Mae modd i drigolion y Fwrdeistref Sirol fynegi eu diddordeb i wirfoddoli yn rhan o'r Tour de France yr haf nesaf, pan fydd y Grand Départ yn ymweld â Rhondda Cynon Taf ar 4 Gorffennaf (2027)! Mae heddiw'n nodi lansiad yr ymgyrch genedlaethol i ddod o hyd i 9,000 o wirfoddolwyr ledled Cymru, yr Alban, Lloegr, wrth i'r porth ymgeisio agor yn swyddogol.
Mae’r gwirfoddolwyr yn cael eu hadnabod yn swyddogol fel 'JOY Makers', ac wedi'u henwi yn unol â rhaglen effaith gymdeithasol y Grand Départ. Byddan nhw wrth wraidd y ddwy ras, gan helpu cefnogwyr a chymunedau i fwynhau’r ras feicio drwy gydol y chwe chymal, a sicrhau bod rasys mwyaf eiconig y gamp yn cael eu cynnal yn ddidrafferth.
Mae ardal Rhondda Cynon Taf wedi'i chadarnhau yn un o lwybrau cynnal trydydd cymal y DU yn ras y dynion, a fydd yn digwydd ddydd Sul, 4 Gorffennaf, 2027. Bydd y llwybr lleol yn cynnwys dringfeydd heriol mewn tri o'n lleoliadau mynyddig mwyaf prydferth – Côte de Rhigos, Côte de Penrhys a Côte de Maerdy – tra hefyd yn mynd trwy lawer o’n pentrefi a threfi.
Mae modd gwneud cais nawr i fod yn 'JOY Maker' ar gyfer unrhyw un o chwe chymal Grand Départs 2027 drwy’r wefan yma: http://www.letourgb.com, o ddydd Mercher, 27 Mai, tan ddydd Mawrth, 1 Medi, 2026.
Rydyn ni'n annog unrhyw un 16 oed a throsodd i wneud cais i fod yn 'JOY Maker', heb fod angen profiad gwirfoddoli blaenorol i rannu yn y profiad unwaith mewn oes yma – gan chwarae rhan yn yr hyn a fydd yn achlysur chwaraeon mwyaf poblogaidd Prydain, gan greu atgofion parhaol a datblygu sgiliau newydd. Mae amrywiaeth o rolau i gefnogi gweithrediadau'r achlysur a gwella profiad gwylwyr ar gael, gyda hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu.
I nodi bod y cyfnod ymgeisio ar agor a lansio'r rhaglen, ymunodd y cyflwynydd teledu a'r darlledwr Radzi Chinyanganya â grŵp o wirfoddolwyr presennol sy'n cefnogi'r Grand Départs.
Meddai Radzi Chinyanganya: “Fyddwn i ddim yn gwneud fy swydd i heddiw oni bai fy mod i wedi bod yn wirfoddolwr pan oeddwn i yn fy arddegau. Roeddwn i'n wirfoddolwr yn y cyfryngau ac rwy'n gweithio yn y cyfryngau nawr - sy’n dangos bod gwirfoddoli yn gallu arwain at rywbeth anhygoel. Rydw i’n edrych ymlaen at weld pawb gymryd rhan - bydd yn brofiad bythgofiadwy go iawn.
“Mae gwybod beth rydych chi eisiau ei wneud pan fyddwch chi'n ifanc yn gallu bod yn frawychus ac mae hi hefyd yn anodd i gael profiad gwaith ar hyn o bryd. Bydd gwneud cais i fod yn 'JOY Maker' yn eich helpu i gael blas ar gyfleoedd newydd a llywio eich llwybr gyrfa, a hynny i gyd wrth fod yn rhan o greu hanes. Pwy bynnag ydych chi, beth bynnag yw eich oedran neu'ch cefndir – mae 'JOY Makers' ar agor i bawb – os ydych chi eisiau dod â llawenydd i'r achlysur, rydyn ni eich eisiau chi.”
Mae rhaglen 'JOY Makers' wedi'i chynllunio i fod yn hygyrch i bawb, o'r rhai sydd â phrofiad o wirfoddoli mewn achlysuron mawr a gweithgareddau Beicio Prydain i wirfoddolwyr am y tro cyntaf, yn enwedig y rheiny o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol mewn gwirfoddoli, gan gynnwys pobl ifainc rhwng 16 a 25 oed.
Bydd y rheiny rhwng 18 a 25 oed yn gymwys i ymuno â'r cynllun Parodrwydd i Weithio, a fydd yn cael ei lansio yn rhan o raglen effaith gymdeithasol JOY. Bydd y cynllun yn darparu pecyn cynhwysfawr o hyfforddiant sgiliau cyflogadwyedd a mentora sy'n canolbwyntio ar yrfaoedd ar draws sawl sector. Bydd cyfuno'r cyfle yma â'r profiad gwirfoddoli yn cynnig profiad gwaith cyflawn ac ymarferol i bobl ifainc.
Gyda'i gilydd, nod y rhaglen wirfoddoli a'r cynllun Parodrwydd i Weithio yw gadael casgliad angerddol a medrus o wirfoddolwyr ar ei hôl, gan greu gwaddol parhaol i'r Grand Départs mewn cymunedau ledled y wlad. Yn ogystal â'r gwaddol yma, mae Beicio Prydain - gyda chefnogaeth gan bartneriaid ar draws y tair gwlad - yn annog y llywodraeth i ymrwymo buddsoddiad cyfalaf hanfodol gwerth £30 miliwn i ddarparu ystod o gyfleusterau beicio newydd ac wedi'u huwchraddio ledled Prydain, gan gyrraedd cymunedau sydd dan anfantais.
Byddai'r buddsoddiad yma'n rhoi hwb i'r rhaglen hynod lwyddiannus 'Mannau i Reidio' - buddsoddiad gwerth £15 miliwn gan y Llywodraeth i atgyfnerthu gwaddol UCI Yorkshire Road World Championships 2019 - gan gyflawni dros 150 o brosiectau beicio cymunedol ledled Lloegr, ac arbed £13.1 miliwn i'r GIG.
Wrth drafod lansiad y porth ymgeisio, meddai Tracy Power, ar ran JOY, rhaglen effaith gymdeithasol Grand Départ GB 2027; “Dyma gynnig gwirioneddol unigryw i wirfoddoli ac mae'n gyfle unwaith mewn oes i deimlo’r wefr o fod yn rhan o achlysur sy’n creu hanes, wrth gwrdd â phobl newydd a dathlu eich cymuned leol.
“Bydd rhaglen JOY Makers yn creu grŵp craidd o wirfoddolwyr ymgysylltiedig ledled Prydain, sy’n barod i gymryd rhan yn frwdfrydig, gan neilltuo eu hamser i ddod ag achlysuron a gweithgareddau lleol yn fyw. Bydd hyn nid yn unig o fudd i'r gymuned feicio ond hefyd yn helpu ein cymunedau lleol i ffynnu ac yn hybu cyflogadwyedd.
“P’un a ydych chi wedi gwirfoddoli o’r blaen, yn feiciwr rheolaidd neu’n gwbl newydd i wirfoddoli a'r byd beicio, mae croeso i bawb fod yn JOY Maker. Rydyn ni'n edrych ymlaen at eich cael chi'n rhan o'r tîm, gan ein helpu ni i ddathlu beicio ac arddangos eich cymunedau drwy'r Grand Départs.”
I gael y newyddion diweddaraf ynghylch y Grand Départs yn 2027 ac i ddysgu rhagor am y chwe chymal, ewch i letourgb.com.
Wedi ei bostio ar 27/05/2026