Skip to main content

Arddangosfa i nodi 40 mlynedd ers Streic y Glowyr 1984-85

Facebook Event Graphic 465 x 465 WELSH

Bydd arddangosfa o ffotograffau grymus a gymerwyd cyn, yn ystod ac ar ôl Streic y Glowyr 1984-85 yn agor i’r cyhoedd yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda ddydd Mercher, 6 Mawrth. ​  

Dechreuodd y ffotograffydd proffesiynol Richard Williams ddogfennu bywyd yn y cymunedau glofaol o'i gwmpas pan oedd yn ei arddegau. Mae ei ddelweddau o ddiwedd y 1970au hyd at  ddiwedd y 1980au, pan oedd bron pob un o’r pyllau wedi cau, ymhlith ei ffotograffau pwysicaf mewn gyrfa hir sydd wedi ei weld yn tynnu lluniau pobl wrth iddyn nhw fyw eu bywydau pob dydd yn ogystal â llywyddion, prif weinidogion ac enwogion.  

Mae'r ffotograffau yn arddangosfa Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn cyd-fynd â'i lyfr newydd Coal and Community in Wales : Images of the Miners’ Strike, before, during and after a gyhoeddwyd gan Y Lolfa (£14.99). Mae’r llyfr a’r arddangosfa yn dangos y caledi a’r ysbryd cymunedol twymgalon a ddaeth â phobl ynghyd yn ystod y streic chwerw a barhaodd am flwyddyn. Roedd yr anghydfod yn erbyn rhaglen y Bwrdd Glo Cenedlaethol o gau pyllau o dan lywodraeth Geidwadol Margaret Thatcher. Daeth yr anghydfod ym mis Mawrth 1985 pan ddychwelodd y  glowyr i’w gwaith heb gytundeb. 

Mae ffotograffau Richard yn cynnwys golygfeydd dramatig pan dorrodd y glöwr cyntaf yn ne Cymru y streic; y diwrnod pan daflwyd wyau at y Prif Weinidog Thatcher pan ymwelodd â Phorthcawl a’r hyn a ddigwyddodd ar ôl i lowyr fynd yn ôl i’r gwaith i wynebu eu bywoliaeth yn diflannu wrth i weddill y pyllau gau a chymunedau’r meysydd glo newid am byth. Mae Richard a’i gyd-awdur, ei wraig Amanda Powell, wedi dod o hyd i lawer o’r bobl a ymddangosodd yn ei ffotograffau gwreiddiol a’u cyfweld, gan greu cofnod parhaol o gyfnod pan oedd glo yn frenin yng Nghymoedd De Cymru.  

Mae Richard yn gyn ffotograffydd gyda'r Pontypridd Observer ac roedd yn Bennaeth Cynorthwyol Delweddau yn Media Wales. Mae ei yrfa lawrydd bellach yn cynnwys marchnata a ffotograffiaeth gorfforaethol yn ogystal â darlledu newyddion.  

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden:

Mae Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn sefyll yn ôl troed Pwll Glo Lewis Merthyr ac yn adrodd hanes hynod ddiddorol yr amser pan oedd glo o Gymoedd y Rhondda yn pweru’r byd. ​  Cafodd Streic y Glowyr effaith ddinistriol ar gymunedau glofaol De Cymru felly mae’n addas iawn bod yr arddangosfa bwerus yma, sy’n canolbwyntio ar ran annatod o hanes y diwydiant glo, yn cael ei chynnal yma.  Rydw i'n annog unrhyw un sy’n cofio Streic y Glowyr i ddod, gan hefyd ddod â’r rhai a oedd efallai’n rhy ifanc i’w cofio hefyd.   Daeth cymunedau at ei gilydd i gefnogi ei gilydd yn ystod y cyfnod yma o galedi ac ansicrwydd mawr ac mae delweddau Richard yn sicr yn cyfleu brwydrau’r streiciau a'r cyfeillgarwch parhaol a luniwyd o dan y ddaear.

Mae pob arddangosfa yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda i’w gweld am ddim.

NODYN AR GYFER DESGIAU LLUNIAU/GOLYGYDDION: Mae hawlfraint yr holl ddelweddau a gyflenwir gyda'r datganiad yma i'r wasg yn aros gyda Richard Williams Photography ac maen nhw wedi'u trwyddedu'n llym i'w defnyddio unwaith gan allfeydd newyddion ar gyfer darllediadau o arddangosfa Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda a/neu adolygu Coal and Community in Wales : Images of the Miners’ Strike, before, during and after. Cedwir pob hawl. Bydd unrhyw achos o dorri'r drwydded yma'n arwain at iawndal. 

Mae modd i chi gysylltu â Richard Williams drwy anfon e-bost i: info@richardwilliamsphoto.co.uk  

 

 

 

 

Wedi ei bostio ar 29/02/2024