Heno (13 Mehefin) cyflwynwyd Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf i Bwyllgor Gwaith y Brifwyl mewn seremoni arbennig yn y Guildhall, Llantrisant.
Noddir y Goron a chyflwynir y wobr ariannol o £750 gan Ysgol Garth Olwg, sydd yn parhau i feithrin Cymry Cymraeg balch yn ardal Pontypridd. Cynlluniwyd a chynhyrchwyd y Goron gan Elan Rhys Rowlands.
Fe’i cyflwynir am bryddest neu gasgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd, hyd at 250 o linellau, ar y pwnc ‘Atgof’. Y beirniaid eleni yw Tudur Dylan Jones, Elinor Gwynn a Guto Dafydd
Cyfunodd Elan nodweddion trawiadol Hen Bont Pontypridd gyda phatrwm nodau ein hanthem genedlaethol a gyfansoddwyd yn y dref. Fel rhan o’i chais gwreiddiol, creodd Elan fwrdd syniadau yn cynnwys enwogion a nodweddion arwyddocaol ardal Rhondda Cynon Taf. Ymysg yr enwogion roedd y tad a’r mab James James ac Evan James a gyfansoddodd ‘Hen Wlad Fy Nhadau’.
Awgrymodd bod y Goron yn cael ei chreu gyda darnau bychan o arian pur wedi’u gosod fel tonnau gyda'r bwriad o blethu hanes cerddorol yr ardal i mewn i’r Goron. Gosodwyd teitl yr Eisteddfod ar y bont i angori'r cynllun ac mae'r Nod Cyfrin, symbol Gorsedd Cymru ers cyfnod Iolo Morganwg, yn addurno blaen y Goron gan ymgorffori’r cysylltiad hanesyddol cryf gyda thraddodiad yr Eisteddfod.
Penderfynodd Elan ddysgu mwy am ardal yr Eisteddfod cyn creu’r Goron ac aeth i Ysgol Garth Olwg, sy’n noddi’r Goron, i gasglu syniadau pobl ifanc yr ardal. Gweithiodd gyda 15 o ddisgyblion ar y prosiect a chymerodd eu syniadau nhw i ystyriaeth yn y dyluniad gorffenedig.
Yn ogystal â’r Goron, mae’r Gadair hefyd yn cael ei chyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith heno.
Cyflwynir y Gadair eleni am awdl neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd gyflawn ar fwy nag un o’r mesurau traddodiadol, hyd at 250 o linellau, ar y teitl ‘Cadwyn’. Y beirniaid yw Aneirin Karadog, Dylan Foster Evans a Huw Meirion Edwards.
Y crefftwr Berian Daniel sy’n gyfrifol am gynllunio a chreu’r Gadair. Noddir y Gadair a’r wobr ariannol gan ddisgyblion a chymuned Ysgol Llanhari ar achlysur dathlu cyfraniad yr ysgol a Theulu Llanhari i 50 mlynedd o addysg Gymraeg yn Rhondda Cynon Taf.
Derw o goedwig hynafol, gwaith haearn yn adlewyrchu diwydiant y cymoedd a glo, ‘Aur y Rhondda’, yw'r nodweddion yn y Gadair eleni.
Mae'r goeden wedi ei thorri yn ei hanner ac yn y canol mae 'afon' o ddarnau glo wedi’u boddi mewn resin gyda'r cwbl yn cael ei ddal yn ei le gan fariau haearn.
Esboniodd yr artist a'r dylunydd, Berian Daniel, bod y tair rhan yn cynrychioli afonydd Rhondda, Cynon a Thaf sy'n rhoi ei henw i'r sir sy'n gartref i'r Brifwyl eleni.
"Disgyblion Ysgol Llanhari ym Mhont-y-clun ddaeth â'r syniad o greu afon o lo a'r term ‘Aur y Rhondda’. Glo ddaeth o ddaear y cymoedd gan greu gwaith a chyfoeth. Ac er bod y diwydiant wedi dod i ben, mae’i ddylanwad yn parhau'n gryf ac roedd yr ysgol am ei weld yn cael ei adlewyrchu yn y gadair hon," meddai.
 hithau’n dathlu ei phen-blwydd yn 50 mlwydd oed yn 2024, yr ysgol hefyd sy’n noddi'r Gadair eleni a bu holl ddisgyblion yr ysgol, yn ogystal â staff a ffrindiau, yn gweithio'n ddiwyd i godi'r arian angenrheidiol. Dros y misoedd diwethaf mae Berian wedi cydweithio gyda grwpiau yn yr ysgol i greu a chwblhau'r dyluniad.
Daeth y pren o goeden oedd yn tyfu’n agos at gartref Iolo Morganwg yn Y Bontfaen. Roedd rhaid i’r afon o lo fod yn gwbl gywir, gan fod pob darn bach wedi’i guddio gan resin, a bu’n rhaid i Berian arbrofi tipyn cyn perffeithio’r afon.
Haearn sy’n creu'r Nod Cyfrin, ac mae elfennau o natur, diwylliant a diwydiant cymoedd Rhondda, Cynon a Thaf yn y Gadair orffenedig. Daw'r ysbrydoliaeth am y rhain gan ddisgyblion yr ysgol.
Wrth dderbyn y Goron a’r Gadair ar ran yr Eisteddfod dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Helen Prosser, “Mae’n bleser bod yma heno i dderbyn y Goron a’r Gadair ar ran yr Eisteddfod.
“Dyma’r cyfle cyntaf i ni weld y Goron a’r Gadair, ac rwy’n siŵr fy mod i’n siarad ar ran fy nghyd-aelodau o’r Pwyllgor Gwaith wrth ddweud ein bod ni wrth ein boddau gyda’r ddwy. Rwy’n sicr y bydd pawb ar hyd a lled Cymru wedi’u gwefreiddio wrth eu gweld am y tro cyntaf.
“Maen nhw’n symbol cenedlaethol o’n hiaith a’n diwylliant, ond mae’r lleol hefyd i’w weld yn gwbl glir yn y ddwy, ac mae hyn wedi bod mor bwysig i ni yma yn Rhondda Cynon Taf drwy gydol ein taith. Rydyn ni’n ymwybodol iawn ein bod ni’n rhoi cartref i’r Eisteddfod Genedlaethol eleni - ond ein prifwyl ni yw hi, gyda stamp clir y Cymoedd i’w weld yn rhaglen pob un o’r pafiliynau ac, rwy’n falch o ddweud, yn ein Cadair a’n Coron.
“Mae heno’n gyfle i ddiolch. Rydyn ni’n diolch i Ysgol Garth Olwg am eu haelioni’n noddi’r Goron a’r wobr ariannol. Diolch hefyd i Elan Rhys Rowlands am ei gwaith hyfryd o gelfydd yn creu Coron fendigedig.
“Ac yna’r Gadair, wedi’i chreu o goedyn a fu’n tyfu ger cartref Iolo Morganwg. Am fraint i ni’i chael yma yn Rhondda Cynon Taf. Diolch i Berian Daniel am ei waith yn creu Cadair mor arbennig, a diolch hefyd i ddisgyblion, cymuned a theulu Ysgol Llanhari am eu nawdd hael.
“Yfory fe fyddwn ni’n dathlu mai dim ond hanner can diwrnod sydd i fynd tan i Gymru gyrraedd Parc Ynysangharad. Rydyn ni’n awchu i chi gyrraedd a chael blas o’r croeso a’r rhaglen cwbl wych sy’n eich aros. Rydyn ni wedi aros yn hir am gyfle i gynnal yr Eisteddfod yn Rhondda Cynon Taf – 68 mlynedd – ac mae hi ar fin cyrraedd. Felly, mae’r neges yn glir wrth i ni ddadorchuddio’r Gadair a’r Goron heno, dewch i Bontypridd, a dewch i grwydro ardal hyfryd Rhondda Cynon Taf, rydyn ni’n barod amdanoch chi!”
Cynhelir seremoni’r Coroni ddydd Llun 5 Awst am 16:00, a seremoni’r Cadeirio ddydd Gwener 9 Awst am 16:00 yn y Pafiliwn.
Gellir prynu tocynnau ymlaen llawn drwy fynd i’r wefan, www.eisteddfod.cymru. Gellir hefyd brynu tocynnau wrth gyrraedd y Maes ar y diwrnod. Bydd y tocynnau bargen gynnar yn dod i ben am 23:59 nos yfory, 14 Mehefin.
Ewch ar-lein am wybodaeth am Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf a gynhelir ar Barc Ynysangharad, Pontypridd o 3-10 Awst.
Wedi ei bostio ar 13/06/24