2025.

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol: "Mae'n wych y bydd y gwaith i adeiladu'r cynllun tai â gofal ychwanegol yn ardal Porth yn parhau ar y safle dros yr wythnosau nesaf, a hynny ar ôl penodi contractwr newydd. Bydd y cyfleuster yn cynnwys 60 o welyau gofal ychwanegol gyda chyfleustodau o'r radd flaenaf, er mwyn helpu rhagor o bobl i fyw mor annibynnol â phosibl gyda chymorth 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos ar gyfer eu hanghenion sydd wedi'u hasesu. Yn yr un modd â'n cynlluniau gofal ychwanegol eraill, bydd yn hyrwyddo ymdeimlad o gymuned ymhlith y trigolion sy’n byw yn yr adeilad gan annog cyfleoedd rhyngweithio ystyriol yn y gymuned ehangach.

"Mae gwaith sylweddol wedi bod yn parhau y tu ôl i'r llenni i benodi contractwr newydd a pharhau â'r gwaith. Mae'r broses o newid contractwyr yn gymhleth iawn, yn enwedig ar ôl i waith ddechrau ar y safle - ac rwy'n falch ein bod ni bellach mewn sefyllfa i barhau â’r rhaglen waith wedi'i diwygio. Bydd gwaith yn parhau gyda’r gobaith o gwblhau'r cynllun y flwyddyn nesaf.

"Mae'r cynllun yn cael ei gyflawni yn rhan o ymrwymiad ehangach gan y Cyngor i foderneiddio'r opsiynau gofal ychwanegol sydd ar gael i bobl hŷn, gan gynyddu nifer y gwelyau gofal ychwanegol sydd ar gael yn y Fwrdeistref Sirol i 300. Mae ein cynlluniau mwyaf newydd - Cwrt yr Orsaf yn Y Graig a Maes-y-ffynnon yn Aberaman - eisoes yn adnoddau allweddol yn eu cymunedau. Yn dilyn penderfyniad y Cabinet ym mis Chwefror 2023, bydd buddsoddiad ychwanegol gwerth £60 miliwn yn cynnal pum cartref gofal y Cyngor yn ogystal â darparu llety newydd yn Nhreorci, Glynrhedynog, Aberpennar a Phentre'r Eglwys.

"Bydd y Cyngor a Linc yn cydweithio'n agos gyda'r contractwr sydd newydd ei benodi er mwyn darparu'r cynllun gofal ychwanegol yn ardal Porth cyn gynted â phosibl. Byddwn ni'n rhannu’r newyddion diweddaraf â thrigolion am yr holl gerrig milltir drwy gydol y prosiect dros yr wythnosau a’r misoedd sydd i ddod, ac rwy'n edrych ymlaen at weld sut bydd y safle'n cael ei drawsnewid yn gyfleuster modern o'r radd flaenaf sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain."

Nododd Richard Hallett, Rheolwr Datblygiadau Linc Cymru: "Rydyn ni’n falch iawn o allu gweithio gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf i ailgydio yn y cynllun gwerthfawr yma sy’n darparu tai â gofal ychwanegol. 

"Mae cwmni Intelle Construction, sydd wedi’i leoli yn Nhrefforest,yn awyddus i ddechrau ar waith adeiladu'r cartref gofal ychwanegol arobryn yma. Rydyn ni'n edrych ymlaen at rannu diweddariadau am y cynnydd ar y safle wrth i'r gwaith fynd rhagddo."

Wedi ei bostio ar 14/02/24