Skip to main content

'AFON O SBWRIEL' wedi'i chlirio o Fynydd y BWLCH

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf a Thîm Achub Mynydd Canol y Bannau wedi llwyddo i gynnal ymgyrch lanhau enfawr, gymhleth a hynod beryglus sydd wedi clirio "afon o sbwriel" o lethrau serth Mynydd y Bwlch.

Roedd y gwaith peryglus ar y cyd yma wedi ei gynllunio ers misoedd ond roedd angen y tywydd perffaith a phartneriaeth dechnegol arbenigol er mwyn gweithredu systemau achub rhaff arbenigol ac offer echdynnu mawr i sicrhau y byddai modd symud yr eitemau a oedd wedi'u tipio'n anghyfreithlon yn ddiogel.

Roedd y tipio anghyfreithlon ar y Bwlch—man harddwch adnabyddus yng Nghymru sy'n enwog ledled y byd am ei olygfeydd panoramig godidog—wedi denu sylw mawr ym mis Ionawr ar ôl cael ei amlygu gan y blogiwr teithio poblogaidd Nathan Dixon. Dangosodd ei luniau sut roedd y dirwedd wedi cael ei difetha gan swm digynsail o wastraff a gafodd ei ddadlwytho'n anghyfreithlon. Roedd sawl llwyth o falurion masnachol a chartref—gan gynnwys teiars, plastrfwrdd, bagiau sment, nwyddau gwyn cartref, a thunelli o sbwriel rhydd—wedi'u tipio'n fwriadol dros gilfan, gan ollwng cannoedd o droedfeddi i lawr llethr serth, bron yn fertigol.

Dros y misoedd diwethaf mae adroddiadau hefyd wedi dod i law o bobl yn dringo llethrau peryglus y safle i losgi'r dystiolaeth, sydd hefyd yn gallu arwain at oblygiadau hyd yn oed yn fwy ar gyfer bywyd gwyllt lleol a'r amgylchedd. 

Mae'r gwastraff, a gafodd ei ddadlwytho ar dir fferm preifat, wedi gadael y ffermwr lleol Katie Davies yn wynebu sefyllfa amhosibl. Yn gyfreithiol, mae baich ariannol sy'n dod o glirio gwastraff sydd wedi'i dipio'n anghyfreithlon ar eiddo preifat yn disgyn yn llwyr ar berchennog y tir. Fodd bynnag, o ystyried cwymp fertigol, peryglus y tir, roedd glanhau amaethyddol safonol yn amhosibl i Katie. Gan gydnabod perygl a maint eithriadol y safle a gafodd ei amlygu gan Mr. Dixon, fe wnaeth Cyngor RhCT gamu i'r adwy i helpu i gydlynu'r ymyrraeth dactegol arbenigol.

I adennill y dirwedd, camodd gwirfoddolwyr Tîm Achub Mynydd Canol y Bannau i'r adwy hefyd, gan gynnig eu sgiliau technegol i gynorthwyo'r Cyngor a pherchennog y tir. Fe wnaeth personél achub sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig roi system rigio gymhleth at ei gilydd, gan ddefnyddio estynwyr achub mynydd, rhaffau tynnu, a manteision mecanyddol i dynnu tunnell o falurion gwasgaredig i fyny wyneb serth y clogwyn darn wrth ddarn.

Meddai Arweinydd y Cyngor ac Aelod y Cabinet dros faterion Cyllid, sy'n cynnwys Gwastraff ac Ailgylchu, y Cynghorydd Ann Crimmings:

"Mae Mynydd y Bwlch yn gartref i rai o'n hardaloedd cefn gwlad harddaf, ac mae'n gwbl annerbyniol bod lleiafrif yn ei drin fel man sbwriel personol."

"Mae'r prosiect yma wedi ei gynllunio ers misoedd. Roedd yn rhaid i ni aros am yr amodau tywydd cywir a diogel, ac, yn hollbwysig, y bartneriaeth dechnegol gywir gyda gwirfoddolwyr achub arbenigol er mwyn cael gwared ar y gwastraff yma oddi ar y mynydd yn ddiogel. Hoffwn i ddiolch i garfan eithriadol Tîm Achub Mynydd Canol y Bannau a swyddogion y Cyngor am eu gwaith anhygoel drwy gydol y penwythnos. Mae'r gweithlu, y cydlynu a'r gost sy'n gysylltiedig â gweithrediad fel hyn yn aruthrol. Mae hefyd yn rhoi baich annheg ar ein cymuned ffermio leol—pobl fel Katie Davies, sy'n aml yn gorfod wynebu costau enfawr wrth sicrhau carfanau mynydd arbenigol i glirio tir maen nhw'n ceisio'i ffermio.

"Fydd yr ymddygiad yma ddim yn cael ei dderbyn yn RhCT. Does BYTH esgus i ddifetha'n mynyddoedd, ein trefi, ein strydoedd na'n pentrefi gyda'ch gwastraff, a byddwn ni'n dod o hyd i'r rhai sy'n gyfrifol ac yn eu dwyn i gyfrif.

“Mae gweithredoedd diog y lleiafrif yn y pen draw yn effeithio arnon ni i gyd. Dyna pam y byddwn ni'n parhau i ddefnyddio’r HOLL bwerau sydd ar gael inni, i ddwyn y rheini i gyfrif am eu gweithredoedd. Yn waeth fyth, gallai'r eitemau rydyn ni'n eu clirio fod wedi cael eu cludo i Ganolfan Ailgylchu yn y Gymuned neu hyd yn oed eu casglu o ymyl y ffordd heb unrhyw gost ychwanegol.

Ychwanegodd xxxxx o Dîm Achub Mynydd Canol y Bannau:

"Er mai ein prif genhadaeth yw achub bywydau trwy chwilio ac achub, roedd y cyfaint enfawr o wastraff a oedd wedi'i ollwng i lawr y llethr serth a pheryglus yma'n peri perygl difrifol i'r cyhoedd, da byw lleol, a'r amgylchedd."

"Mae prosiect o'r raddfa yma'n gofyn am waith rigio rhaffau achub technegol iawn a gweithlu aruthrol i lusgo'r malurion yn ôl i fyny wyneb y clogwyn yn ddiogel. Mae'n rhwystredig dros ben bod ein gwirfoddolwyr—sy'n rhoi o'u hamser i achub bywydau—yn cael eu galw i lanhau ar ôl unigolion diog sydd heb unrhyw barch o gwbl at gefn gwlad na diogelwch eraill. Fel elusen sy'n dibynnu bron yn gyfan gwbl ar gyfraniadau ariannol gan y cyhoedd i gadw ein cerbydau a'n hoffer achub bywyd yn weithredol. Rydyn ni'n gobeithio y bydd y cyhoedd yn gweld yr ymdrech aruthrol y mae ein tîm yn ei gwneud heddiw ac yn ystyried cefnogi ein gwaith parhaus."

I gydnabod ymdrech wirfoddol eithriadol Tîm Achub Mynydd Canol y Bannau, mae wedi sefydlu tudalen codi arian bwrpasol ar gyfer aelodau'r cyhoedd sy'n dymuno cefnogi gwaith hanfodol y tîm achub. Mae modd cyfrannu'n uniongyrchol ar y dudalen swyddogol – http://www.justgiving.com/campaign/bwlchcleanup

Fel Cyngor, rydyn ni'n ei gwneud hi'n HAWDD iawn i ailgylchu gyda gwasanaeth ailgylchu gwastraff bwyd sych, gwastraff gwyrdd a chewynnau wythnosol, diderfyn, wrth ymyl y ffordd, a llawer o ganolfannau ailgylchu yn y gymuned ledled y Fwrdeistref Sirol. Does yna ddim esgus dros dipio'n anghyfreithlon, yn enwedig eitemau sy'n gallu cael eu casglu o ymyl y ffordd neu'u hailgylchu yma yn Rhondda Cynon Taf.

Mae Carfan Gorfodi Gofal Strydoedd y Cyngor bellach yn adolygu’r HOLL dystiolaeth o’r safle. Mae Cyngor RhCT yn parhau i fod yn un o'r awdurdodau blaenllaw yng Nghymru ar gyfer gorfodi materion amgylcheddol, gan gyfrif am fwy na chwarter yr holl erlyniadau llwyddiannus yn y llys am dipio anghyfreithlon ledled Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf.

Bydd y Cyngor hefyd yn parhau i ddefnyddio camerâu teledu cylch cyfyng cudd a phatrolau gorfodi rheolaidd ar draws llwybrau mynyddig i ddal troseddwyr.

Rydyn ni gyd yn gyfrifol am sicrhau bod ein gwastraff yn cael ei waredu'n gyfreithiol. Cofiwch, os byddwch chi'n rhoi'ch gwastraff i rywun sy'n ei dipio'n anghyfreithlon, mae modd i chi wynebu dirwy o £300, fan lleiaf. Mae modd i chi wirio a oes gan berson neu fusnes drwydded cludo gwastraff ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Os ydych chi'n gweld tipio anghyfreithlon neu os oes gyda chi wybodaeth am dipio anghyfreithlon ar Fynydd y Bwlch, rhowch wybod i ni ar unwaith ar wefan www.rctcbc.gov.uk/RhoiAdroddiad.

I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn ag Ailgylchu a Chanolfannau Ailgylchu yn y Gymuned yn RhCT, dilynwch y Cyngor ar Facebook/X neu ewch i www.rctcbc.gov.uk/ailgylchu

Wedi ei bostio ar 01/06/2026