Skip to main content

Trefniadau traffig ar gyfer gwaith ailddatblygu neuadd bingo Pontypridd

Pontypridd bingo hall february 2024 (3)

Dyma eich atgoffa am y trefniadau traffig sydd ar y gweill ar gyfer ailddatblygu neuadd bingo Pontypridd.

Bydd y lôn ar gyfer troi i'r dde i'r Graig sydd ar gau ar Heol Sardis yn cael ei hailagor erbyn diwedd y dydd, ddydd Gwener, 1 Mawrth.

Bydd y llwybr dargyfeirio ar gyfer gyrwyr ar hyd yr A470/cylchfan Sainsbury’s felly'n dod i ben, tra bydd yr ynys i gerddwyr ger yr orsaf drenau yn cael ei hailddefnyddio.

Yna, o ddydd Llun, 4 Mawrth, bydd y lôn agosaf at safle'r gwaith – a'r droedffordd drws nesaf i'r safle – ar gau am gyfnod amhenodol.

Bydd cerddwyr yn cael eu dargyfeirio ar hyd y man croesi yn Nhŷ Sardis, ar hyd y droedffordd yr ochr arall i Heol Sardis, ac i'r ynys i gerddwyr ger yr orsaf drenau.

Mae'r trefniadau dros dro yma'n hanfodol i sicrhau diogelwch cerddwyr, modurwyr a gweithlu'r contractwyr.

Diolch ymlaen llaw am eich cydweithrediad.

Wedi ei bostio ar 29/02/24