Bydd trigolion yn symud i ddeg cartref newydd sydd o ansawdd uchel ac sy'n effeithlon o ran ynni yng Nghlos y Ffatri yn y Porth, wrth i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf barhau i wireddu'i addewid i gynyddu'r nifer o dai fforddiadwy. Fe gafodd y safle newydd ei drigolion cyntaf ym mis Mai.
Mae'r datblygiad, a gyflawnwyd mewn partneriaeth â Trivallis, Llywodraeth Cymru a Bluefield Land Ltd, wedi trawsnewid safle'r hen "Ffatri Botymau", Cilgant Catrin, yn gymuned breswyl fodern a chynaliadwy.
Mae gan y safle dreftadaeth ddiwydiannol gyforiog; arferai gynhyrchu darnau gemau bwrdd, dis, a chratiau pren ar gyfer poteli Corona, ond mae pennod newydd yn hanes y safle yn dechrau, wrth iddo ddarparu cartrefi i bobl ar restr aros tai Ceisio Cartref RhCT!
Mae pob eiddo wedi'i adeiladu i gyflawni sgôr EPC o A, gan gefnogi uchelgeisiau'r Cyngor i greu cymunedau mwy cynaliadwy wrth helpu trigolion i leihau eu costau ynni. Mae cyfleusterau fel pympiau gwres ffynhonnell aer wedi'u cynnwys yn y cartrefi i wella effeithlonrwydd a chynaliadwyedd, ac mae canllawiau a chymorth ar gael i denantiaid ar sut i'w defnyddio.
Mae cynaliadwyedd wedi bod yn ystyriaeth allweddol drwy gydol y broses adeiladu, gyda systemau gardd wedi'u cynllunio i reoli dŵr wyneb a lleihau'r risg o lifogydd.
Mae'r prosiect wedi darparu buddion cymunedol ehangach drwy'r fenter Porth Decides. Mae cyllid a gynhyrchwyd gan y datblygiad wedi cefnogi grwpiau lleol, Gelli Life For Living a Shift Together. Mae bron i £6,000 wedi'i ddyfarnu i helpu i ddarparu gweithgareddau sy'n cefnogi iechyd meddwl a lles.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Norris, yr Aelod o’r Cabinet ar faterion Adfywio a Thai yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf,: “Rydw i wrth fy modd yn gweld y datblygiad yma'n cael ei gwblhau, gan ddarparu 10 cartref fforddiadwy newydd sy’n effeithlon o ran ynni i ddiwallu’r angen lleol am dai. Mae ein partneriaeth â Trivallis wedi ein galluogi i gynyddu'r cyflenwad tai a chreu cymuned gynaliadwy, â chysylltiadau da lle mae modd i drigolion ffynnu. Mae'r prosiect yma'n dangos ymrwymiad parhaus y Cyngor i ddarparu tai fforddiadwy i bobl ledled ein hardal.”
Ychwanegodd Sarah Davies, Rheolwr Datblygu yn Trivallis: “Mae Clos y Ffatri yn ddatblygiad pwysig iawn i ni, oherwydd ei fod yn dod â chartrefi newydd o ansawdd uchel i’r ardal ac yn ein helpu ni i ymateb yn uniongyrchol i’r angen lleol am dai.
Mae gweld y safle yma'n cael ei drawsnewid yn gartrefi newydd wedi bod yn hynod werth chweil ac mae'n adlewyrchu'r cydweithio agos â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Llywodraeth Cymru a gwaith caled Bluefield Land Ltd wrth wireddu'r cynllun.”
Bydd cartrefi yng Nghlos y Ffatri yn cael eu dyrannu yn seiliedig ar yr angen lleol am dai. Bydden nhw hefyd yn cael eu dyrannu i drigolion y mae eu hanghenion yn addas i'r math o gartref sydd ar gael.
Wedi ei bostio ar 27/05/2026