Mae'r ymgynghoriad ar bolisïau Trwyddedu'r Fwrdeistref Sirol bellach wedi dechrau, ac rydyn ni'n annog trigolion i fanteisio ar y cyfle i ddweud eu dweud!
Bydd polisïau a chanllawiau trwyddedu sy'n helpu i gadw pobl yn ddiogel yn Rhondda Cynon Taf, a hynny o ran gwerthu alcohol, darparu adloniant a darparu lluniaeth gyda'r hwyr, yn cael eu hadolygu yn unol â'r cyfarwyddiadau yn y datganiad Polisi Trwyddedu. RHAID gwneud hyn bob PUM mlynedd.
Mae Deddf Trwyddedu 2003 yn ei gwneud hi'n ofynnol i Awdurdodau Trwyddedu gyhoeddi Datganiad Polisi Trwyddedu sy'n nodi'r ffactorau amrywiol y byddan nhw'n eu hystyried wrth weinyddu a phenderfynu ar geisiadau sy'n cael eu cyflwyno o dan y Ddeddf mewn perthynas â hyrwyddo'r Amcanion Trwyddedu.
Mae'r Cyngor yn cydnabod disgwyliadau trigolion lleol o ran amgylchedd diogel ac iach i fyw a gweithio ynddo, a'r angen i ddarparu adloniant, lletygarwch a chyfleusterau hamdden diogel ledled y Fwrdeistref Sirol.
Ychydig iawn o newidiadau sydd wedi’u gwneud i’r polisi presennol, a ddaeth i rym ym mis Ionawr 2020 ac sy’n parhau i fod yn addas i’r diben. Mae modd i drigolion fwrw golwg ar adroddiad drafft, a bydd modd cyflwyno sylwadau yn ystod yr ymgynghoriad, sy'n cael ei gynnal rhwng 10 Mehefin 2024 a 21 Gorffennaf 2024.
Bydd yr holl ymatebion a ddaw i law o fewn y cyfnod ymgynghori yn cael eu hystyried i sicrhau bod y polisi'n parhau i fod yn addas i'r diben ac yn berthnasol i'r Fwrdeistref Sirol gyfan.
Bydd pob ymateb yn cael ei gyflwyno i bwyllgor trwyddedu'r Cyngor, ynghyd â'r adroddiad diwygiedig. Os bydd yr adroddiad yn cael ei dderbyn, bydd yn mynd gerbron y Cyngor er mwyn ei gymeradwyo.
Mae rhagor o fanylion ar gael yma: www.rctcbc.gov.uk/PolisiTrwyddedu2025 fel arall mae modd cyflwyno sylwadau yn uniongyrchol i Adran.Trwyddedau@rctcbc.gov.uk.
Wedi ei bostio ar 01/07/2024