Skip to main content

Prosiect bwyty a gwesty yn Nhreorci yn cael budd cymorth gan y Cyngor

Pen 2

Mae'r Cyngor wedi rhoi cymorth i berchnogion Gwesty Pencelli yn Nhreorci i sicrhau cyllid grant pwysig. Bydd y grant yn helpu'r perchnogion i drawsnewid yr adeilad sydd wrth galon y gymuned, a'i ailagor i'w ddefnyddio'n fwyty, bar a gwesty.

Roedd yr eiddo yma sydd ar Deras Pencae yn arfer bod yn dafarn. Fe fu'n rhaid iddo gau'n ysbeidiol yn ystod y pandemig. Yn 2022 cafodd ei ddrysau eu cau am y tro olaf. Roedd yr adeilad mewn cyflwr gwael, ac roedd gofyn gwneud cryn waith arno cyn y byddai modd ei ddefnyddio unwaith yn rhagor. Cafodd y perchennog presennol, SGM Property and Hospitality Ltd, ganiatâd i ddatblygu'r adeilad mewn cyfarfod cynllunio ym mis Mehefin 2024.

Yn sgil y prosiect bydd yr eiddo yn cael ei ailwampio. Bydd y llawr gwaelod yn cael ei aildrefnu, ond gan gadw'r bwyty ac ardal y bar fel y mae, a bydd cegin newydd yn cael ei gosod yno. Bydd y lloriau uwch yn cael eu trawsnewid yn 11 ystafell westeion ar gyfer rhan y gwesty. Bydd amryw o atgyweiriadau a newidiadau'n cael eu gwneud hefyd i'r adeilad.

Fe gysylltodd perchennog yr eiddo â'r Cyngor i drafod cyfleoedd buddsoddi a allai fod yn gymorth o ran y gwaith. Fe wnaeth swyddogion ei helpu drwy'r broses, drwy roi gwybod iddo am y cyllid grant oedd ar gael a rhoi cymorth iddo o ran gwneud cais.

Gall y Cyngor nawr gadarnhau ei fod wedi dyfarnu’r grant o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth San Steffan. Yn unol â thelerau'r grant, rhaid i'r gwaith sy'n digwydd yn sgil y dyfarniad gael ei gwblhau erbyn dechrau gwanwyn 2025.

Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Datblygu a Ffyniant:  "Rydw i'n falch bod y Cyngor wedi gallu cefnogi’r prosiect cyffrous yma yn Nhreorci; bydd adeilad amlwg Gwesty Pencelli, sydd wedi bod yn fan cyfarfod tra phoblogaidd wrth galon y gymuned am flynyddoedd lawer, yn cael ei ailwampio a'i ailagor. Bydd y cynllun yn ychwanegu at yr hyn sydd gyda'r dref i'w gynnig o ran lletygarwch, wrth hefyd sicrhau bod adeilad mawr, gwag yn cael ei ddefnyddio eto a'i atal rhag mynd â'i ben iddo ymhellach.

“Yn sgil y datblygiad bydd bwyty a bar ar y llawr gwaelod, a gwesty i fyny'r grisiau –  gan fodloni anghenion y gymuned leol ac ymwelwyr. Mae gofyn cael rhagor o letai fel hyn yn y Cymoedd ar gyfer ymwelwyr, ac rydyn ni o'r farn y bydd galw mawr am yr ystafelloedd yn y gwesty – yn enwedig gan mai taith fer ar droed yw hi i ganol tref Treorci, yr orsaf drenau a Theatr y Parc a'r Dâr.

"Â chyllid y grant nawr wedi'i gadarnhau gan y Cyngor, rydw i'n edrych ymlaen at weld yr ailwampio yn digwydd yn yr wythnosau a'r misoedd sydd i ddod."

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch y grantiau busnes a thrydydd sector sydd ar gael ar hyn o bryd, a sut y gall ein carfan Adfywio gynorthwyo â'r ceisiadau am grantiau, ewch i'r dudalen gartref ganlynol ar wefan y Cyngor.

Wedi ei bostio ar 01/11/2024