Mae Rhondda Cynon Taf yn gartref i olygfeydd godidog a mannau gwyrdd a pharciau sy'n cael eu cynnal a'u cadw'n hyfryd. Mae’n bleser mawr felly cyhoeddi bod PEDWAR parc cyhoeddus yn y fwrdeistref sirol wedi ennill Gwobr y Faner Werdd, sy’n enwog yn rhyngwladol. Y pedwar parc sydd wedi enillydd gwobr ar gyfer 2024 yw:
- Parc Aberdâr
- Parc Gwledig Cwm Dâr
- Parc Ffynnon Taf
- Parc Coffa Ynysangharad, Pontypridd - cartref yr Eisteddfod Genedlaethol, 2024.
Mae Gwobr y Faner Werdd yn dynodi parc neu fan gwyrdd o’r safon amgylcheddol uchaf bosibl, sy’n cael ei gynnal a'i gadw'n hyfryd ac sydd â chyfleusterau gwych ar gyfer ymwelwyr.
Ymwelodd beirniaid annibynnol â phob safle a dyfarnu marciau yn erbyn meini prawf llym, gan gynnwys themâu fel bioamrywiaeth, glendid, rheolaeth amgylcheddol, a chyfranogiad cymunedol.
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden:
Mae llawer iawn o waith yn cael ei wneud nid yn unig i gynnal a chadw ein parciau, ond i sicrhau eu bod yn fannau diogel a chroesawgar gyda chyfleusterau gwych.
Ym mhob parc yn Rhondda Cynon Taf sydd wedi ennill statws y Faner Werdd eleni, mae gwelyau blodau a meysydd chwarae hyfryd – ond mae nodweddion unigryw iawn i'w gweld hefyd!
Mae Parc Aberdâr yn dyddio o Oes Fictoria ac mae ei ffynnon yn edrych yr un fath â’r un y tu allan i westy enwog Raffles yn Singapôr. Mae Parc Gwledig Cwm Dâr wedi gweld ambell newid yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys dod yn gartref i'r Parc Beiciau Disgyrchiant ar gyfer Teuluoedd, sef yr unig barc beiciau ar gyfer teuluoedd yng Nghymru. Gan barhau â’r thema o nodweddion unigryw, ym Mharc Ffynnon Taf ceir yr unig ffynnon dwym yng Nghymru, ac mae Parc Coffa Ynysangharad yn gartref i Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty. Mae'n amlwg bod parciau Rhondda Cynon Taf yn cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau a mannau gwyrdd i ymlacio a mwynhau byd natur.
Dydy Gwobr y Faner Werdd ddim yn un hawdd i’w hennill ac mae’r ffaith ei fod yn cael ei dyfarnu i'n parciau flwyddyn ar ôl blwyddyn yn dyst i’r staff a’r gwirfoddolwyr sy’n gweithio’n ddiflino i gynnal y safonau anhygoel o uchel sy’n ofynnol er mwyn chwifio’r Faner Werdd. Llongyfarchiadau i bawb dan sylw am ennill y wobr yma unwaith eto.
Wedi ei bostio ar 22/07/24