Skip to main content

Gŵyl Treftadaeth Cymru i Blant y Lluoedd Arfog ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda

Cafodd Gŵyl Treftadaeth Cymru i Blant y Lluoedd Arfog ei chynnal yn llwyddiannus ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda ym mis Ebrill yn rhan o weithgareddau Mis y Plentyn Milwrol. Roedd yr ŵyl wedi croesawu plant y rhai sy'n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog am ddiwrnod o ddathlu hunaniaeth, meithrin cysylltiadau a thrin a thrafod treftadaeth trwy weithgareddau creadigol.

Gyda diolch i gyllid gan raglen Cefnogi Plant Aelodau’r Lluoedd Arfog Mewn Addysg yng Nghymru (SSCE Cymru), daeth yr ŵyl â phlant y Lluoedd Arfog ynghyd yn un o leoliadau treftadaeth pwysicaf Rhondda Cynon Taf am ddiwrnod llawn o weithdai creadigol a oedd yn cwmpasu hanes lleol, celf ymarferol a chreu cerddoriaeth ar y cyd. Rhoddodd y rhaglen gyfle i'r bobl ifainc fynegi sut beth yw bod yn rhan o gymuned plant y Lluoedd Arfog, gan hefyd fwynhau diwrnod cofiadwy gydag eraill sy'n deall y profiad yna.

Dechreuodd y disgyblion drwy gamu i fyd hanes ar daith dan ddaear i ddysgu am dreftadaeth mwyngloddio Rhondda Cynon Taf. I lawer, dyma oedd y tro cyntaf iddyn nhw brofi cyffro'r pyllau glo ac roedd yn ffordd bwerus o gysylltu â'r hanes a luniodd y cymunedau o'u cwmpas.

Cawson nhw eu gwahodd hefyd i weithdy gwneud baneri, lle aethon nhw ati i drin a thrafod traddodiad baneri yn ffordd i gymunedau gael eu gweld a'u cydnabod, yn enwedig y cymunedau yna sydd yn aml yn cael eu tangynrychioli. Gan gipio'u meddyliau a'u teimladau personol wrth fynegi eu hunain trwy gelf, dyluniodd pob plentyn faner fach unigol i'w mynd â hi adref gyda nhw. Yn ogystal â hyn, gweithiodd pob grŵp ysgol gyda'i gilydd ar faner fwy, gan ddod â'u syniadau unigol ynghyd i greu darn ar y cyd. Aeth y faner yma yn ôl i'r ysgol i'w harddangos.

Parhaodd thema hunanfynegiant drwy gerddoriaeth, wrth i'r plant weithio gydag Otto Aday o elusen Never Such Innocence i ysgrifennu cân yn seiliedig ar eu profiadau eu hunain o fod yn blant y Lluoedd Arfog. Roedd y gweithdy wedi annog y disgyblion i lunio geiriau ar y cyd yn seiliedig ar thema newid, gan droi teimladau bob dydd yn rhywbeth pwerus ac ystyrlon. Bydd y gân yn cael ei recordio a'i chwarae ar Wasanaethau Darlledu Lluoedd Arfog Prydain (BFBS) yn yr wythnosau nesaf, a bydd y gerddoriaeth a'r geiriau hefyd ar gael i gorau sy'n dymuno ei pherfformio.

Roedd Carfan Ymgysylltu Rhanbarthol y Fyddin hefyd yn bresennol, yn cynnal gweithgareddau i'r disgyblion ochr yn ochr ag offer rhyngweithiol newydd Parc Treftadaeth Cwm Rhondda. Roedd hyn wedi rhoi cyfle i'r disgyblion fynd i'r afael â'r offer yn fanwl, gofyn cwestiynau a mwynhau elfen fwy ymarferol o'r diwrnod.

Wrth i'r ŵyl barhau i'r prynhawn, mwynhaodd y disgyblion ac aelodau eraill o gymuned y Lluoedd Arfog ensemble bach gan Fand Brenhinol Cymru, a oedd wedi ychwanegu naws ddathlu i'r achlysur. Roedd y diwrnod hefyd yn cynnwys rhywbeth arbennig gan Valley Veterans, a ddangosodd eu fideo cerddoriaeth am y tro cyntaf yn rhan o'r rhaglen.

Gyda lluniaeth wedi’i darparu gan Bakehouse Brew, roedd cyfle i'r disgyblion a'r gwesteion ymlacio, sgwrsio a myfyrio rhwng gweithgareddau'r ŵyl. At ei gilydd, roedd y gweithdai, y perfformiadau a'r eiliadau roedd pawb yn eu rhannu wedi cyfrannu at achlysur meddylgar a chalonogol a oedd yn cydnabod safbwyntiau a phrofiadau plant y Lluoedd Arfog mewn ffordd ystyrlon.

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber BEM, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog: “Mae'r heriau a'r pwysau mae plant y Lluoedd Arfog yn eu hwynebu yn gallu bod yn unigryw, yn aml gyda newidiadau rheolaidd, ac mae'n bwysig eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu cydnabod a'u cefnogi.

“Cynigiodd Gŵyl Treftadaeth Cymru i Blant y Lluoedd Arfog yma gymysgedd hyfryd o dreftadaeth a chreadigrwydd, o ddysgu dan ddaear am hanes ein pyllau glo i greu baneri a cherddoriaeth sy’n adlewyrchu eu safbwyntiau a'u profiadau eu hunain. Roedd y creadigrwydd a oedd ar waith yn galonogol, ac mae'r ffaith y bydd eu cân yn cael ei recordio a'i chwarae ar y radio yn ffordd wych o rannu'r safbwyntiau a'r profiadau yna'n ehangach a'r tu hwnt i'r diwrnod ei hun.

“Roedd wir yn ddiwrnod i godi calon; rwy’n ddiolchgar i’r holl bartneriaid a oedd wedi helpu i’w wneud mor arbennig, a diolch arbennig i SSCE Cymru am ariannu’r achlysur a chreu profiad mor gadarnhaol i’n plant y Lluoedd Arfog.”

Elusen sy'n darparu offer i blant a phobl ifainc (9 – 18 oed) fyfyrio ar realiti rhyfel a gwrthdaro yw Never Such Innocence. Rhagor o wybodaeth: www.neversuchinnocence.com

Cafodd Parc Treftadaeth Cwm Rhondda ei sefydlu yn 1986 pan ddaeth grŵp o bobl leol ynghyd i ddiogelu Glofa Lewis Merthyr, a oedd newydd gau, a'i chadw'n gofeb i'r unigolion a chymunedau oedd yn byw ac yn gweithio yn y diwydiant glo. Heddiw, mae Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn atyniad twristiaeth sy'n ffynnu ac yn denu ymwelwyr o bob cwr o'r byd.

I gael rhagor o wybodaeth am deithiau, arddangosfeydd, ymweliadau addysgol a rhagor, ewch i: www.parctreftadaethcwmrhondda.com

Wedi ei bostio ar 01/06/2026