Skip to main content

Cydnabod Cyngor Rhondda Cynon Taf yn Gymuned sy'n Gyfeillgar i Oed!

Llys Cadwyn

Rydyn ni'n falch o gyhoeddi ein bod ni wedi cael ein cydnabod yn Gymuned sy'n Gyfeillgar i Oed. Mae hyn yn dilyn ymuno â Rhwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd o Ddinasoedd a Chymunedau sy'n Gyfeillgar i Oed. Mae'r rhwydwaith yn fudiad byd-eang o gymunedau, dinasoedd, ac awdurdodau llywodraethu is-genedlaethol eraill sy'n ymdrechu i ddiwallu anghenion trigolion hŷn yn well.

Drwy ymuno â’r rhwydwaith, rydyn ni'n ymrwymo i hyrwyddo’r gwerthoedd a’r egwyddorion sy’n ganolog i ddull gweithredu Sefydliad Iechyd y Byd o ran bod yn Gyfeillgar i Oed. Mae hyn yn cynnwys gwella amgylcheddau lleol sy’n gyfeillgar i oed a rhannu profiadau a chyfleoedd i ddatblygu gydag aelodau a phartneriaid eraill.

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol:  “Mae’n bleser gen i ddweud bod Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi dod yn aelod o Rwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd o Ddinasoedd a Chymunedau sy'n Gyfeillgar i Oed.

“Mae hon yn fenter gydweithredol ragorol sy’n dangos bod ein sefydliad wedi ymrwymo i ddod yn fwy ystyrlon o bobl mewn oed. Byddwn ni'n cyflawni hyn drwy gydweithio â nhw er mwyn deall sut mae modd i ni eu helpu nhw i fyw bywydau gwerth chweil.

“Mae'n rhaid i'n cymuned ni fynd ati i groesawu a dathlu'r egwyddorion sydd ynghlwm â bod yn gyfeillgar i oed, gan ymrwymo i werthfawrogi ein trigolion hŷn a'r amrywiaeth eang o brofiadau a doethineb sydd gyda nhw i'w cynnig i'n cymdeithas ni. Bydd hyn yn sicrhau bod pobl hŷn yn teimlo'n rhan bwysig o'n cymuned gynhwysol a chefnogol."

Er mwyn nodi'r cyflawniad yma, gwahoddon ni Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Heléna Herklots CBE, i ymweld â'r fwrdeistref sirol ar 1 Mai. Yn ystod yr ymweliad, tynnodd cynrychiolwyr y Cyngor sylw at y cymorth, y gweithgareddau a'r gwasanaethau cyfeillgar i oed sydd ar gael yn ein cymunedau lleol.

Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Cyfleuster Gofal Ychwanegol Linc Cymru yng Nghwrt-yr-Orsaf
  • Ioga Cadair Fforwm 50+ Taf-elái (YMa)
  • Growing Space Pontypridd CIC (Amgueddfa Pontypridd)
  • Sesiwn Hyfforddiant ar Ddefnyddio Llechi a Ffonau Clyfar (Llyfrgell Pontypridd)
  • Grŵp Llywio Cymorth yn y Gymuned RhCT
  • Rhwydweithiau Cymdogaeth
  • Fforymau 50+
  • Grŵp Cynghori Pobl Hŷn RhCT (OPAG)
  • Ymgyrch Gwrandawyr Lleol yn y Gymuned - Dementia
  • Ymgyrch “Troi Ponty yn Las” Pontypridd sy'n Deall Dementia
  • Age Connects Morgannwg
  • Gwasanaeth Gofal a Thrwsio Cwm Taf
  • Cymdeithas Alzheimer's
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
  • Interlink RhCT
  • A llawer mwy o sefydliadau a grwpiau cymunedol lleol ar lawr gwlad

Meddai Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru: “Roedd hi'n bleser ymweld â Rhondda Cynon Taf a chael blas ar rai o'r mentrau gwych sydd ar waith er mwyn helpu pobl i heneiddio'n dda. Llongyfarchiadau i'r Cyngor ar lwyddo i ymuno â Rhwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd er mwyn meithrin cymunedau sy'n fwy cyfeillgar i oed.

"Mae hyn yn ategu ymrwymiad y Cyngor i sicrhau bod ei holl drigolion yn cael cymorth i heneiddio yn y modd gorau posibl. Mae hefyd yn dangos ein bod ni'n gwneud cynnydd da yma yng Nghymru o ran sicrhau bod modd i bobl hŷn fyw bywydau ystyrlon sy'n llawn profiadau gwerthfawr.

“Bydd ymuno â’r Rhwydwaith nid yn unig yn gyfle i ddysgu gan ddinasoedd, cymunedau a sefydliadau eraill ledled y byd, ond hefyd yn galluogi staff y Cyngor i amlygu ac arddangos y gwaith y maen nhw'n ei gyflawni er mwyn helpu pobl hŷn i heneiddio’n dda ar lwyfan byd-eang.

“Rydw i'n falch iawn bod awdurdod lleol arall yng Nghymru wedi dod yn aelod o’r Rhwydwaith, a bod llawer o rai eraill wrthi'n ymgeisio hefyd. Bydd hyn yn dod â ni gam arall yn nes at wireddu ein huchelgais o greu Cymru sy'n gyfeillgar i oed.” 

Cafodd Rhwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Dinasoedd a Chymunedau sy’n Gyfeillgar i Oed ei sefydlu yn 2010. Ei nod oedd bod yn ddolen gyswllt ar gyfer dinasoedd, cymunedau a sefydliadau ledled y byd sy'n awyddus i fod yn lleoedd gwych i bobl heneiddio ynddyn nhw.

Gyda'r boblogaeth fyd-eang yn heneiddio, mae'r Rhwydwaith yn canolbwyntio ar roi camau lleol ar waith sy'n galluogi pobl hŷn i gyfrannu at eu cymunedau, yn ogystal â hyrwyddo ffyrdd o heneiddio mewn modd iach ac egnïol.

Mae holl aelodau'r Rhwydwaith yn awyddus ac yn ymrwymedig i greu amgylcheddau diriaethol a chymdeithasol sy’n helpu unigolion hŷn i heneiddio mewn modd iach ac egnïol, yn ogystal â mwynhau bywyd o ansawdd da.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://extranet.who.int/agefriendlyworld/who-network/

I ddysgu rhagor am Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, ewch i: https://comisiynyddph.cymru/

Wedi ei bostio ar 03/05/2024