Skip to main content

Gwaith cychwynnol i lywio gwaith atgyweirio wal gynnal yn Ynys-hir yn y dyfodol

Gynor Place, Ynyshir - Copy

Mae'n bosibl y bydd trigolion yn sylwi ar waith yn digwydd ym Maes Gynor, Ynys-hir o'r wythnos nesaf, yn rhan o gam nesaf yr ymchwiliadau i lywio cynllun atgyweirio wal ar gyfer y dyfodol.

Mae'r wal gynnal islaw Maes Gynor wedi'i difrodi – a bydd tua phythefnos o waith yn digwydd o ddydd Mawrth, 6 Mai, er mwyn dylunio rhaglen adfer ar gyfer y dyfodol.

Mae'r Cyngor wedi penodi Jackson Geotechnical Services Ltd fel y prif gontractwr i gynnal gwaith ar y safle'r wythnos nesaf.

Bydd y gwaith yma'n cynnwys arolwg ymchwilio i’r ddaear, lle mae angen tynnu samplau deunydd o'r wal gynnal.

Bydd angen mesurau rheoli traffig yn lleol er mwyn i'r gwaith ddigwydd yn ddiogel, gan gau un ochr o'r ffordd dros bellter byr.

Does dim angen goleuadau traffig felly – gall defnyddwyr y ffordd fynd heibio'r safle gwaith yn ôl eu disgresiwn pan fydd y ffordd yn glir.

Dyma'r ail gam o ymchwiliadau i lywio'r cynllun ar gyfer dyfodol ym Maes Gynor, ar ôl i bedair ffos brawf gael eu cloddio ar y ffordd ar ddiwedd mis Gorffennaf a dechrau mis Awst 2024.

Bydd y prif gynllun gwaith yn cael ei gyflawni yn y dyfodol trwy gyllid rhaglen gyfalaf y Cyngor.

Diolch ymlaen llaw i drigolion lleol am eich cydweithrediad.

Wedi ei bostio ar 30/04/2025