Dyma roi gwybod i drigolion bod y meysydd parcio ger y Stryd Las yng Nghanol Tref Aberdâr yn aros ar agor yn ystod y gwaith amnewid y cyflenwad nwy sydd ar y gweill gan Wales & West Utilities.
Bydd y gwaith yn digwydd o ddydd Llun, 10 Mehefin, a bydd yn para o ddeutu tair wythnos.
Bydd Wales & West Utilities yn sicrhau bod mynediad i feysydd parcio cyfagos y Cyngoryn y Stryd Las, y Llyfrgell ac Adeiladau'r Goron.
Mae’n bosibl y bydd angen cyfyngu ar nifer fach o leoedd parcio, ond nid oes disgwyl i’r gwaith achosi unrhyw aflonyddwch ychwanegol.
Fodd bynnag, mae nifer o feysydd parcio eraill hefyd ar gael yng nghanol tref Aberdâr – mae manylion llawn wedi'u cynnwys yma.
Diolch ymlaen llaw i drigolion ac ymwelwyr i ganol y dref am eich cydweithrediad.
Wedi ei bostio ar 06/06/24