Bydd cam cyntaf yr ymgynghoriad ar gyfer Cyllideb 2025/26 y Cyngor yn dechrau'n fuan, ar ôl i'r Cabinet gytuno i barhau â'i ddull dau gam sefydledig o'r blynyddoedd diwethaf, gan gyfuno cyfarfodydd wyneb yn wyneb ag ymgysylltu digidol.
Bob hydref, mae'r Cyngor yn defnyddio dull cynhwysfawr i lywio’r gwaith o bennu cyllideb y flwyddyn ganlynol, ac mae ymgysylltu â thrigolion a rhanddeiliaid yn rhan allweddol o'r dull. Mae'r safbwyntiau sy'n cael eu casglu yn rhoi gwybodaeth bwysig i uwch swyddogion a'r Cabinet i'w helpu i lywio’r broses o bennu’r gyllideb.
Bydd cam un ymgynghoriad cyllideb 2025/26 yn dechrau tua diwedd mis Hydref 2024. Daw hyn yn sgil Aelodau’r Cabinet yn cymeradwyo’r dull ymgysylltu a gynigiwyd gan swyddogion mewn adroddiad yn eu cyfarfod ar 21 Hydref.
Bydd cam cyntaf yr ymgynghoriad yn casglu barn trigolion ar flaenoriaethu meysydd gwasanaeth, lefelau Treth y Cyngor, ac arbedion effeithlonrwydd. Bydd yn digwydd cyn setliad cyllideb dros dro Llywodraeth Cymru a ddisgwylir ar hyn o bryd ym mis Rhagfyr, a bydd yn ystyriaeth bwysig wrth lunio cyllideb y flwyddyn nesaf.
Yna bydd ail gam yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal yn y Flwyddyn Newydd a bydd yn ymgysylltu â thrigolion ar Strategaeth Gyllideb ddrafft, fydd yn ystyried lefelau ariannu dangosol sydd wedi'u cynnwys yn y setliad.
Bydd modd i drigolion gymryd rhan yng ngham cyntaf yr ymgynghoriad ar Gyllideb 2025/26 drwy ymweld â'r wefan ymgysylltu Dewch i Siarad RhCT.
Bydd y wefan yn cynnwys gwybodaeth allweddol a graffeg yn amlinellu cyd-destun a chefndir y gyllideb, ynghyd ag offer ymgysylltu i ganiatáu adborth. Mae hyn yn cynnwys efelychydd cyllideb rhyngweithiol sy'n galluogi trigolion i ddewis y gwasanaethau sydd bwysicaf iddyn nhw ar raddfa symudol, yn seiliedig ar y cyllid sydd ar gael.
Dros yr wythnosau nesaf, bydd sianeli cyfryngau cymdeithasol y Cyngor yn cael eu defnyddio i hyrwyddo’r ymgynghoriad ac annog ymgysylltu, tra bydd negeseuon e-bost yn cael eu hanfon at randdeiliaid allweddol (gan gynnwys Panel y Dinasyddion, Cynghorwyr a staff).
Mae opsiwn ymgynghori dros y ffôn ar gael trwy ganolfan gyswllt y Cyngor, ac mae modd anfon arolygon papur a gwybodaeth ar gais – gyda chyfeiriad Rhadbost ymgynghori ar gael ar gyfer ymatebion drwy'r post. Anfonwch y rhain i Rhadbost (RUGK-EZZL-ELBH), Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Y Pedwerydd Llawr, 2 Llys Cadwyn, Pontypridd, CF37 4TH.
Bydd hefyd nifer o achlysuron ymgysylltu wyneb yn wyneb yn cael eu cynnal mewn cymunedau lleol. Bydd y rhain yn cael eu defnyddio i amlinellu dull y gyllideb, ateb cwestiynau, a chasglu barn pobl. Bydd yr achlysuron yma'n fodd i drigolion lleol siarad yn uniongyrchol ag Aelodau o'r Cabinet ac uwch swyddogion am wasanaethau'r Cyngor. Bydd y Cyngor yn rhannu'r dyddiadau a'r lleoliadau ar ôl cwblhau'r trefniadau.
Bydd swyddogion hefyd yn ymgysylltu â ‘Rhwydweithiau Cymdogaeth’ sefydledig drwy garfan RhCT Gyda’n Gilydd, ynghyd â grwpiau penodol fel y Grŵp Cynghori Pobl Hŷn, y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, y Cylch Trafod Cyllideb Ysgolion, y Pwyllgor Cyd-gysylltu â'r Gymuned, y Cylch Trafod Anableddau, y Lluoedd Arfog a Grŵp Cyn-filwyr, a'r Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid.
Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Busnes y Cyngor ac Eiddo'r Cyngor: “Dros nifer o flynyddoedd rydyn ni wedi datblygu dull dibynadwy o ymgynghori â thrigolion ynghylch proses gosod Cyllideb y Cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Mae ein hystod gynhwysfawr o weithgareddau bellach yn fwy rhyngweithiol ac amrywiol nag o'r blaen. Cymerodd dros 1,200 o bobl ran y llynedd, gan helpu i lywio ein penderfyniadau.
“Ar 21 Hydref, cytunodd y Cabinet i fabwysiadu dull dau gam unwaith eto – gofyn i bobl am eu barn ar flaenoriaethau’r Cyngor, lefelau Treth y Cyngor ac arbedion effeithlonrwydd yn yr hydref yn rhan o gam un, ac yna canolbwyntio ar strategaeth gyllideb ddrafft benodol yn y Flwyddyn Newydd ar ôl setliad dros dro Llywodraeth Cymru yn rhan o gam dau.
“Y mis diwethaf, darparodd swyddogion ddiweddariad ar y Cynllun Ariannol Tymor Canolig a oedd yn amlinellu’r heriau ariannol parhaus yn y sector cyhoeddus y mae’r Cyngor yn eu hwynebu. Mae hyn oherwydd nifer o ffactorau gan gynnwys pwysau costau byw parhaus - gan olygu mwy o alw a chostau ar draws gwasanaethau'r Cyngor. Yn anochel, bydd pob Cyngor yng Nghymru yn wynebu diffyg yn y gyllideb ar gyfer 2025/26 a bydd angen gwneud dewisiadau anodd. Bydd hyn yn ffactor allweddol yn yr ymgynghoriad a'n penderfyniadau wrth symud ymlaen.
“Gyda’r ymgynghoriad cam un yn mynd rhagddo’n fuan iawn, rydyn ni'n annog trigolion i gymryd rhan. Bydd ein hefelychydd cyllideb rhyngweithiol yn rhoi cyfle i drigolion osod eu blaenoriaethau o fewn y gyllideb sydd ar gael. Mae'n bwysig nodi bod ein dull hefyd yn sicrhau bod modd i bobl heb fynediad i’r rhyngrwyd gymryd rhan lawn yn yr ymgynghoriad, boed mewn achlysuron lleol, dros y ffôn, neu drwy’r post.”
Wedi ei bostio ar 30/10/2024