Croesawyd ymwelydd arbennig iawn ag Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda'r wythnos yma wrth i Mr Bert Reynolds ddychwelyd i Gymoedd De Cymru.
Roedd Mr Reynolds yn un o'r miloedd o blant oedd yn faciwîs a wnaeth ffoi rhag y bomio yn Llundain. Cafodd y plant yma eu croesawu i gartrefi pobl De Cymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Ac yntau'n 8 oed, a'i frawd yn 7 oed, cafodd Mr Reynolds ei anfon o'i gartref yn Islington, Llundain, a threuliodd ychydig dros 2 flynedd yn Ynys-hir. Dydy e erioed wedi anghofio am garedigrwydd pobl y Cymoedd na harddwch cefn gwlad yr ardal.
Mae Mr Reynolds, sydd bellach yn 90 oed, yn byw yn Saffron Walden, Lloegr, ond fe ddychwelodd i'r ardal oedd unwaith yn gartref iddo'r wythnos yma. Cafodd ei groesawu i Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda gan Garfan Treftadaeth Rhondda Cynon Taf. Dangosodd y garfan yr arddangosfa bresennol ar yr Ail Ryfel Byd iddo ac roedd yn fraint cael clywed am atgofion teimladwy Mr Reynolds am Gwm Rhondda yn ystod y rhyfel.
Cafodd cartref Mr Reynolds ei ddinistrio gan fomiau a phan gyrhaeddodd y Cymoedd, doedd e ddim yn gallu credu pa mor dawel oedd yr ardal heb sŵn awyrennau a'r ffrwydradau. Dywedodd wrth y garfan hefyd y cerddodd pobl i fyny'r mynyddoedd gyda chanhwyllau lliw mewn jariau oedd yn goleuo'r Cymoedd gyda'r nos ar ôl i heddwch gael ei gyhoeddi.
Mae Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda wedi'i lleoli yn Nhrehafod ger Pontypridd ac mae'n croesawu miloedd o ymwelwyr o bedwar ban byd bob blwyddyn. Mae'r arddangosfeydd ar y llawr gwaelod a'r orielau ar y llawr cyntaf yn rhad ac am ddim ac mae cyn-lowyr yn eich tywys chi dan ddaear ar y daith, gan rannu gwybodaeth ddiddorol am fywyd y glowyr. Mae modd trefnu teithiau ysgol hefyd gydag amrywiaeth wych o weithgareddau yn seiliedig ar y cwricwlwm.
I drefnu taith dan ddaear, ac i gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.parctreftadaethcwmrhondda.com
Wedi ei bostio ar 28/06/2024