Mae Grant Adfer Llifogydd Cymunedol gwerth £1000 bellach ar gael i drigolion a busnesau a wynebodd lifogydd mewnol yn ystod Storm Bert. Ewch i'n gwefan i wneud cais: www.rctcbc.gov.uk/CymorthLlifogydd
Rydyn ni'n gofyn i bobl wneud cais fel bod gyda ni'r manylion banc cywir ar gyfer y rheiny yr effeithir arnyn nhw er mwyn prosesu taliadau mor gyflym â phosibl ac er mwyn i ni roi cymorth ychwanegol mewn perthynas ag eithriadau Treth y Cyngor a Threthi Busnes a threfnu casglu eitemau sydd wedi'u difrodi o eiddo heb sgipiau ar y stryd.
Heddiw mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau taliadau ychwanegol gwerth £1000 ar gyfer aelwydydd heb yswiriant a £500 ar gyfer aelwydydd sydd â sicrwydd yswiriant y mae llifogydd mewnol wedi effeithio arnyn nhw. Byddwn ni'n defnyddio'r manylion y mae trigolion yr effeithir arnyn nhw wedi'u rhoi i ni er mwyn gwneud taliad Llywodraeth Cymru.
Mae staff y Cyngor yn parhau i gysylltu â thrigolion sy'n delio ag effaith ddinistriol y llifogydd i'w helpu nhw. Rydyn ni wedi cysylltu â bron i 150 o eiddo ers bore Llun. Mae'n bosibl bod rhagor o achosion o lifogydd mewnol dydy pobl ddim wedi rhoi gwybod amdanyn nhw i'r Cyngor, felly dydyn ni ddim yn effro iddyn nhw. Mae'n bwysig bod gan y bobl yn yr eiddo hynny fynediad at yr ystod o gymorth.
Byddwn ni'n parhau i weithio gyda sefydliadau eraill i roi cymorth ychwanegol i drigolion yr effeithir arnyn nhw, megis Cyngor ar Bopeth ac elusen British Red Cross, sy'n gweithio gyda staff y Cyngor.
Ar hyn o bryd rydyn ni wedi cadarnhau bod 125 o eiddo wedi wynebu llifogydd mewnol, sydd 10 gwaith yn llai na nifer yr eiddo yr effeithiwyd arnyn nhw yn ystod Storm Dennis. Serch hynny, mae'r effaith ar drigolion a busnesau yr un mor arwyddocaol, ac rydyn ni yma i'w helpu nhw.
Mae ein Carfan Rheoli Perygl Llifogydd yn cynnal ymchwiliadau mewn ardaloedd lle mae llifogydd wedi bod er mwyn deall yn well sut mae gwahanol ddigwyddiadau llifogydd wedi digwydd a pham. Ar hyn o bryd, mae dros hanner y digwyddiadau llifogydd wedi digwydd o ganlyniad i lifogydd o'r brif afon, gan gynnwys Stryd y Felin, Stryd Siôn a Heol Berw ym Mhontypridd.
Fel sefydliad, rydyn ni'n gyfrifol am reoli perygl llifogydd o ddŵr wyneb trwy ein draeniau, cwteri a chyrsiau dŵr bach rydyn ni'n eu rheoli trwy gwlferi sy'n eiddo i'r Cyngor. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am amddiffynfeydd rhag llifogydd o afonydd a rhybuddion.
Mae dyletswydd gyfreithiol arnon ni i ymchwilio i bob achos o lifogydd yn ein hardal, boed hynny o ganlyniad i lifogydd o afon, cyrsiau dŵr preifat neu ddraeniau a chwlferi sy'n cael eu cynnal a chadw gan y Cyngor.
Serch hynny, bydd angen i ni weithio gyda sefydliadau eraill megis Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru a pherchnogion cyrsiau dŵr preifat er mwyn deall yn well beth y byddai modd ei wneud, neu beth y bydd modd ei wneud, i leihau'r perygl i eiddo a sicrhau bod modd i bwy bynnag sy'n gyfrifol gymryd camau gweithredu yn seiliedig ar y canfyddiadau.
Ers Storm Dennis, rydyn ni wedi gwario dros £100 miliwn i wella cwlferi ac asedau eraill ac i atgyweirio difrod. O ran y seilwaith newydd hwnnw y buddsoddwyd ynddo, roedd y rhan fwyaf wedi gwrthsefyll y tywydd ac wedi amddiffyn nifer fawr o eiddo fyddai wedi dioddef llifogydd fel arall. Dyma'r hyn rydyn ni eisiau ei wneud ac y mae angen ei wneud, ac mae gyda ni raglen gynhwysfawr barhaus o waith gwella cwlferi yn barod.
Fel sydd wedi bod yn berthnasol ers Storm Dennis yn 2020, byddwn ni'n parhau i flaenoriaethu buddsoddiad mewn seilwaith rydyn ni'n gyfrifol amdano, ac mae'n bwysig cydnabod bod y buddsoddiadau yma wedi amddiffyn cannoedd o eiddo a busnesau ledled Rhondda Cynon Taf.
Mae gwaith glanhau Parc Coffa Ynysangharad a Lido Ponty yn parhau, a bydd y parc yn parhau i fod ar gau tan o leiaf ddydd Iau. Byddwn ni'n cyhoeddi diweddariad pellach mewn perthynas â'r parc brynhawn Iau.
Dydyn ni ddim wedi derbyn unrhyw geisiadau gan drigolion am lety brys, ond mae ein Carfan Materion Tai ar gael i'r rheiny sydd angen ein cymorth.
Mae Ffordd Mynydd y Bwlch i Nant-y-moel, Pen-y-bont ar Ogwr, bellach wedi ailagor ar ôl tirlithriad a achoswyd gan Storm Bert.
Wedi ei bostio ar 26/11/24