Skip to main content

Noson Guto Ffowc: Meddwl am Eraill ar 5 Tachwedd

2

Ar y Pumed o Dachwedd, cadwch ein cyn-filwyr mewn cof.

Mae modd i sŵn a goleuadau llachar tân gwyllt beri pryder ac ennyn symptomau cyn-filwyr sy'n byw gydag Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD). Mae modd i rai gael eu llethu, fynd yn nerfus neu'n bryderus, neu hyd yn oed gael eu dychryn am fod y synau a'r goleuadau anghyson yma'n eu hatgoffa o ymladd a digwyddiadau trawmatig eraill yn y gorffennol.

Yn ôl y BBC, mae cyn-filwyr yn fwy tebygol o ddatblygu Anhwylder Straen Wedi Trawma o gymharu â sifiliaid. Mae ffigurau'n dangos bod mwy na 77% o gyn-filwyr yng Nghymru wedi dioddef trawma o leiaf unwaith yn ystod eu cyfnod yn y lluoedd arfog (https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-67759299).

Os ydych chi'n poeni am 5 Tachwedd, dyma strategaethau i'ch helpu i ymdopi:

  • Defnyddiwch glustffonau diddymu sŵn i helpu i leihau effaith y synau.
  • Trefnwch weithgareddau eraill i dynnu'ch sylw.
  • Rhannwch eich pryderon ag eraill. Siaradwch ag aelodau o'r teulu, ffrindiau a chymdogion. Gofynnwch a oes modd iddyn nhw gadw cwmni i chi am y noson.
  • Defnyddiwch y Cod Arwyr Tân Gwyllt trwy ganolbwyntio ar yr hyn sydd o'ch cwmpas, gwrando ar gerddoriaeth, cyffwrdd â gwrthrychau gweadog, olew naws, neu fwyta rhywbeth â blas cryf i helpu tynnu eich sylw.
  • Symudwch eich corff! Mae ymarfer corff gartref yn cynnig llawer o fanteision i'ch iechyd meddwl ac yn tynnu eich sylw mewn ffordd iach.
  • Yn olaf, cofiwch… Bydd yn dod i ben a dydych chi ddim ar eich pen eich hunan.

Am ragor o wybodaeth neu am gymorth os ydych chi'n arbennig o bryderus, cysylltwch â:

Llinell gymorth 24/7 Combat Stress:  0800 138 1619

PTSD Resolution (yn ystod oriau swyddfa): 0300 302 0551

Gwasanaeth Cyngor i Gyn-filwyr RhCT: 07747 485619

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog: “Er bod Noson Tân Gwyllt yn gyfnod o ddathlu i lawer, rhaid i ni gofio y gall fod yn gyfnod heriol i rai, yn enwedig ein cyn-filwyr a’r rhai sy’n byw gydag Anhwylder Straen Wedi Trawma.

“Rydym ni'n annog pawb i fod yn ystyriol o’u cymdogion ac aelodau’r gymuned ar 5 Tachwedd, fel y bydd modd i bawb deimlo’n ddiogel.”

Mae hi hefyd yn gyfnod prysur iawn i'n Gwasanaethau Brys. Mae tân gwyllt yn beryglus iawn os nad oes oedolyn cyfrifol yn eu trin nhw'n gywir, a gall coelcerthi ledaenu'n gyflym os nad ydyn nhw'n cael eu rheoli. Byddwch yn ofalus ac yn ddiogel eleni a gwnewch yn siŵr nad ydych chi'n rhoi unrhyw un mewn perygl.

Yn ogystal, mae Heddlu De Cymru unwaith eto yn cefnogi Ymgyrch Bang, gan helpu'r gymuned leol i fwynhau'r noson mewn modd diogel ac ystyriol, gan atgoffa pobl fod Noson Tân Gwyllt ddim yn hwyl i bawb.

Rhagor o wybodaeth: https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/heddluoedd/heddlu-de-cymru/ardaloedd/campaigns/ymgyrchoedd/nid-ywn-hwyl-i-bawb--ymgyrchbang/

Wedi ei bostio ar 04/11/2024