Skip to main content

Mae'r Sioe Ceir Clasur yn dod i Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn ystod yr haf eleni!

CCS2

Dyma achlysur gwych i'r teulu cyfan ei fwynhau, gyda chyfle i weld ceir clasur mewn cyflwr arbennig a chwrdd â'u perchnogion brwdfrydig a gwybodus. Mae'r cyfan yn digwydd ddydd Sadwrn, 29 Mehefin, rhwng 10am a 4pm.

Yn ôl yr arfer, bydd yr achlysur yn cael ei gynnal ar y cyd â Chlwb Ceir Clasur Morgannwg. Pris mynediad yw £3 y person ac am ddim i blant 5 oed ac yn iau.  Mae modd prynu tocynnau ar y diwrnod neu ar-lein yma.

Os ydych chi'n dod draw i'r Sioe Ceir Clasur eleni, cofiwch fod modd i chi hefyd ymweld â'n harddangosfa ryngweithiol newydd sbon am ddim, mwynhau pryd o fwyd, byrbryd neu de prynhawn yn Caffè Bracchi, a galw heibio i'r siop anrhegion i bori'r casgliad o gofroddion, anrhegion clasurol Cymreig neu gynnyrch lleol. Efallai byddwch chi'n gweld ambell beth i ychwanegu at eich casgliad!

Rydyn ni hefyd yn falch iawn o gyhoeddi y bydd ein crefftwyr preswyl, Craft of Hearts, yn cynnal ffair grefftau ar y diwrnod.

Mae croeso i ymwelwyr fwynhau taith yr Aur Du hefyd, lle bydd cyn-löwr yn rhoi helmed glöwr ar eu pennau ac yn eu cludo o dan y ddaear ac yn ôl mewn amser.

Mae pob un o’n tywyswyr yn gyn-löwr a bydd yn rhannu ei straeon personol a’i atgofion gyda chi. Beth am fynd ar DRAM!? Dyma brofiad sy'n dynwared taith olaf glo dram i ben siafft y pwll – mae bob amser yn boblogaidd gydag ymwelwyr o bob oedran!

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden:

Mae'r Sioe Ceir Clasur bob amser yn ddiwrnod ardderchog! Mae'n wych gweld hen geir nad ydyn ni'n eu gweld yn aml ar ein ffyrdd y dyddiau yma a chael cyfle i sgwrsio gyda'u perchnogion am hanes eu cerbydau. Ynghyd â'r ffair grefftau, taith dan ddaear ac arddangosfeydd ar y safle, mae modd treulio diwrnod yno gyda'r teulu cyfan.

Mae tocynnau ar gyfer y Sioe Ceir Clasur ar gael yma. Bydd tocynnau hefyd ar gael ar y diwrnod.

Dysgwch ragor am Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda, cadwch le ar Daith Dywys Danddaearol yr Aur Du neu hyd yn oed cadwch fwrdd yn Caffè Bracchi. Ewch i: www.parctreftadaethcwmrhondda.com

Wedi ei bostio ar 15/05/24