Skip to main content

Dathlu pobl hŷn yn ein cymunedau

2

Ers 1991, mae'r Cenhedloedd Unedig wedi nodi 1 Hydref fel Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn i hyrwyddo pwysigrwydd unigolion hŷn mewn cymdeithas. Thema eleni yw Heneiddio gydag Urddas, ac mae'n ymwneud â chydnabod a dathlu cyfraniadau annatod ac amhrisiadwy ein ffrindiau hŷn a'n cymdogion sy'n helpu i gryfhau ein cymunedau. Nod y diwrnod hefyd yw codi ymwybyddiaeth o'r cyfleoedd a'r heriau y mae poblogaethau sy'n heneiddio ledled y byd yn eu hwynebu.

Er gwaethaf rôl hollbwysig pobl hŷn yn ein cymdeithas, mae eu cyfraniadau yn aml yn cael eu hanwybyddu. Mae modd i unigolion hŷn wynebu heriau sylweddol, gan gynnwys materion iechyd, arwahanrwydd cymdeithasol, a rhagfarn ar sail oedran, sy'n ei gwneud hi'n anodd i rai cymryd rhan lawn ym mywyd y gymuned a chyfrannu at eu lles cyffredinol.

Mae'n hollbwysig cydnabod a mynd i'r afael â heriau o'r fath, gan sicrhau bod modd i unigolion hŷn barhau i ffynnu a chyfrannu'n ystyrlon at ein cymunedau.

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Hyrwyddwr Pobl Hŷn, "Yma yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf, rydyn ni wedi ymrwymo i greu cymuned gynhwysol lle mae modd i bobl hŷn ffynnu a pharhau i chwarae rhan annatod.

"Mae ein mentrau a'n rhwydweithiau cymorth wedi'u cynllunio'n benodol i sicrhau bod ein trigolion hŷn yn teimlo eu bod nhw'n cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi, tra'n cael cyfleoedd i wneud cyfraniad ystyrlon i gymdeithas.

"Yn ogystal â hyn, mae aelodaeth y Cyngor yn rhan o’r Rhwydwaith Fyd-eang Sefydliad Iechyd y Byd o Ddinasoedd a Chymunedau sy'n Gyfeillgar i Oed ym mis Ebrill 2024 yn dangos yn glir ein hymrwymiad i'n trigolion hŷn."

Yn Rhondda Cynon Taf, rydyn ni'n falch o gael nifer o fentrau a darpariaethau ar waith i gefnogi ein trigolion hŷn, gan gynnwys:

  • Buddsoddi mewn Gofal Ychwanegol: Cyfleusterau Gofal Ychwanegol yn Aberdâr a Phontypridd sy'n darparu cymorth hanfodol. Mae rhagor o safleoedd Gofal Ychwanegol yn cael eu datblygu yn y Porth ac Aberpennar, gyda chyfleuster gofal dementia arbenigol yng Nglynrhedynog.
  • Grwpiau Cymunedol: Mae llawer ohonyn nhw'n cael eu datblygu a'u darparu gan bobl hŷn, gan gynnwys Sied Dynion Pontypridd, Grŵp i bobl dros 60 oed Fernhill a Glenbói a Grŵp i Bensiynwyr Tonypandy.
  • Rhwydweithiau Cymorth: Grŵp Llywio Cymorth yn y Gymuned Rhondda Cynon Taf, Rhwydweithiau Cymdogaeth, Fforymau 50+, a'r Grŵp Cynghori Pobl Hŷn.
  • Cymorth Dementia: Mae rhaglenni megis yr Ymgyrch Gwrando Cymunedol yn defnyddio gwrandawyr lleol i ddeall sut beth yw gofal a chymorth dementia yn ein cymunedau, datblygu Cymunedau Cyfeillgar i Ddementia lleol, a chaffis Dementia/Cof, ynghyd â chyllid i gefnogi grwpiau a sefydliadau i ddatblygu gweithgareddau lleihau risg a chodi ymwybyddiaeth o ddementia mewn cymunedau lleol.
  • Sefydliadau: Age Connects Morgannwg, Gofal a Thrwsio Cwm Taf, Cymdeithas Alzheimer, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ac Interlink Rhondda Cynon Taf.
  • Gwirfoddolwyr a Gostyngiadau: Mae gwirfoddolwyr yn buddsoddi'n helaeth mewn darpariaethau sydd o blaid pobl hŷn, ac mae gostyngiadau amrywiol ar gael i drigolion hŷn.

Dysgwch ragor am fentrau sydd o blaid pobl hŷn yn Rhondda Cynon Taf yma.

Cafodd Rhondda Cynon Taf ei gydnabod yn rhan o'r Rhwydwaith Fyd-eang Sefydliad Iechyd y Byd o Ddinasoedd a Chymunedau sy'n Gyfeillgar i Oed yn gynharach eleni. Cafodd y rhwydwaith yma ei sefydlu yn 2010, gan gysylltu dinasoedd, cymunedau a sefydliadau yn fyd-eang. Mae aelodau'r rhwydwaith yn ymrwymo i wneud eu cymunedau'n lleoedd rhagorol i heneiddio ynddyn nhw trwy wneud gwelliannau i amgylcheddau sy'n ystyriol o oedran, yn ogystal â hyrwyddo heneiddio'n iach ac ansawdd bywyd da i drigolion hŷn.

Mae modd i chi gael gwybod rhagor am aelodaeth y Cyngor yma: Gweithio Tuag at Gymuned sy'n Gyfeillgar i Oed

Wedi ei bostio ar 01/10/2024