Bydd pont droed newydd Castle Inn yn Nhrefforest yn cael ei hagor i’r cyhoedd ddydd Mercher (14 Chwefror). Bydd y contractwr yn parhau i weithio ar y safle dros yr wythnosau nesaf, ond mae modd gwneud hyn yn ddiogel tra bo'r bont ar agor.
Cafodd yr hen bont rhwng Stryd yr Afon yn Nhrefforest a Heol Caerdydd yng Nglyn-taf ei dymchwel yn sgil difrod stormydd difrifol – ac mae strwythur newydd wedi’i osod i adfer y cyswllt dros yr afon. Mae cynnydd da wedi’i wneud ers y Nadolig – gan gynnwys cwblhau gwaith dargyfeirio carthffosydd a chyfleustodau, a chael gwared ar seilwaith dros dro yn dilyn cau'r ffordd am gyfnod ar 20 Ionawr.
Mae’r llwybr troed sy'n arwain at y bont yn cael ei gwblhau yn gynnar yr wythnos yma, fel bod modd i Bont Droed Castle Inn agor ddydd Mercher, 14 Chwefror. Dydyn ni ddim wedi cadarnhau faint o'r gloch yn union y bydd hi'n agor eto. Bydd y Cyngor yn cyhoeddi hyn ar y cyfryngau cymdeithasol.
Bydd contractwr y Cyngor wedyn yn aros ar y safle yn ystod yr wythnosau nesaf i gwblhau'r gwaith sy'n weddill - gan gynnwys atgyweirio Stryd yr Afon ac adnewyddu cyrbau a llwybrau troed ger Heol Caerdydd. Bydd angen i Dŵr Cymru hefyd ymweld â'r safle i gyflawni gwaith hanfodol ar y brif bibell ddŵr ar Heol Caerdydd. Bydd y Cyngor wedyn yn dychwelyd i'r safle i roi wyneb newydd ar y ffordd gerbydau yma.
Bydd gwaith gorffen pellach hefyd yn mynd rhagddo dros yr haf, pan fydd modd i'r contractwr gael mynediad diogel at yr afon.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Mae amnewid Pont Castle Inn yn Nhrefforest wedi bod ymhlith ein prif gynlluniau o ran unioni difrod stormydd dros y blynyddoedd diwethaf. Mae hi wedi bod yn broses gymhleth iawn o’r dechrau – yn gyntaf, roedd angen sicrhau bod y cynllun yn diogelu treftadaeth yr hen strwythur yn ogystal â chynnig ateb i’r perygl llifogydd lleol mawr. Roedd hefyd angen bod yn effro i gyflwr yr afon a'r cyfleustodau pwysig a oedd yn cael eu cludo dros y bont.
“Dysgon ni fod yr hen bont wedi cyfrannu’n sylweddol at y llifogydd lleol yn ystod Storm Dennis, a hynny trwy rwystro’r afon – felly mae’r bont newydd, ynghyd â'r gwaith cysylltiedig ar lan yr afon, wedi’u dylunio i amddiffyn yr ardal leol rhag llifogydd yn well. Mae swyddogion hefyd wedi gweithio'n agos iawn gyda Cadw i lywio cofnod hanesyddol yr hen bont, yn ogystal â defnyddio rhai o'i nodweddion allweddol yn y strwythur newydd.
“Rydw i'n falch y bydd y bont droed newydd yn agor i’r cyhoedd yn fuan – gan gynnig cyswllt teithio llesol gwell sy’n addas i gerddwyr a beicwyr. Bydd y Cyngor yn rhoi gwybod i drigolion pan fydd y bont yn agor ddydd Mercher. Bydd y gwaith sy'n weddill yn mynd rhagddo dros yr wythnosau nesaf, tra bydd y contractwr yn dychwelyd i'r safle yn yr haf er mwyn cyflawni gwaith angenrheidiol yn yr afon.
“Roedd y cynllun yn llafurus iawn ac roedd cyfnodau pan doedd y cynnydd a oedd yn mynd rhagddo y tu ôl i'r llenni ddim yn weladwy i'r cyhoedd - felly hoffwn ddiolch i'r gymuned am ei hamynedd sylweddol. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i drigolion sy’n byw’n agos iawn at y safle. Mae eu cydweithrediad yn ystod sawl cam o waith aflonyddgar wedi’i werthfawrogi’n fawr.”
Mae cynllun adnewyddu Pont Droed Castle Inn yn rhan o raglen waith fawr ar gyfer atgyweirio difrod Storm Dennis yn Rhondda Cynon Taf eleni. Mae'r rhaglen yn cael ei hariannu’n gyfan gwbl gan Lywodraeth Cymru yn 2023/24.
Wedi ei bostio ar 13/02/24