Skip to main content

Cymorth wyneb yn wyneb ar gael i gwblhau ymgynghoriad gofal preswyl

Modernising-care-for-older-people-NOV-2024-WELSH

Dyma atgoffa trigolion am y ddau sesiwn cyhoeddus sydd i ddod yn rhan o'r ymgynghoriad mewn perthynas â chynigion gofal preswyl ar gyfer ardal Glynrhedynog a'r Ddraenen-wen. Bydd y sesiynau 'galw heibio' yma yn galluogi'r cyhoedd i ofyn cwestiynau i'r swyddogion mewn perthynas â'r cynigion a derbyn cymorth i gwblhau arolwg yr ymgynghoriad.

Mae'r ymgynghoriad mewn perthynas â'r cynnig arfaethedig i ddatgomisiynu cartrefi gofal Ferndale House a Chae Glas yn un parhaus, a bydd yn parhau hyd at ddydd Sadwrn, 30 Tachwedd. Mae'r broses yn cael ei harwain gan yr ymgynghorwr annibynnol, Practice Solutions Ltd, ac mae'n cysylltu yn uniongyrchol â thrigolion, eu teuluoedd a staff cartrefi gofal.

Mae'r ymgynghoriad hefyd yn cynnwys elfen bwysig lle mae modd i'r cyhoedd ddysgu rhagor a lleisio'u barn. Mae manylion llawn am y gweithgareddau sy'n rhan o'r broses wedi'u cynnwys yn eitem newyddion blaenorol y Cyngor - gyda modd cael mynediad at wybodaeth allweddol, Cwestiynau Cyffredin, deunyddiau 'hawdd eu deall' ac arolwg ar-lein ar dudalen hafan ymgynghoriadau’r Cyngor.

Mae'r Cyngor hefyd wedi trefnu a hysbysebu dau sesiwn 'galw heibio' cyhoeddus, lle bydd swyddogion ar gael i ateb cwestiynau, esbonio'r cynigion, a helpu pobl i gael mynediad at arolwg yr ymgynghoriad. Mae modd i'r cyhoedd ymweld unrhyw bryd yn ystod cyfnod tair awr o hyd ym mhob sesiwn. Bydd y rhain yn cael eu cynnal yn:

  • Canolfan Hamdden Cwm Rhondda Fach, Tylorstown (CF43 3HR) - dydd Mercher, 13 Tachwedd - 'galwch heibio' unrhyw bryd rhwng 4pm a 7pm.
  • Canolfan Hamdden y Ddraenen-wen, y Ddraenen-wen (CF37 5LN) - dydd Llun, 18 Tachwedd - 'galwch heibio' unrhyw bryd rhwng 4pm a 7pm.

Bydd yr holl adborth sy'n cael ei dderbyn yn ystod yn ddau sesiwn wyneb yn wyneb yma yn cael ei gasglu a'i ystyried yn rhan o ymateb ehangach yr ymgynghoriad, er mwyn llywio penderfyniad terfynol aelodau Cabinet mewn perthynas â'r cynigion yma rhywbryd yn y dyfodol.

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol: "Hoffen i ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn yr ymgynghoriad hyd yma, wrth i'r Cyngor barhau i wrando ar safbwyntiau’r cyhoedd dros y cyfnod wyth wythnos, er mwyn nodi barn pobl mewn perthynas â'r cynigion. Mae'n bwysig pwysleisio nad oes penderfyniad terfynol wedi'i wneud hyd yma mewn perthynas â'r ddau gynnig. Po fwyaf yw cyfaint yr adborth rydyn ni'n ei dderbyn trwy'r ymgynghoriad ffurfiol, po fwyaf bydd penderfyniad Cabinet yn cael ei lywio.

"Mae swyddogion yn parhau i ymgysylltu yn fewnol gyda thrigolion, eu teuluoedd ac eiriolwyr, ac aelodau staff - a nawr rydyn ni'n cyrraedd y cyfnod lle bydd y ddau sesiwn allanol yn cael eu cynnal. Bydd y rhain yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Hamdden Cwm Rhondda Fach a Chanolfan Hamdden y Ddraenen-wen ar 13 ac 18 Tachwedd. Mae croeso i'r cyhoedd 'alw heibio', a bydd modd i swyddogion ateb cwestiynau, darparu gwybodaeth a helpu pobl i gael mynediad at arolwg yr ymgynghoriad.

"Rydyn ni'n ymwybodol bod cynnig newidiadau fel y rhain i wasanaeth yn broses anodd a sensitif, a bydd y rheiny sy'n cael eu heffeithio yn uniongyrchol - yn ogystal ag aelodau'r cyhoedd - yn parhau i fod â chwestiynau mewn perthynas â beth fyddai'r newidiadau arfaethedig yn ei olygu yn ymarferol. Bydden i'n erfyn ar bawb i barhau i ymgysylltu â'r ymgynghoriad ffurfiol er mwyn dysgu rhagor, gofyn unrhyw gwestiynau a nodi eu barn - boed hynny ar wefan y Cyngor neu mewn sesiwn wyneb yn wyneb."

Mae ymgynghoriad ar waith ar hyn o bryd ynghylch y cynigion.

Ym mis Medi, cytunodd y Cabinet gydag argymhellion swyddogion i ymgynghori ar y cynigion hynny sydd wedi'u creu i fynd i'r afael â'r newid yn y galw am ofal preswyl. Mae traean o wlâu cartrefi gofal y Cyngor yn wag ar hyn o bryd, a gyda'r sector cyhoeddus yn wynebu heriau ariannol sylweddol does dim modd gadael y sefyllfa fel y mae, na gadael iddi ddirywio ymhellach. Yn ogystal, yn ôl adroddiadau, mae disgwyliadau pobl hŷn yn newid, gyda rhagor o breswylwyr am gadw'u hannibyniaeth yn eu cartrefi eu hunain, neu fyw mewn preswylfeydd sy'n cynnig cymorth wedi'i dargedu i ddiwallu eu hanghenion, mewn cyfleuster fflatiau â chymorth ychwanegol. Yn y cyd-destun yma, mae'r galw am gyfleusterau gofal cartref hefyd wedi newid gyda gofyn cael rhagor o nyrsio arbenigol neu ofal dementia ar gyfer y dyfodol.

Y cynnig ar gyfer Ferndale House yw datgomisiynu'r cartref fel y mae nawr, yn barhaol. Mae hyn yn cael ei wneud gan gydnabod nad yw safonau modern yn bosib yno o ran darparu preswylfa â chymorth o lefel ac ansawdd uchel.  Mae hyn yn ei dro wedi arwain at niferoedd isel o breswylwyr. O ganlyniad i hyn oll dyw’r cartref gofal ddim yn gynaliadwy o safbwynt ariannol mwyach.  Byddai'r cartref gofal yn cau unwaith y byddai preswylfa addas wedi'i chanfod ar gyfer ei breswylwyr - sef preswylfa o'u dewis nhw sy'n diwallu eu hanghenion yn unol ag asesiadau.

Mae cynnig i greu llety gyda gofal newydd ar gyfer Cwm Rhondda Fach yn cyd-fynd â'r cynnig yma, gan ganolbwyntio ar ddiwallu anghenion sy'n newid drwy greu cyfleuster cartref gofal dementia pwrpasol a modern. Mae'r gwaith ar baratoi'r sylfeini wedi dechrau ar safle'r Ffatri 'Chubb' gynt yng Nglynrhedynog. Byddai pob un o breswylwyr Ferndale House yn cael cynnig symud yn ôl i'r cyfleuster modern wedi iddo agor, yn ddibynnol ar eu hanghenion a'u dymuniadau hwy yn unol ag asesiad ar y pwynt hwnnw.

Y cynnig ar gyfer Cae Glas yw datgomisiynu'r cartref gofal preswyl yn barhaol yn y Ddraenen-wen. Dyw'r cartref gofal heb fod yn llawn ers cyfnod sylweddol a dyw ddim yn gynaliadwy yn ariannol. Byddai'n cau unwaith y byddai preswylfa addas wedi'i chanfod ar gyfer ei breswylwyr - sef preswylfa o'u dewis nhw sy'n diwallu eu hanghenion yn unol ag asesiadau.

Drwy leihau'r niferoedd uchel o wlâu nad ydyn nhw'n cael eu defnyddio yng nghartrefi gofal y Cyngor, gallai'r hyn sy'n cael ei gynnig gynhyrchu arbedion refeniw o oddeutu £2 filiwn mewn blwyddyn lawn, gan barhau i ddiwallu'r anghenion a'r galw hynny ar sail asesiadau, sy'n parhau.

Wedi ei bostio ar 12/11/2024