Bydd gwaith atgyweirio wal ar Heol Cwm-bach yng Nghwm-bach yn cael ei gynnal yn ystod gwyliau'r Pasg er mwyn lleihau aflonyddwch.
Bydd y cynllun, sy'n cael ei gyflawni trwy ddefnyddio cyllid refeniw y Cyngor, yn dechrau ddydd Llun 25 Mawrth ac yn dod i ben erbyn 5 Ebrill.
Mae'r wal wedi'i lleoli i'r de o'r rhan o'r troadau ‘S’ rhwng Cwm-bach a Phlasdraw, lle mae'r ffordd yn croesi nant.
Bydd y gwaith yn cynnwys cael gwared ar lystyfiant o'r wal, ailbwyntio rhannau o'r wal, ailosod meini copa ac ailadeiladu rhan o'r wal lle bo angen.
Mae'r Cyngor wedi penodi DT Contracting i gynnal y gwaith ar y safle.
Bydd angen cau lôn ar Heol Cwm-bach a gosod goleuadau traffig dros dro a reolir â llaw yn ystod yr adegau mwyaf prysur.
Bydd y llwybr troed ger y wal hefyd ar gau – bydd modd i gerddwyr ddefnyddio'r rhan gyfagos o Daith Cwm Cynon (mae modd ei chyrraedd o Heol Cwm-bach, i'r de o safle'r gwaith).
Diolch ymlaen llaw i drigolion a defnyddwyr y ffordd am eu cydweithrediad.
Wedi ei bostio ar 22/03/2024