Mae cynllun i adfer wal gynnal a glan yr afon bellach wedi dechrau yn ardal Penrhiw-ceibr, a hynny er mwyn trwsio difrod sgwrfa a thirlithriad bach yn yr Afon Cynon.
Mae'r gwaith yn cael ei gynnal ger Cae Chwaraeon Pentwyn, sydd wedi'i adeiladu ar domen gwastraff pyllau glo - mae'r wal gynnal a glan yr afon wedi'u lleoli ar waelod yr hen domen.
Mae'r cynllun yn cynnwys adeiladu wal gynnal carreg bloc, adfer gwaelod y domen ac atgyweirio sefydlogrwydd y llethr - gan atal silt a deunyddiau eraill rhag mynd i mewn i'r afon.
Bydd llwybr troed sy'n mynd ar hyd glan yr afon hefyd yn cael ei adfer. Bydd yn parhau i fod ar gau i'r cyhoedd trwy gydol y gwaith.
Bydd y gwaith yn cael ei gyflawni gan ddefnyddio cyllid Grant Diogelwch Tomenni Glo Llywodraeth Cymru ac yn cael ei gwblhau yn ddiweddarach eleni.
Mae cwmni Prichard's wedi'i benodi'n gontractwr ar gyfer y gwaith, a dechreuodd gwaith paratoi'r safle ar ddiwedd mis Ebrill 2024.
Mae'r ardaloedd ar gyfer peiriannau/offer a storio deunyddiau yn cael eu sefydlu ger y ddau gae pêl-droed ar ran uchaf Caeau Pentwyn.
Ni fydd unrhyw waith yn cael ei gynnal ar y caeau pêl-droed, bydd modd i'r gymuned barhau i ddefnyddio'r caeau yma drwy gydol y gwaith.
Mae'r Cyngor wedi gweithio gyda threfnwyr yr ŵyl bêl-droed flynyddol, sy'n cael ei chynnal ym mis Gorffennaf, i sicrhau bod modd cynnal yr achlysur yn ôl yr arfer.
Diolch i'r gymuned am eich cydweithrediad yn ystod y gwaith yma.
Wedi ei bostio ar 14/05/24