Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn parhau â'i ymrwymiad i gefnogi trigolion dros gyfnod y gaeaf, gyda chefnogaeth i fanciau bwyd, Canolfannau Croeso yn y Gaeaf a sefydliadau dielw.
Bydd ailagor y Canolfannau Croeso yn y Gaeaf yn adeiladu ar lwyddiant y cyfleusterau yma sydd wedi bod yn helpu cymunedau lleol Rhondda Cynon Taf dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Yn ystod y cyfnod yma, mae dros 8,800 o drigolion wedi cael cymorth, gan gynnwys plant, ac mae diodydd a bwyd cynnes wedi’u darparu i dros 7,361 o unigolion yn ystod y misoedd oeraf.
Eleni, mae £313,000 ar gael i gefnogi lleoliadau yn y gymuned sy'n darparu cymorth i drigolion ledled Rhondda Cynon Taf. Mae'r cyllid yma'n cynnwys Gwobr Mannau Diogel a Chynnes Llywodraeth Cymru, Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, a chyllid gan y Cyngor.
Mae’r pecyn cymorth wedi’i dargedu yn cynnwys:
£127,000 i gynorthwyo lleoliadau yn y gymuned i ddod yn Ganolfannau Croeso yn y Gaeaf, sy'n darparu lle cynnes a diogel i drigolion. Yn ogystal â hyn, bydd y Cyngor yn dyrannu £71,000 i ganolfannau ddarparu prydau poeth/darpariaeth bwyd a chymorth ychwanegol i drigolion.Bydd cymhwysedd ar gyfer y gronfa yma ar gael ar wefan y Cyngor ar 11 Tachwedd 2024 www.rctcbc.gov.uk/WinterWelcomeCentresEOI[WR1]
Grant Cymorth Ynni Cyfleusterau Cymunedol – grant cymorth gwerth £75,000 ar gael i sefydliadau dielw i helpu gyda phwysau costau ynni. Mae’r sefydliadau yma'n cynnwys cyfleusterau sy’n darparu cyfuniad o weithgareddau a/neu weithgareddau chwaraeon y bydd gofyn iddyn nhw wneud cais am daliad o £300 y sefydliad pan fyddan nhw'n derbyn y gwahoddiad e-bost yn ystod yr wythnos yn dechrau 11 Tachwedd 2024. MAE'R GRANT YMA TRWY WAHODDIAD YN UNIG.
Cymorth i fanciau bwyd – bydd pecyn cymorth gwerth £40,000 yn cael ei ddarparu i gefnogi banciau bwyd yn Rhondda Cynon Taf.
Bydd pob llyfrgell yn gweithredu yn Ganolfan Croeso yn y Gaeaf a bydd modd i drigolion fynd yno am groeso cynnes a lle i ymlacio a gwefru eu dyfeisiau symudol.
Cadwch lygad ar gyfer lansiad y Canolfannau Croeso yn y Gaeaf – Cymorth â Chyllido ac Adnoddau | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Mae’r Llyfrgelloedd hefyd yn gartref i’r cynllun Mannau Diogel, sy’n gweithredu drwy’r flwyddyn. Mae'r cynllun Mannau Diogel, sef cynllun cenedlaethol, sy’n cael ei hwyluso gan y Cyngor a Phobl yn Gyntaf Cwm Taf, yn sefydlu lleoliadau sy’n cynnig cymorth i rywun os ydyn nhw'n dod ar draws problem neu anawsterau pan fyddan nhw allan yn y gymuned, gyda chymorth gan staff hyfforddedig. Mae'r cynllun lleol yn Rhondda Cynon Taf yn cael ei gefnogi gan Heddlu De Cymru ac mae bellach ar gael i bob oedolyn sy'n teimlo eu bod angen lle diogel i fynd iddo.
Mae modd i bobl neu deuluoedd sy'n teimlo y bydden nhw'n manteisio ar y cynllun Mannau Diogel wneud cais am ffurflen gais. Mae'r rhain ar gael drwy e-bostio Pobl yn Gyntaf Cwm Taf, enquiries@rctpeoplefirst.org.uk, neu drwy ffonio 01443 757954.
Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau:
“Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi ein trigolion mwyaf agored i niwed a’r sefydliadau sy’n eu cefnogi yn ystod cyfnod y gaeaf. Ers mis Ebrill 2022, mae'r Cyngor wedi talu miliynau i drigolion yn rhan o Gynlluniau Cymorth Costau Byw Cyngor Rhondda Cynon Taf.
“Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi darparu cymorth yn amrywio o daliadau uniongyrchol i filoedd o deuluoedd, i ddarparu cymorth ariannol i fanciau bwyd lleol i’w helpu i barhau i gyflawni eu gwaith hanfodol.
“Rwy’n falch o gyhoeddi bod modd i ni gefnogi ein banciau bwyd lleol a sefydliadau cymunedol sy’n ein helpu i gefnogi ein trigolion.”
Mae modd i drigolion sy'n teimlo bod angen cymorth ychwanegol arnyn nhw gysylltu â'r Cyngor ar unrhyw adeg drwy'r Canolfannau Cydnerthedd y Gymuned drwy gwblhau 'ffurflen gais am gymorth' ar-lein ar www.rctcbc.gov.uk/CostauByw. Bydd cymorth yn cael ei ddarparu gan Staff y Cyngor, Gwirfoddolwyr Cydnerthedd y Gymuned, Partneriaid Trydydd Sector a Phartneriaid Cymunedol.
Mae modd i drigolion Rhondda Cynon Taf dderbyn cyngor yn ymwneud â'r gwasanaethau sydd ar gael hefyd drwy Garfan Gwresogi ac Arbed y Cyngor. Mae'r gwasanaethau sydd ar gael yn cynnwys:
- Cymorth Grant neu Fenthyciad – efallai y bydd cymorth ariannol ar gael i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi
- RCT Switch – Cyngor diduedd am ddim ynglŷn â newid tariff.
- Cyngor cyffredinol ar effeithlonrwydd ynni er mwyn arbed ynni yn y cartref.
- Cyngor ynghylch dyled cyfleustodau (nwy, trydan a dŵr).
- Cyngor ynghylch gwneud y mwyaf o'ch incwm a rheoli arian. Am ragor o wybodaeth, ewch i www.rctcbc.gov.uk/GwresogiacArbed neu e-bostiwch y Garfan: GwresogiacArbed@rctcbc.gov.uk.
Am fanylion llawn a lleoliadau'r Canolfannau Croeso yn y Gaeaf, ewch i www.rctcbc.gov.uk/CanolfannauCroesoynyGaeaf[WR2] ac am gyngor cyffredinol ar y cymorth costau byw sydd ar gael, ewch i www.rctcbc.gov.uk/CostauByw.
Wedi ei bostio ar 11/11/2024