Skip to main content

Gwasanaethau bysiau i ddefnyddio arhosfan i'r De o'r Orsaf Drenau ym Mhontypridd yn fuan

Bingo hall 5 - Copy

Mae'r Cyngor wedi cadarnhau y bydd y cilfachau newydd ar gyfer bysiau ar safle'r hen neuadd bingo ym Mhontypridd yn cael eu defnyddio'n barhaol o 16 Medi. Yn ogystal â hyn, mae wedi gwneud y trefniadau terfynol ar gyfer pob un o'r gwasanaethau lleol fydd yn stopio yn y lleoliad newydd yma.

Fis diwethaf, cafodd datblygiad ehangach safle'r hen neuadd bingo a Chlwb Nos Angharad’s ei agor – gan greu lleoliad llawn bwrlwm o ansawdd sydd yn fan cyrraedd amlwg ar gyfer ymwelwyr sy'n cyrraedd pen deheuol Canol Tref Pontypridd.

Mae rhan o'r safle ar hyd y ffin â’r A4054 Heol Sardis wedi cael ei defnyddio i greu cilfachau newydd ar gyfer bysiau – sy'n golygu y bydd gwasanaethau bysiau lleol ar gael ym mhen yma'r dref am y tro cyntaf. Wedi'u lleoli gyferbyn â Gorsaf Drenau Pontypridd, maen nhw hefyd mewn lleoliad da ar gyfer hyrwyddo teithio ar fysiau a threnau.

Mae'r Cyngor bellach wedi cadarnhau mai'r enw ar y safle yma fydd Arhosfan Bysiau i’r De o’r Orsaf Drenau a bydd ei ddwy arhosfan bysiau newydd (E5 ac E6) yn cael eu defnyddio'n barhaol gan wasanaethau bysiau lleol o ddydd Llun, 16 Medi.

Mae'r ddelwedd uchod yn dangos y ddwy arhosfan newydd – gydag E6 ym mlaen y ddelwedd ac E5 sy'n nes at System Gylchu Sardis, yn y cefndir.

Bydd y gwasanaethau canlynol yn defnyddio arhosfan E5 i’r De o’r Orsaf Drenau.

  • Gwasanaeth 102 Adventure Travel (yn ystod yr wythnos, tuag at Tesco Glan-bad a Pharc Nantgarw)
  • Gwasanaeth 112 Adventure Travel (Dydd Sul, tuag at Tesco Glan-bad a Pharc Nantgarw)
  • Gwasanaeth 103 Stagecoach (tuag at Sainsbury’s ac Oaklands, Cilfynydd)
  • Gwasanaeth 120 Stagecoach (Blaen-cwm i Gaerffili)

Bydd y gwasanaethau canlynol yn defnyddio arhosfan E6 i’r De o’r Orsaf Drenau:

  • Gwasanaeth 132 Stagecoach (Maerdy i Gaerdydd)
  • Gwasanaeth X32 Stagecoach (Maerdy i Gaerdydd)

Nodwch na fydd gwasanaethau 103, 120 ac 132 Stagecoach yn defnyddio'r arosfannau ar Stryd y Santes Catrin (E2 ac E4) mwyach ac y byddan nhw'n hytrach yn defnyddio'r arhosfan newydd i’r De o’r Orsaf Drenau, a hynny'n barhaol. Bydd gwasanaethau 102 ac 112 Adventure Travel yn parhau i ddefnyddio arhosfan E3 ar Stryd y Santes Catrin yn ogystal â'r lleoliad newydd.

Meddai llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf : "Mae'r Cyngor wedi cadarnhau'r trefniadau ar gyfer yr arhosfan bysiau newydd i’r De o’r Orsaf Drenau. Bydd yr arhosfan yma'n cael ei defnyddio am y tro cyntaf gan wasanaethau lleol o 16 Medi. Roedd y cilfachau newydd ar gyfer bysiau yn rhan hanfodol o'r cyfleuster Parcio a Theithio llwyddiannus a gafodd ei ddefnyddio yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Yn dilyn saib byr a oedd yn gyfle i wneud y trefniadau terfynol gyda gweithredwyr bysiau lleol, fe fydd y cilfachau'n cael eu defnyddio'n barhaol ymhen dim o dro.

“Mae'r arhosfan newydd mewn lleoliad da; mae'n golygu y gall y sawl sy'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus deithio'n fwy rhwydd ar fysiau a threnau am yn ail ar gyfer gwahanol rannau o'u teithiau. Bydd hyn yn cyd-fynd yn effeithiol â'r cynnydd diweddar yn nifer y gwasanaethau trên sy'n cyrraedd ac yn gadael Pontypridd yn sgil Metro De Cymru. Heddiw, rydyn ni wedi rhannu'r manylion ynghylch pa wasanaethau lleol fydd yn defnyddio'r lleoliad newydd. Bydd hyn yn galluogi defnyddwyr i ymgyfarwyddo â'r trefniadau a chynllunio ymlaen llaw o 16 Medi.”

Trwy weithio'n agos gydag Awdurdod Trafnidiaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, fe wnaeth y Cyngor sicrhau cyllid ar gyfer y cilfachau bysiau newydd o Gronfa Trafnidiaeth Leol a Rhaglen Seilwaith Bysiau Rhanbarthol Llywodraeth Cymru. Efallai y bydd ymwelwyr â Phontypridd yn sylwi ar waith terfynol yn mynd rhagddo ar y safle hyd at ddiwedd mis Medi 2024, ond fydd hyn ddim yn effeithio ar y modd y bydd y cilfachau newydd yn cael eu gweithredu.

Wedi ei bostio ar 09/09/24