Newyddion sblashtastig i drigolion ieuengaf Rhondda Cynon Taf - bydd sesiynau nofio newydd sbon i fabanod yn dechrau mewn canolfan Hamdden am Oes leol i chi'n fuan iawn!
Mae'r sesiynau nofio llawn hwyl yma'n cynnig cyfle i fabanod a phlant bach (a'u rhieni neu warcheidwaid!) fwynhau yn y dŵr, magu hyder a dod yn gyfarwydd â bod yn y pwll.
Mae teganau dŵr lliwgar a gemau a hyd yn oed cerddoriaeth a hwiangerddi cyfeillgar i fabanod yn chwarae yn y cefndir.
Mae'r sesiynau wedi'u seilio ar gynllun peilot llwyddiannus a gafodd ei gynnal gan garfan Chwaraeon RhCT Cyngor Rhondda Cynon Taf ym mis Hydref i nodi Wythnos Nofio i Fabanod. Roedden nhw'n gymaint o lwyddiant, mae Chwaraeon RhCT a Hamdden am Oes wedi penderfynu cydweithio i'w gwneud nhw'n rhan barhaol o amserlenni'r pyllau nofio.
Mae'r Sesiynau Nofio i Fabanod wedi'u hanelu at fabanod a phlant bach rhwng 3 mis a 4 blwydd oed. Mae'r sesiynau'n awr o hyd, mae gyda nhw deganau lliwgar, gemau llawn hwyl a cherddoriaeth i helpu rhieni neu warcheidwaid a'r baban i fagu hyder yn y dŵr.
Mae amserlen y sesiynau newydd yma isod:
- Dydd Llun: Canolfan Chwaraeon Cwm Rhondda, Ystrad, rhwng 9.30am a 10.30am
- Dydd Mawrth: Canolfan Hamdden Llantrisant, rhwng 11am a 12pm
- Dydd Mawrth: Pwll Nofio Bronwydd, rhwng 10am ac 11am
- Dydd Mercher: Canolfan Chwaraeon Cwm Rhondda, Ystrad, rhwng 9.30am a 10.30am
- Dydd Iau: Pwll Nofio Glynrhedynog, rhwng 1pm a 2pm
- Dydd Iau: Canolfan Hamdden Sobell, Aberdâr, rhwng 11am a 12pm
- Dydd Iau: Canolfan Hamdden Tonyrefail, rhwng 1pm a 2pm
- Dydd Gwener: Canolfan Chwaraeon Abercynon, rhwng 11am a 12pm
Mae sesiynau Nofio i Fabanod yn costio £5.80 y teulu (dau oedolyn, un plentyn) neu am ddim ar gyfer aelodau Hamdden am Oes.
Awrgrymiadau
Oes angen cyngor arnoch chi o ran sut i gefnogi datblygiad eich babi yn y dŵr? Bwriwch olwg ar ein fideos gwybodaeth i ddysgu sut i ddatblygu hyder eich babi yn y dŵr!
Datblygu sgiliau gafael ac ymwybyddiaeth – cliciwch i wylio'r fideo
Symud yn y dŵr – cliciwch i wylio'r fideo
Hyder yn y dŵr – cliciwch i wylio'r fideo
Cicio a sblasio – cliciwch i wylio'r fideo
Beth fydd ei angen arnoch chi? Cliciwch i wylio ein fideo.
- Tywel ar gyfer y rhiant/gwarcheidwad
- Gwisg nofio ar gyfer y rhiant/gwarcheidwad
- Gwisgwch ddillad nofio o dan eich dillad (cofiwch ddod â'ch dillad isaf!)
- Weips gwlyb
- Hufen ar gyfer croen eich babi (os oes angen)
- Cewyn nofio tafladwy
- Ewch â chewyn sbâr gyda chi
- Cewyn nofio sy'n dal dŵr
- Rhaid ei wisgo â chewyn nofio tafladwy er mwyn atal halogi'r dŵr
- Crys-t wedi'i ddylunio ar gyfer y dŵr neu wisg nofio i fabanod
- Hoff degan o'r bath
- Byddan nhw'n teimlo'n fwy cyfforddus yn y dŵr os bydd rhywbeth cyfarwydd yno
- Tywel yn null poncho er mwyn i'r babi gadw'n gynnes unwaith y bydd yn sych
- Rhowch dywel o amgylch eich babi ar y ffordd i mewn ac allan o'r pwll er mwyn ei gadw'n gynnes
- Tywel arferol er mwyn sychu'ch babi
I gael awgrymiadau da eraill, cliciwch yma i ddarllen erthygl wych gan sefydliad Nofio Cymru.
Wedi ei bostio ar 12/11/2024