Dyma hysbysu preswylwyr y bydd y ffordd ar gau yn ystod oriau’r dydd ar gyfer rhoi wyneb newydd ar y ffordd ar hyd Ystad Ddiwydiannol Gelli yr wythnos nesaf.
Bydd y gwaith yn mynd rhagddo o ddydd Llun 24 Mehefin i ddydd Gwener 28 Mehefin, gyda'r ffordd ar gau o 8am i 4.30pm bob dydd.
Bydd y ffordd ar gau o'r gyffordd nesaf i TT Tyres tua’r gogledd-ddwyrain am 500 metr.
Bydd Carfan Gofal y Strydoedd RhCT yn cwblhau'r gwaith, ac yn sicrhau bod busnesau lleol yn parhau i gael mynediad i’w heiddo trwy gydol y Cynllun.
Bydd arwyddion clir i yrwyr ar gyfer ffordd amgen sy'n mynd ar hyd y ffordd gyfagos yn yr Ystad Ddiwydiannol. Gall seiclwyr naill ai defnyddio'r ffordd amgen, neu ddod oddi ar eu beic a defnyddio'r mynediad i gerddwyr.
Bydd mynediad ar gael i gerddwyr a cherbydau'r gwasanaethau brys.
Diolch ymlaen llaw i drigolion, busnesau a defnyddwyr y ffordd am eich cydweithrediad.
Wedi ei bostio ar 18/06/2024