Skip to main content

Camp hynod boblogaidd wedi cyrraedd Llantrisant, diolch i gymorth y Cyngor i fusnesau

Padel web

Mae camp sy'n hynod boblogaidd ledled y wlad wedi cyrraedd Llantrisant, diolch i gymorth i fusnesau lleol gan Gyngor Rhondda Cynon Taf.

Mae hen warws diwydiannol, sydd wedi bod yn wag ers dwy flynedd, wedi'i drawsnewid yn glwb Unbound Padel dan do o'r radd flaenaf. Yn ystod y pythefnos cyntaf ers ei agor, cafodd 500 o sesiynau ar y cyrtiau eu trefnu ac ymwelodd dros 1,500 o bobl o bob cwr o'r rhanbarth – gan gynnwys arwr rygbi Cymru, Sam Warburton, a'i deulu!

Rhoddodd y Cyngor ganiatâd cynllunio i'r uned ar Barc Busnes Llantrisant gael ei thrawsnewid gan Unbound Padel a chafodd Grant Twf Busnes gwerth £15,000 ei ddyfarnu iddi, trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU i gefnogi'r datblygiad.

Agorodd Unbound Padel ym mis Mai 2026 ac mae'n cynnwys pedwar cwrt o’r radd flaenaf, gan gynnwys tri chwrt dwbl panoramig ac un cwrt sengl – y cyntaf o'i fath yng Nghymru. Mae pob cwrt wedi'i ddatblygu hyd at lefel broffesiynol.

Mae gan y lleoliad, sydd â chaffi croesawgar, ystafelloedd newid a thoiledau hygyrch, un o nenfydau uchaf unrhyw glwb padel dan do yn y DU. Uchder y nenfwd yw 14 metr ac mae ganddo oleuadau siâp cylch disgleirdeb isel sydd hefyd y cyntaf i'w gweld yng Nghymru. Mae disgwyl i'r siop nwyddau padelagor ym mis Gorffennaf.

Yn fwy pwysig, mae Unbound Padel yn canolbwyntio ar y gymuned a diwylliant. Mae wedi creu swyddi i bump o bobl leol. Gyda chefnogaeth busnesau a chwaraeon Cymru, mae caffi Unbound Padel yn cael ei gyflenwi gan y cwmni lleol Hard Lines Coffee, sydd hefyd wedi noddi un o'r cyrtiau. Mae Merch Asylum yn helpu gyda'r nwyddau ac mae Castell Howell hefyd yn cyflenwi'r caffi.

Padel yw'r gamp sy'n tyfu gyflymaf ar y blaned. Wedi'i chwarae ar gwrt cryno, gyda sgriniau gwydr o’i gwmpas, lle mae'r waliau'n rhan o'r gêm, mae'n fwy cymdeithasol na thennis, yn gyflymach i'w ddysgu, ac unwaith i chi ei chwarae, fyddwch chi ddim eisiau stopio. Mae'r DU yng nghanol ffyniant padel, ac Unbound yw ateb De Cymru iddo.

Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Adfywio:  “Unwaith eto, mae Rhondda Cynon Taf wedi dod yn gartref i leoliad sy’n un o’r goreuon o’i fath yng Nghymru, gyda chyfleusterau newydd sbon o’r radd flaenaf i gwsmeriaid eu mwynhau.

“Mae pobl eisoes yn teithio o bob cwr i ymweld a mwynhau’r cyfleusterau anhygoel yma, sy’n arwydd o ymrwymiad a gweledigaeth tîm Unbound Padel.

“Mae llwyddiant y datblygiad yma'n arwydd o’r hyn y mae modd ei gyflawni pan fyddwn ni'n gweithio gyda’n gilydd. Mae'r warws gwag sy’n cael ei ddefnyddio eto ac sydd wedi'i drawsnewid yn gyfleuster chwaraeon o'r radd flaenaf yn creu swyddi, yn denu ymwelwyr ac yn helpu i roi Rhondda Cynon Taf ar y map.

“Mae ein Carfan Adfywio ymroddedig wrth law i bawb sy'n awyddus i ddechrau busnes – neu ddatblygu un sy'n bodoli eisoes.  Mae croeso i chi gysylltu â ni os hoffech chi ddysgu rhagor am gyfleoedd ariannu posibl.”

Meddai Adrian Swinbourne, Sefydlydd Unbound: “Rydyn ni wedi'n lleoli yn yr ardal ac roedden ni eisiau creu clwb padel y byddai’r gymuned yn falch ohono. Mae Unbound yn fwy na chlwb padel. Mae'n lle croesawgar lle mae modd i unrhyw un ddod i chwarae, boed yn chwaraewr newydd i'r gêm neu’n unigolyn sydd wedi bod yn chwarae ers blynyddoedd.

“Mae Unbound yn canolbwyntio ar sefydlu clwb dan arweiniad y gymuned ar gyfer y tymor hir, i gael mwy o bobl i gymryd rhan ac i barhau i ddod â phobl ynghyd yn un o’r cyfleusterau gorau o’i fath yng Nghymru.”

 

Meddai Matthew Rutland, Rheolwr Datblygu Cenedlaethol Tennis Cymru, sy'n gysylltiedig â'r LTA (Lawn Tennis Association): “Rydyn ni'n llawn cyffro bod Unbound yn dod â champ padel i Lantrisant a’r cymunedau cyfagos. Maen nhw wedi ymrwymo i ganolbwyntio ar greu a thyfu lle cynhwysol, hygyrch a chroesawgar i chwarae a bydd y cyfleuster yn ychwanegiad i’w groesawu yn Ne Cymru wrth i'r gamp barhau i dyfu.”

Mae Unbound Padel wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r LTA i sefydlu ei hun fel clwb cofrestredig, gan sicrhau ei fod yn bodloni safonau proffesiynol, archwiliedig a diogelu. Maen nhw hefyd yn datblygu ei ffocws ar gynhwysiant ac yn helpu i gynnal cystadlaethau padel swyddogol yr LTA.

Mae Unbound Padel wedi'i leoli ym Mharc Busnes Llantrisant, Llantrisant, CF72 8YW. Mae'r cyfleuster ar agor saith diwrnod yr wythnos rhwng 6am a 10pm. Mae sesiynau cwrt ar gael am gyfnodau o 60 neu 90 munud.

Mae modd dysgu rhagor ar wefan Unbound Padel, neu drwy ddilyn ei dudalen Facebook ar Instagram

Wedi ei bostio ar 28/05/2026