Skip to main content
Alert Symbol
Storm Goretti: Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi Rhybudd Tywydd AMBR am eira ac iâ. Bydd y rhybudd mewn grym o nos Iau, 8 Ionawr tan fore Gwener, 9 Ionawr. Bwriwch olwg ar gyngor pellach ar sut i baratoi ar gyfer Storm Goretti.

Oriau Agor dros Wyliau Banc y Pasg 2025

council-easter-message-WELSH

Oherwydd gwyliau’r Pasg, bydd y Cyngor (gan gynnwys ei ganolfan alwadau i gwsmeriaid) AR GAU ddydd Gwener, 18 Ebrill, a dydd Llun, 21 Ebrill – gan ailagor am 9am ddydd Mawrth, 22 Ebrill.

Mae'r trefniadau yma'n berthnasol i HOLL wasanaethau mawr y Cyngor, ar wahân i argyfyngau y tu allan i oriau swyddfa a nifer cyfyngedig o wasanaethau hanfodol.

Mae modd dod o hyd i ragor o wybodaeth am wasanaethau ar y tudalennau yma.

Os nad ydych chi'n gweld manylion y maes gwasanaeth rydych chi'i eisiau ar dudalen Gŵyl y Banc, trowch at dudalennau neu wefannau unigol y maes gwasanaeth am wybodaeth ynglŷn â'i oriau agor dros Ŵyl y Banc.  

Bydd modd i chi ddefnyddio ystod o wasanaethau ar-lein yn ystod y cyfnod yma, ond rhaid i drigolion gofio efallai na fydd ceisiadau yn cael eu prosesu tan 9am fore Mawrth 22 Ebrill 2025 pan fydd swyddfeydd yn ailagor.

Wedi ei bostio ar 17/04/2025