Mae cynllun atgyweirio wal gynnal ger canol tref Aberdâr bellach wedi'i gwblhau'n gynt na'r disgwyl, felly mae'r llwybr troed cyfagos wedi ailagor.
Dechreuodd y gwaith ddechrau mis Mawrth 2025 er mwyn atgyweirio'r strwythur mawr ar y rhan o'r A4233 rhwng cylchfan Gadlys a'r gylchfan ger Tesco/McDonald's.
Mae'r wal yn darparu ffin i gefn nifer o eiddo yng Ngerddi'r Gadlys, ac roedd angen cyfres o waith atgyweirio er mwyn diogelu'r strwythur ar gyfer y dyfodol.
Mae'r gwaith wedi cynnwys gosod meini copa newydd, gosod deunydd newydd yn yr uniadau ymestyn ac ailadeiladu gwaith bloc concrit diffygiol ar gefn y strwythur.
Mae gwaith carreg sydd wedi'i ddifrodi hefyd wedi cael ei atgyweirio ar ran flaen y wal, yn ogystal â gwaith clirio llystyfiant.
Roedd disgwyl i'r cynllun gael ei gwblhau ym mis Mehefin 2025 ond mae contractwr y Cyngor, Hammond ECS, wedi cwblhau'r holl waith yn ddiweddar, a hynny'n gynt na'r disgwyl.
Mae'r gwaith atgyweirio yma wedi cael ei ariannu gan Raglen Gyfalaf Priffyrdd barhaus y Cyngor.
Diolch i drigolion am eich cydweithrediad, gan gynnwys defnyddio'r llwybr amgen i gerddwyr, er mwyn i'r cynllun atgyweirio lleol yma gael ei gyflawni'n ddiogel.
Wedi ei bostio ar 23/04/2025