O ganlyniad i’r difrod a achoswyd gan Storm Bert i Barc Coffa Ynysangharad, fydd y parc DDIM ar agor cyn diwedd yr wythnos nesaf ar y cynharaf. Mae hyn gan fod angen gwneud atgyweiriadau hanfodol, gan gynnwys:
- Symud a glanhau llawer o faw a malurion a adawyd ym mhob rhan o’r parc, gan gynnwys ei lwybrau, ei adeiladau a’i ddodrefn.
- Glanhau ardal chwarae'r Lido ac ailosod offer a gafodd eu halogi gan ddŵr llifogydd.
- Gosod ffens ddiogelwch newydd yn lle'r hen ffens sy’n rhedeg ochr yn ochr â'r Afon Taf rhwng pont newydd Llys Cadwyn ac hen bont M&S.
Mae angen gwaith atgyweirio helaeth ar yr ardal chwaraeon aml-ddefnydd a'r ardal fowlio. Mae’n debygol y bydd hyn yn cymryd peth amser. Bydd yr ardal yma ar gau er mwyn i waith barhau pan fydd y parc yn ailagor.
Diolch i ymdrechion staff y Lido fore Sul, dydy Lido Ponty ddim wedi dioddef yr un lefel o ddifrod â'r difrod a achoswyd yn ystod Storm Dennis. Mae’r pyllau'n cael eu draenio a'u glanhau, mae systemau hidlo'n cael eu profi, ac mae'r safle'n cael ei lanhau'n drylwyr. Ar hyn o bryd, rydyn ni'n dal yn obeithiol y bydd modd cynnal sesiwn nofio flynyddol Gŵyl San Steffan.
Serch hynny, wrth i'r gwaith atgyweirio barhau, mae'r dyddiad rhyddhau tocynnau arfaethedig ar gyfer sesiynau nofio Gŵyl San Steffan a Dydd Calan wedi'i ohirio. Cadwch lygad ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol Lido Ponty am ragor o wybodaeth.
Byddwn ni'n adolygu'r sefyllfa yn y dyddiau nesaf ac yn rhoi diweddariad pellach ar y posibilrwydd o ailagor yr wythnos nesaf.
Wedi ei bostio ar 27/11/24