Skip to main content

Diwrnod y Lluoedd Arfog 2024

1

Ddydd Sadwrn, 22 Mehefin, dathlodd Rhondda Cynon Taf Ddiwrnod y Lluoedd Arfog 2024 ym Mharc Coffa Ynysangharad, Pontypridd. Yn ystod y dydd, daeth personél sy’n rhan o’r fyddin ar hyn o bryd, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, eu teuluoedd a ffrindiau, a llawer yn rhagor o bob cwr o'n cymuned i ymuno â ni.

Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yn gyfle i ddathlu ac arddangos ein cefnogaeth i unigolion Cymuned y Lluoedd Arfog, yn y gorffennol ac yn y presennol. Mae nifer o sefydliadau a busnesau ledled y DU yn arddangos eu cefnogaeth drwy gynnal achlysuron.

Eleni, fe wnaethon ni gynnal ein hachlysur Picnic yn y Parc cyntaf, gan wahodd personél milwrol lleol, cyn-filwyr a'u teuluoedd i ddod â phicnic i'r parc i fwynhau amrywiaeth o adloniant cerddorol a gweithgareddau i'r teulu, yn ogystal â dysgu rhagor am y cymorth sydd ar gael i Gymuned y Lluoedd Arfog yn Rhondda Cynon Taf.

Yn ogystal â hyn, cynhaliwyd seremoni codi baner wedi'i harwain gan aelodau o Gymuned y Lluoedd Arfog gyda chymorth rhai o gadetiaid lleol yr awyrlu.

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog: "Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yn gyfle i ni ddweud diolch wrth y rheiny sydd wedi gwasanaethu yn y gorffennol ac yn y presennol, a chydnabod ymroddiad diflino aelodau'r lluoedd arfog.

"Ddydd Sadwrn, 22 Mehefin, fe ddaethon ni at ein gilydd fel cymuned i gydnabod ac anrhydeddu'r ymroddiad yma, gan goffáu aberthion yr unigolion yma.

"Roedd hi hefyd yn wych gweld cynifer o'r cyhoedd yn ymuno â ni i gefnogi a dathlu."

Dysgwch ragor am Ddiwrnod y Lluoedd Arfog yma.

Mae arddangos ein cefnogaeth i gymuned leol y Lluoedd Arfog yn fwy na'r diwrnod yma'n unig. Yn 2012, Cyngor Rhondda Cynon Taf oedd un o'r awdurdodau lleol cyntaf yng Nghymru i lofnodi

Cyfamod y Lluoedd Arfog - ymrwymiad a gafodd ei ailddatgan yn 2018. Mae’r cyfamod yn gytundeb cyd-ddealltwriaeth rhwng y gymuned sifil a’r lluoedd arfog ledled y Fwrdeistref Sirol. Rydyn ni hefyd wedi rhoi Rhyddfraint y Fwrdeistref Sirol i'r Gwarchodlu Cymreig a'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn Sain Tathan, yn ogystal â holl bersonél yr Awyrlu Brenhinol, o'r gorffennol i'r presennol.

Mae'r data diweddaraf yn dangos bod mwy na 7,500 o gyn-filwyr y lluoedd arfog yn byw ledled Rhondda Cynon Taf. Mae Gwasanaeth Cyngor i Gyn-filwyr y Cyngor yn cynnig ystod eang o gefnogaeth a chymorth ac mae wedi helpu dros chwe chant o gyn-filwyr a'u teuluoedd. Mae’r gwasanaeth yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth diduedd ac ymroddgar AM DDIM i gyn-aelodau ac aelodau cyfredol y Lluoedd Arfog.  I siarad â swyddogion ymroddedig yn gwbl gyfrinachol, ffoniwch 07747 485 619 (dydd Llun i ddydd Gwener, 8.30am tan 5pm), neu e-bostiwch: GwasanaethiGynfilwyr@rctcbc.gov.uk.

I ddysgu rhagor, ewch i Cyfamod y Lluoedd Arfog Rhondda Cynon Taf

Yn 2017, cyflwynwyd Gwobr Aur Cynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn i Gyngor Rhondda Cynon Taf am ein cefnogaeth barhaus o gymuned y lluoedd arfog. Cadwyd y wobr hon ym mis Hydref 2022 yn dilyn asesiad o ymrwymiadau’r Cyngor, gan gynnwys cyflwyno’r Cynllun Gwarantu Cyfweliad ar gyfer Cyn-filwyr a Milwyr Wrth Gefn ym mis Ionawr 2022.

#DiwrnodyLluoeddArfog #CyfarcheinLluoedd

Wedi ei bostio ar 15/07/24