Mae’n bosibl y bydd ymwelwyr â chanol trefi Aberdâr a Phontypridd yn sylwi ar waith yn cael ei gynnal ar draws meysydd parcio’r Cyngor drwy gydol mis Medi – i osod peiriannau tocynnau newydd a fydd yn derbyn taliadau cerdyn digyswllt.
Hyd yn hyn, dim ond taliadau arian parod y mae peiriannau tocynnau ym meysydd parcio'r Cyngor wedi'u derbyn - oherwydd y ffïoedd prosesu uchel ar gyfer taliadau cerdyn gan Ddarparwyr Gwasanaethau Talu. Serch hynny, mae'r Cyngor bellach wedi sicrhau cyllid o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU i gyfrannu at y costau.
Yn ddiweddar rhoddodd y Cyngor y peiriannau newydd sy'n derbyn taliadau cerdyn digyswllt ar brawf ym Maes Parcio Millfield ym Mhontypridd.
Bydd taliadau cerdyn digyswllt yn dechrau cael eu cyflwyno ar draws holl feysydd parcio'r Cyngor yn Aberdâr a Phontypridd. Bydd y gwaith yn dechrau yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ddydd Llun, 2 Medi, a bydd y peiriannau newydd yn cael eu gosod yn raddol drwy gydol y mis.
Fydd y costau parcio ddim yn newid. Mae prisiau'n parhau i fod yn gystadleuol iawn, yn enwedig o’u cymharu â phrisiau meysydd parcio preifat sy'n cynnig dulliau talu â cherdyn. Bydd y peiriannau newydd sy'n cael eu gosod yn derbyn taliadau cerdyn ac arian parod.
Sylwch, bydd y broses o osod y peiriannau'n digwydd yn raddol – a dylai defnyddwyr meysydd parcio ragweld y bydd angen iddyn nhw barhau i dalu ag arian parod dros yr wythnosau nesaf.
Yn Aberdâr mae’r Cyngor yn berchen ar feysydd parcio Adeiladau'r Goron, y Llyfrgell, Y Stryd Las, Stryd y Dug, y Stryd Fawr, Nant Row, Rock Grounds a'r Ynys. Mae Maes Parcio Gadlys Pit ar gyfer deiliaid trwydded yn unig, a fydd dim angen gosod y peiriannau newydd yno. Ym Mhontypridd, mae'r Cyngor yn berchen ar feysydd parcio Heol y Weithfa Nwy, yr Iard Nwyddau (dim ond y rhan sy'n eiddo i'r Cyngor), Millfield, Heol Berw, Heol Sardis a Stryd y Santes Catrin.
Wedi ei bostio ar 03/09/2024