Bydd elfen gyntaf gwaith cynllun mawr i osod wyneb newydd ar yr A4233 yn ardal Maerdy yn cael ei chynnal dros wyliau'r Pasg – a hynny er mwyn adnewyddu rhan o lwybr troed yn Nheras Glanville. Bydd y cynllun yn cael ei gwblhau yn yr haf, gan gynnwys adnewyddu llwybr troed yn Stryd Richard a gosod wyneb newydd ar y ffordd gyfan.
Mae'r Cyngor wedi penodi Calibre Contracting Ltd i gynnal y gwaith cyntaf yn ystod pythefnos gwyliau'r ysgol o ddydd Llun 14 Ebrill. Bydd y gwaith dros y Pasg yn cynnwys adnewyddu rhan o lwybr troed yn Nheras Glanville. Fydd y palmant ddim ar gael a dylai cerddwyr ddefnyddio'r llwybr troed ar ochr arall y ffordd. Does dim angen mesurau rheoli traffig ar gyfer elfen yma'r gwaith.
Bydd ail elfen y cynllun cyffredinol yn cael ei chynnal yn ystod gwyliau'r haf eleni, er mwyn lleihau aflonyddwch ar y gymuned. Bydd hyn yn cynnwys adnewyddu'r rhan sy'n weddill o'r llwybr troed yn Nheras Glanville, yn ogystal â rhan o lwybr troed yn Stryd Richard. Yna bydd wyneb newydd yn cael ei osod ar y ffordd gerbydau, gan gwblhau'r cynllun.
Mae dyraniad gwerth £225,000 wedi cael ei glustnodi ar gyfer y cynllun mawr yma yn Rhaglen Gyfalaf y Priffyrdd a Thrafnidiaeth 2025/26.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Mae ein hymdrech fawr i gynnal a chadw priffyrdd yn parhau yn 2025/26, gan fod ein rhaglen gyfalaf sydd newydd gael ei chymeradwyo yn dyrannu £6.94 miliwn ar gyfer 78 o gynlluniau gosod wyneb newydd, £556,000 ar gyfer adnewyddu saith llwybr troed a gwella mynediad, a £200,000 ar gyfer pedwar cynllun ffordd heb ei mabwysiadu. Mae ein dull ariannu carlam dros nifer o flynyddoedd wedi cael ei adlewyrchu mewn tuedd gyffredinol o welliant mewn perthynas â chyflwr ein ffyrdd – er ein bod ni'n deall bod llawer i'w wneud o hyd.
“Mae'r gwaith sydd ar y gweill ar yr A4233 yn ardal Maerdy yn cynnwys cwblhau cam cyntaf y gwaith adnewyddu llwybrau troed yn Nheras Glanville, a hynny wrth ddefnyddio gwyliau'r Pasg i leihau aflonyddwch. Byddwn ni wedyn yn defnyddio gwyliau'r haf eleni i gwblhau gwaith gosod wyneb newydd ar lwybrau troed, gan gynnwys Stryd Richard – a bydd y cynllun cyffredinol yn cael ei gwblhau trwy osod wyneb newydd ar y ffordd gerbydau.
“Diolch ymlaen llaw i gymuned Maerdy am eich cydweithrediad. Bydd angen cau llwybr troed yn ystod y gwaith dros y Pasg ond fydd dim angen unrhyw fesurau rheoli traffig. Bydd swyddogion yn rhannu manylion rhaglen waith yr haf gyda thrigolion yn agosach at yr amser pan fyddan nhw wedi'u cadarnhau.”
Wedi ei bostio ar 03/04/2025