Skip to main content

Parc diwydiannol modern yn parhau i ffynnu wrth i'r uned olaf gael ei meddiannu

Robertstown web 1

Mae datblygiad unedau busnes modern y Cyngor yn Nhresalem yn parhau i fynd o nerth i nerth, gyda phob un o'r 20 uned bellach yn cael eu meddiannu gan gyfanswm o 15 cwmni lleol – sy'n dangos y galw am y cynllun yng Nghwm Cynon.

Arweiniodd y buddsoddiad yma, a gafodd ei gwblhau ar ddiwedd 2022, at roi defnydd newydd i ddarn o dir nad oedd yn cael ei ddefnyddio ar Stryd Wellington, gan fanteisio ar gyllid a oedd ar gael gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Mae'r 20 adeilad newydd yn amrywio o unedau traddodiadol i unedau hybrid, sy'n amrywio o ran maint, o 1,000 i 1,700 troedfedd sgwâr.

Roedd nifer o fusnesau lleol wedi mynegi diddordeb yn y safle gwerth miliynau o bunnoedd yma, gyda'r Cyngor yn mynd ati’n rhagweithiol i farchnata’r unedau gyda'i ymgynghorwyr JLL. Symudodd y tenantiaid cyntaf i mewn yn ystod 2023, gan gynnwys M L Crane Services Ltd, Dec-Elec Ltd, WesMec, Rheidol Electrical Services Ltd a Bragdy Grey Trees – sydd i gyd wedi bod yn gweithredu o'r fan yma ers tua thair blynedd.

Mae'r Cyngor yn falch iawn o gyhoeddi bod yr holl unedau bellach wedi'u meddiannu, gyda Jet Rod Ltd yn cychwyn prydles ar gyfer yr uned olaf o fis Ebrill 2026.

Mae rhestr o denantiaid cyfredol yr 20 uned wedi'i chynnwys isod: 

  • Uned 1 – Manup Key Ltd. 
  • Uned 2 – Jet Rod Ltd.
  • Uned 3 – LP Construction and Maintenance Ltd. 
  • Uned 4 – Electrical Innovation (South Wales) Ltd.
  • Unedau 5 a 6 – Infinite Electrical Engineering Ltd.
  • Uned 7 – ML Crane Services Ltd.
  • Uned 8 – Dec-Elec Ltd. 
  • Uned 9 – WesMec.
  • Uned 10 – Simmonds Flooring. 
  • Uned 11 – Dec Renewables Ltd.
  • Uned 12 – R&D Plasterers Ltd.
  • Uned 13 – Loft Pro Cardiff Ltd.
  • Unedau 14 a 15 – Danika Morgans.
  • Uned 16 – Rheidol Electrical Services Ltd 
  • Unedau 17, 18, 19 a 20 – Bragdy Grey Trees.

Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Adfywio a Thai:  “Yn wreiddiol, fe wnaeth y Cyngor dylunio, datblygu a cheisio cyllid ar gyfer y datblygiad yma gan ei fod yn diwallu angen clir am unedau diwydiannol modern yng Nghwm Cynon – gan fanteisio ar gyllid Ewropeaidd gwerth miliynau o bunnoedd a oedd ar gael ar y pryd. Mae diddordeb wedi parhau i fod yn uchel gyda busnesau'n ymholi’n gyson ynghylch y posibilrwydd o weithredu o'r safle- tra bod rhai tenantiaid bellach wedi bod yno ers tua thair blynedd, sy'n dangos bod yr ystod o lety busnes hyblyg yn parhau i ddiwallu anghenion lleol.

“Mae’r ardal yn parhau i fod yn safle cyflogaeth allweddol sy’n cyfrannu’n fawr at yr economi leol, gyda mwyafrif y tenantiaid yn lleol i Gwm Cynon. Rwy'n falch iawn, ym mis Ebrill 2026, bod yr uned wag olaf wedi'i meddiannu, sy'n garreg filltir bwysig. Hoffwn i groesawu'n tenantiaid newydd, yn ogystal â dymuno llwyddiant parhaus i bob un o'r 15 busnes sydd bellach yn gweithredu o'r safle.”

Ychwanegodd Kate Openshaw, Swyddog Cyswllt yng ngharfan Eiddo Diwydiannol a Logisteg JLL: “Mae wedi bod yn wych gweithio gyda’r awdurdod lleol yn asiant gosod tai ar gyfer cynllun Tresalem ac rydyn ni'n falch bod yr eiddo wedi’i osod yn llawn. Mae'r llif cyson o ymholiadau am le yma a'r gosodiadau llwyddiannus yn dangos y galw am yr unedau o safon ac effeithlon o ran ynni mae'r Cyngor wedi'u darparu.”

Cafodd y safle yn Nhresalem ei ddatblygu yn dilyn cwblhau uned ddiwydiannol fodern newydd ym Mharc Coed-Elái yn 2021 - uned fusnes 30,000 troedfedd sgwâr sy’n cynnwys swyddfeydd, a gafodd ei gyflawni yn rhan o Fenter ar y Cyd rhwng y Cyngor a Llywodraeth Cymru. Elwodd y prosiect yma o gyllid Ewropeaidd sylweddol hefyd. 

Wedi ei bostio ar 26/05/2026