Mae carfanau maethu awdurdodau lleol Maethu Cymru yn ymgymryd â her anhygoel i ddathlu'r gwahaniaeth y mae maethu yn ei wneud i bobl ifainc yng Nghymru.
Dros y penwythnos (dydd Sadwrn 18 a dydd Sul 19 Mai), fe wnaeth carfan ddewr o Faethu Cymru, y rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu awdurdodau lleol yng Nghymru, ddringo 15 copa Cymru er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r gwahaniaeth arbennig y mae gofal maeth yn ei wneud.
Fe wnaeth 9 aelod o garfanau Maethu Cymru Ynys Môn, Gwynedd, a Chwm Taf Morgannwg ymgymryd â'r her yn ystod Pythefnos Gofal Maeth™ (13-26 Mai). Dyma achlysur blynyddol i ddathlu cymuned faethu anhygoel Cymru ac annog rhagor o bobl i ystyried dod yn rhieni maeth yr awdurdod lleol.
Gan ddechrau gyda'r Wyddfa, dringodd y grŵp i gopa pob un o'r 15 mynydd sydd dros 3000 troedfedd yng Ngogledd Cymru. Dringodd pob aelod dros 24 milltir yn ystod yr her ddeuddydd - gyda'r grŵp yn dringo dros 215 milltir ar y cyd.
Esboniodd Jo Reeves, Swyddog Marchnata Rhanbarthol ar gyfer Maethu Cymru RhCT, a gymerodd ran yn yr her:
“Mae bod yn rhan o Faethu Cymru wedi fy ngwneud i'n effro i'r heriau y mae ein plant a phobl ifainc mewn gofal yn eu hwynebu. Yn ystod Pythefnos Gofal Maeth y llynedd fe wnaethon ni gymryd rhan yn Her 3 Chopa Cymru, ond eleni roedden ni eisiau gwthio'n gilydd hyd yn oed yn fwy ar gyfer ein pobl ifainc sydd â phrofiad o dderbyn gofal!
"Roedd cymryd rhan yn yr her 15 Copa yn ffordd fechan o godi ymwybyddiaeth o faethu a'r angen am ragor o rieni maeth. Mae wedi bod yn ddathliad i ddangos ein gwerthfawrogiad i bawb sy'n rhan o'r gymuned faethu yng Nghymru. Ffordd o ddangos ein cefnogaeth drwy gwblhau heriau anodd, ac o ddweud diolch.
"Dyna oedd y peth mwyaf heriol rydw i erioed wedi'i wneud yn fy mywyd - a hynny'n feddyliol ac yn gorfforol. Fe wnaethon ni gerdded i fyny ac i lawr mynyddoedd am 17 awr ddydd Sadwrn, a 10 awr arall ddydd Sul yn y gwres (roedd 24 o oriau golau dydd rhwng y copa cyntaf a'r copa olaf). Roedd y cymorth gan ffrindiau, teulu a chydweithwyr, a'r arian gafodd ei godi ar gyfer Voices From Care Cymru, wedi helpu i'n hannog ni i barhau!”
Yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o'r gwahaniaeth anhygoel y mae maethu yn ei wneud, mae'r garfan hefyd yn codi arian ar gyfer Voices from Care Cymru, elusen sy'n cefnogi pobl ifainc sydd â phrofiad o dderbyn gofal yng Nghymru.
Ychwanegodd Emma Phipps-Magill, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Voices From Care Cymru:
“Diolch enfawr i'n ffrindiau ym Maethu Cymru am ymgymryd â'r Her 15 Copa er mwyn codi arian ar ein cyfer. Am garfan anhygoel am ymgymryd â her mor fendigedig. Diolch o waelod calon!”
Mae'r achlysur yma'n un o nifer sy'n cael eu cynnal ledled Cymru yn rhan o ddathliadau eleni. Mae eraill yn cynnwys gweithdy coginio gan gogydd Colleen Ramsey i bobl ifainc sydd â phrofiad o dderbyn gofal, a'r daith gerdded 'Foster Walk' yng Nghaerdydd sy'n cael ei harwain gan ddau enillydd medal Gemau Olympaidd a'r ymgyrchydd ar gyfer maethu, Fatima Whitbread, MBE.
Mae Maethu Cymru hefyd yn lansio llyfr coginio sydd wedi'i gefnogi gan enwogion - Gall pawb gynnig rhywbeth - sydd ar gael i'w lawrlwytho am ddim. Mae'n rhannu profiadau maethu go iawn i ysbrydoli rhagor o bobl i ystyried dod yn rhieni maeth eu hawdurdod lleol.
Yng Nghymru, mae dros 7,000 o bobl ifainc mewn gofal ar hyn o bryd, ond dim ond 3,800 o deuluoedd maeth. Mae Maethu Cymru wedi nodi nod beiddgar o recriwtio dros 800 o deuluoedd maeth newydd erbyn 2026 er mwyn darparu cartrefi croesawgar i blant a phobl ifainc lleol.
I gyfrannu tuag at Voices from Care Cymru, ewch i https://www.justgiving.com/team/fw-15peaks
Am ragor o wybodaeth ar ddod yn rhiant maeth yng Nghymru, ewch i https://maethucymru.llyw.cymru/
Nodiadau i'r Golygydd
Mae cyfweliadau ar gael gyda chynrychiolwyr o Faethu Cymru drwy gydol Pythefnos Gofal Maeth.
Am ragor o wybodaeth neu geisiadau gan y cyfryngau, cysylltwch â: joanna.reeves@rctcbc.gov.uk
Gwybodaeth am y Daith Gerdded
- Bydd y grŵp yn dringo i gopa pob un o'r 15 mynydd sydd dros 3000 troedfedd yng Nghymru o fewn 48 awr.
- Pellter y daith gerdded yw 24 milltir, ond mae'r cyfanswm yn codi i dros 30 milltir wrth gynnwys cerdded i'r man cychwyn ac yn ôl o'r man gorffen.
- Y bobl sy'n cymryd rhan yn y daith gerdded:
- Keith Walters, Rhian Sharpe, Ffion Owen, a Sioned Owen – Maethu Cymru Ynys Môn
- Meilyr Wyn ac Emma Griffiths – Maethu Cymru Gwynedd
- Abigail Durrans a Jo Reeves – Maethu Cymru RhCT
Ynglŷn â Phythefnos Gofal Maeth
- Pythefnos Gofal Maeth™ yw ymgyrch flynyddol The Fostering Network i godi proffil maethu a dangos sut mae gofal maeth yn trawsnewid bywydau.
- Bydd Pythefnos Gofal Maeth 2024 yn cael ei chynnal rhwng 13 a 26 Mai.
- Y thema yw #MunudauMaethu
- Dyma ragor o wybodaeth am The Fostering Network: https://www.thefosteringnetwork.org.uk/
Wedi ei bostio ar 22/05/2024