Mae Rhybudd Tywydd Oren ar gyfer gwyntoedd cryfion mewn grym ar hyn o bryd tan 20:00 heddiw (dydd Mawrth 2 Ionawr), ynghyd â Rhybudd Tywydd Melyn ar gyfer glaw sydd mewn grym tan 21:00 o ganlyniad i Storm Henk. Mae'r ddau rybudd yn berthnasol i ardal Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
Yn ystod cyfnodau'r ddau Rybudd Tywydd, rydyn ni'n annog trigolion a busnesau i fod yn wyliadwrus ac yn ofalus os ydych chi'n gwneud teithiau hanfodol.
Os bydd raid i chi deithio, byddwch yn ofalus a gyrrwch yn ôl yr amodau, gan adael mwy o le rhwng cerbydau ac amser ychwanegol ar gyfer teithiau.
Mae'n bosibl y bydd oedi wrth deithio, yn ogystal ag effaith ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae'n bosibl y bydd dŵr wyneb, llifogydd, problemau o ran pŵer, a choed/strwythurau'n cwympo mewn rhai ardaloedd o'r Fwrdeistref Sirol, ac mae'n bosibl y bydd angen cau ffyrdd.
Mae'r Cyngor wedi sicrhau bod gweithwyr ychwanegol ar gael ac mae carfanau'r Priffyrdd wedi bod yn monitro draeniau a chwlferi dros y diwrnodau diwethaf yn dilyn tywydd garw blaenorol.
Os byddwch chi'n wynebu unrhyw broblemau, ffoniwch rif argyfwng y tu allan i oriau'r Cyngor ar 01443 425011.
Yn ogystal â hynny, dilynwch gyfrifon y Swyddfa Dywydd a chyfryngau cymdeithasol y Cyngor i gael y newyddion diweddaraf.
Wedi ei bostio ar 02/01/24